
Yn sefyll ar ei phen ei hun ar gyrion y Mynydd Du yn Sir Fynwy, mae Ysgyryd Fawr, neu’r ‘Mynydd Sanctaidd’, yn lle sy’n gyforiog o fythau a chwedlau.
Mae Ysgyryd Fawr wedi ei gwahanu wrth y brif gadwyn o fynyddoedd gan Gwm Gafenni. Mae’n codi’n ddramatig allan o’r dirwedd, er, yn 486m o uchder, mae’n llai na’i chymdogion.
Beth sydd mewn enw?
Mae’r enw Cymraeg ‘Ysgyryd’ yn golygu ‘crynu’ neu ‘ysgwyd’. Mae’n hawdd gweld o ble y daeth yr enw hwn, gyda’r tirlithriad enfawr ar ben gogleddol y bryn. Mae Ysgyryd Fawr yn dueddol o ddioddef lleidlifoedd a thirlithriadau hyd yn oed heddiw.
Y Mynydd Sanctaidd
Mae Ysgyryd Fawr yn cael ei hadnabod yn lleol fel ‘y Mynydd Sanctaidd’. Gallai hyn fod wedi dod o ddwy ffynhonnell. Y ffynhonnell gyntaf yw Capel San Mihangel, sy’n adfail erbyn hyn, ac sy’n sefyll ar y gopa. Fe’i defnyddiwyd gan Babyddion ar ôl y Diwygiad Protestannaidd.
Yr ail yw’r chwedl sy’n adrodd sut yr achoswyd y tirlithriad dramatig ar ochr ogleddol y mynydd gan ddaeargryn neu fellten ar yr union adeg pan groeshoeliwyd Crist.
Ewch am dro
Mae lleoliad anghysbell Ysgyryd Fawr yn golygu y cewch chi olygfeydd ysblennydd i bob cyfeiriad: Swydd Henffordd a’r Mendips tua’r gogledd, y Mynydd Du a Bannau Brycheiniog tua’r gorllewin, Dyffryn Wysg a Gwlad yr Haf tua’r de a Swydd Gaerloyw a Fforest y Ddena tua’r dwyrain.
Y maes parcio newydd (codir tâl) ar y ffordd o’r Fenni i Ynysgynwraidd yw’r prif fynedfa i’r bryn. O’r fan hon, mae’r llwybr serth a throellog yn arwain drwy Goedwig Pant Ysgyryd ac allan ar y grib, lle mae llethrau mwy graddol yn arwain i’r copa.
Gall y rhai sydd am brofi eu hunain go iawn sgrialu i’r copa ar hyd ochr ogleddol y mynydd, tra bod llwybrau trwy Goedwig Pant Ysgyryd yn cynnig cerddad mwy hamddenol.