Ble mae’r digwyddiad a faint o’r gloch?
Dydd Sul 1 Rhagfyr 2019. Cwrdd am 8.00am yng Nghanolfan Stagbwll. Mae cyfarwyddiadau i’w gweld ar wefan Stagbwll, yma.
Ar ôl cyrraedd, ewch i’r ddesg gofrestru lle cewch fap a chopi o’r rheolau.
Bydd y gystadleuaeth yn digwydd o 9.00am i 3.00pm. Bydd yna gyflwyniad am 3.30pm yn y Theatr yng Nghanolfan Stagbwll.
Pwy all gymryd rhan?
Bydd yna ddau gategori; un i oedolion ac un i blant 16 oed ac iau.
Rhaid bod gan bob pysgotwr Drwydded Gwialen Asiantaeth yr Amgylchedd a thrwydded bysgota (tymor neu ddiwrnod) yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Mae croeso i bobl sydd ddim yn cymryd rhan ddod i wylio.
Beth yw pris tocyn mynediad?
Mae tocynnau Deryn Cynnar rhatach ar gael tan 29 Tachwedd 2019. Gallwch hefyd brynu tocynnau ar y dydd. Mae'r prisiau fel a ganlyn:
Oedolyn - £8 am docyn Deryn Cynnar ar-lein. £10 ar y dydd.
Iau (16 oed ac iau) a hŷn (60+) - £4 am docyn Deryn Cynnar. £5 ar y dydd.
Gwely a brecwast ysgafn ar gael am £32 y pen yng Nghanolfan Stagbwll, ger y Llynnoedd. I gael rhagor o wybodaeth am y llety, ffoniwch: 01646 623110
Gallwch brynu tocynnau yn: https://www.eventbrite.co.uk/e/stackpole-pike-fishing-match-tickets-78196900033
Beth yw’r gwobrau?
Oedolyn:
1af – Tlws, tocyn tymor (gwerth £50)*, print A3 David Millar**
2il – Taleb gwerth £25 a thocyn dydd.
3ydd – Taleb gwerth £15 a thocyn dydd.
Iau:
1af – Tlws, tocyn tymor (gwerth £30)*, print A3 David Millar**
2il – Taleb gwerth £15 a thocyn dydd.
3ydd – Taleb gwerth £10 a thocyn dydd.
*Mae Tymor Pysgota’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Llynnoedd Bosherston yn rhedeg o 16 Mawrth i 16 Mehefin, gan gynnwys y dyddiadau hynny. Mae’r tocyn tymor yn rhoi mynediad i chi i’r pwyntiau pysgota o gwmpas Llynnoedd Bosherston.
**Mae’r artist bywyd gwyllt David Miller yn adnabyddus am ei baentiadau tanddwr trawiadol o bysgod hela, bras a morol. Mae wedi ymddangos ar Autumnwatch y BBC, Iolo’s Great Welsh Parks, The One Show a Natural Histories Radio 4. I gael rhagor o wybodaeth ewch i: www.davidmillerart.co.uk/
Pa fwyd a diod sydd ar gael?
Mae te, coffi, dewis o gacennau a bisgedi ar gael wrth y ddesg gofrestru. Bydd bar a mwy o luniaeth ar gael yn y seremoni wobrwyo am 3.30pm.
Oes lle parcio?
Mae digon o lefydd parcio am ddim ar gael yng Nghanolfan Stagbwll, SA71 5BH. Dilynwch yr arwyddion twristiaeth brown i ‘Canolfan Stagbwll’.
Beth yw rheolau’r gystadleuaeth?
Bydd gwobrau’n cael eu rhoi am y pysgodyn trymaf yn y categori Oedolion (1af, 2il, 3ydd) a’r categori Iau, sef 16 oed ac iau (1af, 2il, 3ydd)
Rhaid pysgota wrth y pegiau ar y fraich ddwyreiniol a’r fraich orllewinol
Ni chaniateir pysgota o Bont yr Wyth Bwa na’r sarnau
Caniateir un wialen fesul pysgotwr. Uchafswm o 2 fachyn hanner di-adfach.
Gall pysgotwyr ddefnyddio abwyd llith ac abwyd môr yn unig
Rhaid bod gan bob pysgotwr Drwydded Gwialen Asiantaeth yr Amgylchedd a thrwydded bysgota (tymor neu ddiwrnod) yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Rhaid bod gan bob pysgotwr fynediad i rwydi glanio ac offer dad-fachu addas.
Rhaid i bysgod gael eu cadw mewn rhwydi o dan y dŵr tan iddynt gael eu cofnodi. Ni chaniateir byw-faetio o gwbl.
Caiff unrhyw un sy’n torri’r rheolau ei daflu allan o’r gystadleuaeth.
Gornest yn gorffen am 3.00pm
Cyflwyno gwobrau yng Nghanolfan Stagbwll am 3.30pm. Bar a lluniaeth ar gael.
Bydd penderfyniad prif geidwad yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn derfynol.
Unrhyw gwestiynau eraill?
Os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill, cysylltwch â Chanolfan Stagbwll ar 01646 623110
Talebau wedi’u rhoi drwy garedigrwydd
J&M Tackle & Bait Shop, Doc Penfro
Mainwarings Angling Centre, Abertawe
County Sports, Hwlffordd