Coetir sydd ar y gweill ers 25 mlynedd ar Ysgyryd Fawr

Cynllun i adfer Coetir Hynafol ar Ysgyryd Fawr, Y Fenni

Mae angen amynedd wrth reoli coedwigoedd, yn arbennig felly pan fyddwch chi'n dechrau ar gynllun uchelgeisiol i dynnu coed conwydd o goetir hynafol.

Pum mlynedd ar hugain yn ôl dechreuodd ein Ceidwad, Stuart McDonnell, ar y gwaith o adfer Ysgyryd ger Y Fenni. Roedd y safle, sy'n ymestyn dros 14 hectar (sef maint 14 cae rygbi fwy neu lai) wedi ei orchuddio â choed conwydd. Dros gyfnod o 10 mlynedd llwyddwyd i leihau'r gorchudd o gonwydd i 25%.

Erbyn 2001 roedd y rhan fwyaf o'r gwaith wedi'i gwblhau, ac felly wedyn roedd hi'n fater o aros, ac aros, i'r coetir ddod yn ôl at ei hun unwaith eto. Gan fod coetir hynafol wedi sefyll ar y safle yn y gorffennol, roedd ffynhonnell wych o hadau yn y pridd. Wedi i'r tir gael ei aflonyddu, ac wrth i olau ddechrau disgyn ar lawr y coetir, dechreuodd yr adferiad ddigwydd.

Ar ôl camu i mewn y tro cyntaf, beth wnaethon ni nesaf? 

Am y 15 mlynedd nesaf, gadawyd i fyd natur redeg ei gwrs ac fe dyfodd y coed yn ôl. Yr unig bryd i ni ymyrryd â'r coetir oedd wrth gynnal y rhwydwaith o rodfeydd ynddo, oedd nid yn unig yn rhoi mynediad i ni i'r coetir ond hefyd yn creu coridor ar yr ymylon i bili-pala gael ffynnu ac i annog tyfiant planhigion sydd i'w gweld mewn coetiroedd hynafol.

Asesu cyflwr y safle heddiw  

Wrth edrych ar y safle heddiw mae'n anodd dychmygu bod planhigfa o goed conwydd wedi gorchuddio'r dirwedd hon. Erbyn hyn mae tyfiant dwys o goed bedw, onnen, cyll, gwernen a helyg wedi llenwi'r safle. Mae'r coed hyn o'r un taldra, ac yn cystadlu am olau, yn ogystal â'r coed conwydd sy'n dal ar ôl ac yn dechrau cyrraedd at aeddfedrwydd. 

Daeth arolwg ar gyflwr Safle Coetir Hynafol wedi'i Adfer (RAWS) gan Goed Cadw i'r canlyniad bod y safle wedi gwella o'i gyflwr gwael, a'i fod bellach mewn cyflwr da, ac yn agos at fod mewn cyflwr da iawn.

Ydy'r llwyddiant hwn yn golygu diwedd i'n gwaith? 

Mae hyn yn brawf o lwyddiant ein cynllun i adfer y coetir hynafol ar Ysgyryd Fawr. Ond er y llwyddiant, nid dyma ddiwedd ar ein gwaith.

Rydyn ni nawr yn dechrau ar ein cynllun ar gyfer y 5 mlynedd nesaf, sef i reoli'r coetir mewn ffordd weithgar. Byddwn ni'n gweithio ein ffordd drwy'r coetir, gam wrth gam, gan dorri nôl y tyfiant trwchus sydd wedi'i adfywio. Byddwn ni'n rhoi ffafriaeth i goed sydd mewn cyflwr da ac yn gadael bylchau yn y canopi er mwyn helpu i sefydlu gwahanol haenau o dyfiant yn y coetir. 

Byddwn ni hefyd yn teneuo'r coed conwydd. Gellid dadlau y dylem ni fod yn torri'r holl gonwydd sy'n dal i sefyll, ond dydyn nhw ddim yn hollol barod eto ac maen nhw'n dal i fod yn adnodd defnyddiol, sy'n ffynhonnell o incwm.

Yn y tymor hir

Wedi i ni gwblhau'r gwaith diweddaraf bydd yma goetir sydd yn fwy agored ac yn fwy amrywiol, a byddwn ni'n gadael y safle i ddod yn ôl at ei hun unwaith eto. Fe welwn ni fwy o flodau ar y lefelau isaf, blodau fel clychau'r gog a ddechreuodd ddod i'r golwg yn y gwanwyn eleni. Byddwn ni'n monitro'r pili-pala er mwyn cael gweld pa effaith rydyn ni'n ei gael ar nifer eu poblogaethau.

Ymhen ugain mlynedd fe ddylem ni fod yn agos at sefyllfa lle nad yw hi'n bosibl dweud fod planhigfa wedi bod yna erioed. 

Mae amynedd yn allweddol wrth reoli coetiroedd. Er y gall rhywogaethau unigol gael eu hadfer yn gyflym, o ran y coetir yn gyfan gall y broses fod yn un araf a does dim byd yn digwydd 'dros nos'. Mae'r gwaith o reoli yn cael ei drosglwyddo o un person i'r nesaf ac mae hyn yn sicrhau cysondeb yn y rheoli.