Taith Ysgyryd Fawr mynydd y mythau a'r chwedlau
Ewch am dro egnïol drwy’r tir coediog ac allan i’r mynydd-dir agored, cyn dringo’n serth i’r copa, lle mae Eglwys Sant Mihangel a golygfeydd ysblennydd o’r wlad o gwmpas.

Dechrau:
Maes parcio ar y B4521, cyfeirnod grid: SO328164
1
O’r maes parcio, ewch ar hyd y trac graean a’i ddilyn hyd at dro sydyn i’r dde; dilynwch y llwybr hwn ac i mewn i’r tir coediog dros y gamfa ar ben y trac. Dilynwch y llwybr amlwg lan y bryn nes cyrraedd giât bren ar dop y tir coediog. Trowch i’r chwith a dilyn y llwybr sy’n ymdroelli o amgylch ochr y bryn.
Chwedl leol
Enw arall ar Ysgyryd Fawr (Skirrid Fawr yn Saesneg) yw’r Mynydd Sanctaidd neu’r Bryn Cysegredig. Enw sy’n disgrifio siâp y bryn yw Ysgyryd am ei fod yn air am rywbeth sydd wedi crynu neu dorri’n chwilfriw. Yn ôl y chwedl, credir bod rhan o’r mynydd wedi torri’n rhydd ar eiliad croeshoelio Crist.
2
Pan gyrhaeddwch ben y bryn, cymerwch y llwybr gwair ar ochr dde Ysgyryd, ac yna dringfa fer, ond serth, yw hi i’r copa a’r pwynt trig.
Eglwys Sant Mihangel
Mae’r eglwys ar y copa yn dyddio nôl i’r oesoedd canol. Defnyddiwyd yr Eglwys Gatholig yn ystod yr 17eg ganrif fel lleoliad dirgel i weinyddu’r offeren yn ystod cyfnod o erledigaeth.
3
O’r pwynt trig, anelwch i gyfeiriad y de, lawr y grib, nes cyrraedd y mynegbost.
4
O’r mynegbost, dilynwch y llwybr sy’n eich hebrwng lawr i’r tir coediog, a dychwelwch i’r maes parcio.
Ysgolion coedwig
Ar y chwith wrth i chi gerdded nôl lawr drwy’r tir coediog, fe welwch safle’r ysgol goedwig, lle mae disgyblion o ysgolion lleol yn dod i ddysgu am fyd awyr agored a chael hwyl.
Diwedd:
Maes parcio ar y B4521, cyfeirnod grid: SO328164