Capel San Mihangel
Mae Capel San Mihangel, sy’n adfail erbyn hyn, yn sefyll ar ben copa Ysgyryd Fawr. Defnyddiwyd y capel gan Babyddion yn ystod ac ar ôl y Diwygiad Protestannaidd. Cynhaliwyd gwasanaethau yn y capel tan o leiaf 1680, pan ddywedodd John Arnold o Lys Llanfihangel iddo weld ‘cant o babyddion yn cwrdd ar ben y bryn hwn o’r enw Mynydd San Mihangel lle mae cyfarfodydd niferus, a lle caiff pregethau eu traddodi wyth neu ddeg o weithiau y flwyddyn’.
Y Mynydd Sanctaidd
Mae’n cael ei adnabod yn lleol fel y ‘Mynydd Sanctaidd’, ac mae chwedl boblogaidd yn adrodd sut yr achoswyd y tirlithriad dramatig ar ochr ogleddol y mynydd gan ddaeargryn neu fellten ar yr union adeg pan groeshoeliwyd Crist.
Roedd traddodiad lleol bod pridd o Ysgyryd yn sanctaidd ac yn arbennig o ffrwythlon, ac fe’i cymerwyd i wasgaru ar gaeau, ar eirch ac i’w gynnwys mewn sylfeini eglwysi. Gwnaed pererindodau i’r copa, yn enwedig ar Noswyl Fihangel.
Jack O'Kent y cawr
Mae stori leol yn adrodd hanes cawr o’r enw Jac O’Kent a gafodd ffrae gyda’r Diafol ynghylch pa fynydd oedd yr uchaf, Pen-y-fâl neu Fryniau’r Malvern ar draws y ffin. Dadl Jac oedd mai Pen-y-fâl oedd yr uchaf ac fe’i profwyd yn gywir. Roedd y Diafol mor grac am hyn nes iddo gasglu llond ffedog enfawr o bridd i ollwng dros Fryniau’r Malvern i’w gwneud yn uwch. Ond wrth iddo groesi Ysgyryd torrodd llinynnau’r ffedog, gan ddadlwytho’r pridd ar Ysgyryd a ffurfio’r twmp ar y pen gogleddol.