Coedwigoedd Coed-y-bwnydd

Clychau’r gog a blodau’r milwr yng Nghoed-y-bwnydd

Coed-y-bwnydd yw’r fryngaer Oes Haearn fwyaf, ac o bosib, yr un sydd wedi’i chadw orau yn Sir Fynwy, gyda hanes dynol yn dyddio yn ôl fwy na 2,000 o flynyddoedd.

Heddiw, mae cysgodion brith, caneuon adar a phersawr clychau’r gog yn y gwanwyn yn golygu bod y dirwedd donnog hon yn parhau i fod yn hafan i bobl a bywyd gwyllt fel ei gilydd.

Lleolir Coed-y-bwnydd yn uchel ar benrhyn coediog, 196m uwchben lefel y môr. Mae’n edrych dros bentref Betws Newydd ac mae’n agos at Stad Cleidda.

Heneb

Mae’r llethrau serth a choediog yn arwain at gaer gyda thri rhagfur. Mae’r rhagfuriau hyn, sydd mewn cyflwr da, yn amgylchynu canol coediog crwn. Gan fod y rhagfuriau mewn cyflwr mor dda mae’r gaer wedi cael ei chydnabod yn genedlaethol fel Heneb Restredig.

Carped o liw

Gan fod Coed-y-Bwnydd wedi ei leoli ar ben deheuol llethr coediog hir sy’n cydredeg â’r Afon Wysg, mae’n llecyn perffaith i fwynhau golygfeydd o’r caeau a’r coedwigoedd sy’n amgylchynu’r gaer. Fe gewch chi hefyd olygfeydd godidog o Ddyffryn Wysg a’r wlad tu hwnt.

Yn y gwanwyn mae’r carped o glychau’r gog, briallu, tegeirianau a blodau’r milwr yn ychwanegu at yr amrywiaeth o liwiau hardd drwy’r safle hanesyddol hwn.

Er cof

Rhoddwyd Coed-y-bwnydd i ni gan y Capten Geoffrey Crawshaw er cof am ei gyfaill, y Sarjant Arthur Owen, a fu farw mewn damwain hedfan yn yr Ail Ryfel Byd. Mae hyn  yn rhoi mwy o ddwyster fyth i’r lle arbennig hwn.