
Ynghudd dan gopa unigryw Mynydd Pen-y-fâl mae ‘na fyd bach sy’n gwrthgyferbynnu’n llwyr â thir gwyllt a garw’r copa. Mae Cwm y Santes Fair yn swatio rhwng cribau crwn bryniau Llanwenarth a Rholben, lle mae milltiroedd o goed deri a ffawydd hyfryd yn gorchuddio ochrau’r cwm a lle mae Nant Iago yn dechrau ei thaith.

Diweddariad Coronafeirws
Rydyn ni'n ailagor y lleoedd rydych chi'n eu caru, yn raddol, yn ddiogel ac yn unol â chyngor y llywodraeth. Mae ein tai, gerddi a pharcdiroedd yn parhau i fod ar gau am y tro, yn unol â'r rheolau ynghylch lleoliadau â thocynnau. Ond rydyn ni'n agor rhai o'n meysydd parcio arfordir a chefn gwlad yn Lloegr, er mwyn i chi fynd allan i fannau gwyrdd. Bydd angen i chi archebu ar gyfer rhai ohonyn nhw. Am y tro, mae'n rhaid i bob maes parcio yng Nghymru a Gogledd Iwerddon aros ar gau ar gyngor y llywodraeth. Darllenwch yr erthygl hon i ddarganfod beth sy'n agored, sut y gallwch ymweld, a beth i'w ddisgwyl o'ch ymweliad.
Ewch i’r goedwig i weld y coed
Mae’r coetiroedd rhyfeddol hyn yn creu mur o ddail i’ch gwarchod rhag gweddill y byd. Yn y gwanwyn mae gwyrddni llachar yr holl goed yn ffurfio cadeirlan fawreddog naturiol, gyda golau’r haul yn diferu drwy’r dail gan greu patrwm brith o gysgodion sy’n chwarae ar wyneb y dŵr sy’n llifo ar hyd Nant Iago ac i lawr at dref y Fenni.
Mae dail marw yn ffurfio carped naturiol, ac yn yr hydref mae’r lliwiau gwyrdd cyfoethog yn troi’n raddol nes creu cynfas cyfoethog o liwiau coch, oren a melyn gloyw.
Mae darnau mawr o’r coetiroedd hyn wedi cael dynodi’n Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac yn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig. Mae’r cwm hefyd yn gartref i boblogaeth fawr o forgrugyn coch y coed, sy’n brin iawn.