Pen-y-fâl

Pen-y-fâl, Sir Fynwy

Mae mynydd Pen-y-fâl yn bwrw ei gysgod dros y wlad o’i gwmpas ac mae’n creu tirwedd gefndirol drawiadol i dref farchnad y Fenni yn Ne Cymru.

Copa eiconig

Mae Pen-y-fâl yn sefyll rhwng cribau bryniau Llanwenarth, Deri a Rholben ac mae’n un o’r copaon uchaf yng nghalon y Mynydd Du. Mae’n 596m o uchder ac yn cynnig golygfeydd panoramig godidog ar draws de Cymru, Bannau Brycheiniog, ac i dde-orllewin Lloegr.

Mae ei siâp gonig yn atgoffa rhywun o losgfynydd, ond mae’r mynydd wedi’i wneud o’r un hen dywodfaen coch â gweddill y Mynydd Du.

Dianc i’r bryn agored

Mae llwybrau yn dringo’n raddol dros ysgwyddau grugog a rhedynog crwn y mynydd ac mae’n lle braf i gerdded a mwynhau’r tir gwyllt a garw, drwy gydol y flwyddyn.

Y prif bwynt mynediad i Ben-y-fâl yw maes parcio Mynydd Llanwenarth. O’r fan hon gallwch anelu am y copa, neu os byddai’n well gennych gerdded yn fwy hamddenol, mae digon o lwybrau i’w dewis ar draws Mynydd Llanwenarth sydd, gan mwyaf, yn wastad.

Gwylio bywyd gwyllt

Mae’r mynydd yn hafan i fywyd gwyllt yr ucheldir. Mae’r ehedydd swynol yn codi’n uchel i’r awyr, mae’r wennol a gwennol y bondo yn gwibio ‘nôl a blaen ac mae grugieir coch yn swatio yn y grug, tra bo’r bwncath ac ambell farcud coch yn hedfan uwchben.
 

Mae tair crib Llanwenarth, Rholben a Deri, sy’n edrych fel bysedd, wedi’u ffurfio o lechweddau Pen-y-fâl. Maen nhw’n creu dau gwm coediog dwfn – Cwm y Santes Fair a Chwm Cibi. Mae’r coedwigoedd deri sy’n dechrau ar ben Mynydd Llanwenarth yn rhedeg am sawl cilomedr trwy’r cymoedd hyn ac maen nhw’n gynefinoedd gwych ar gyfer darganfod byd natur ar unrhyw adeg o’r flwyddyn.

Tir comin

Mae rhostir agored Pen-y-fâl yn dir comin cofrestredig sy’n ymestyn dros ddwy sir. Mae’r rhan fwyaf yn gorwedd yn Sir Fynwy, a’r gweddill ym Mhowys.

Mae tir comin yn dir preifat, y mae gan ffermwyr hawl i bori anifeiliaid arno. Golyga hyn fod y mynydd yn chwarae rhan hanfodol ym mywyd a gwaith y ffermydd o’i gwmpas sydd â hawliau pori ar Fynydd Pen-y-fâl.