Daeareg syfrdanol o Ben Strwmbwl i Aberteifi

Plygiadau clogwyni Gernos

Mae’r tirwedd rhwng Pen Strwmbwl ac Aberteifi, a ffurfiwyd gan natur dros filiynau o flynyddoedd, yn greigiog, gerwin ac anghysbell. Yn ogystal â daeareg syfrdanol yr ardal, mae llwyth o hanes i’w ddarganfod hefyd, o aneddiadau yr Oes Haearn i ymosodiadau rhyfelgar.

Garn Fawr

Mae’r creigiau brig yma, a ffurfiwyd gan symudiadau folcanig, yn cynnig golygfeydd ysblennydd o arfordir Gogledd Sir Benfro. Bryngaer oedd yma yn yr Oes Haearn ac yn ystod yr Ail Ryfel Byd roedd yn fan gwylio. Mae’n agos i Hostel Ieuenctid, goleudy a gwylfa adar ar Ben Strwmbwl
 

Rhostir Ciliau

Mae Rhostir Ciliau yn ehangder ardderchog o weundir gwlyb arfordirol. Ar un adeg roedd yn cael ei bori gan wartheg a defaid y bobl oedd â hawliau comin dros y tir, ond bellach mae’n llawn gordyfiant. Mae’n digonedd o adar yma, ac mae’r tir yn edrych draw dros Carreg Wastad, lleoliad goresgyniad olaf Prydain gan y Ffrancod yn 1797. Fe gawson nhw eu gorchfygu gan filwyr lleol dan arweiniad y Cyrnol Campbell o Ystagbwll a Syr John Colby – a dewrder menyw leol o’r enw Jemeima Nicholas. 
 

Pen Anglas

Ffurfiwyd arfordir Pen Strwmbwl gan symudiadau folcanig. Ym Mhen Anglas mae enghraifft o’r math o bilergraig chwech ochor sydd i’w gweld yn y Giant’s Causeway yng Ngogledd Iwerddon ac ar Staffa yn Ynysoedd Heledd. Mae Pen Anglas yn llawn gweundir arfordirol arbennig, yn gyfoethog ei liw yn niwedd yr haf.
 

Ynys Dinas

Ffurfiwyd y sianel sydd bron â thorri’r pentir hwn i ffwrdd o’r tir mawr gan ddŵr tawdd rhewlifol. Bu pobl yn ffermio ar Ben Dinas ers yr 16eg ganrif – roedd Ronald Lockley, y naturiaethwr enwog, yn ffermio yma yn y 1940au, cyn symud i Ynys Sgomer.
 

Pen yr Afr a Gernos

Dyma’r clogwyni môr uchaf yn Sir Benfro, a dyma un o ddarnau mwyaf heriol y llwybr 184 milltir o gwmpas arfordir Cymru. Mae’r creigiau, gyda’u plygiadau a’u ffawtiau aruthrol, wedi eu ffurfio o dywodfaen a cherrig llaid a gladdwyd 450 miliwn o flynyddoedd yn ôl.