Taith gylchol fer Cleidda
Cerddwch yn hamddenol drwy’r stad ddigyfnewid hon yn Sir Fynwy a mwynhau’r golygfeydd hyfryd, yr hanes cyfoethog a digon o fywyd gwyllt.

Dechrau:
Maes parcio glan afon Cleidda SO361085
1
O’r maes parcio, cymerwch y giât i’r dde o’r panel dehongli a pharhewch am 220 llath (200m). Dilynwch y llwybr o gwmpas i’r dde ac ymlaen ar hyd Afon Wysg. Ar ôl tua 660 llath (600m), ewch drwy’r ail giât ar y dde (yr un â’r gwrthbwys carreg) ac ewch ychydig i fyny’r bryn ac ar hyd ymyl y cae i’r giât wiced fetel sy’n arwain i’r heol.
2
Croeswch yr heol yn ofalus. Ewch trwy’r giât bren ar ochr chwith hen ddoc caniau llaeth. Ar ôl pellter byr ewch drwy giât wiced ar eich chwith. Dilynwch y llwybr ar hyd ymyl y cae y tu ôl i ddarn o goetir a chefn gardd Rose Cottage. Mae’r llwybr yn arwain i giât mochyn bren sy’n mynd â chi i mewn i Goedwig Twyn y Cregan. Dilynwch yr arwyddion wedi’u marcio trwy’r coetir gan olrhain cwrs Nant Clawdd cyn pasio’n agos i’r A40 a mynd i fyny at ymyl y goedwig. Cyn i chi droi i’r chwith mwynhewch y golygfeydd ar draws Parc Cleidda i Gastell Cleidda. Mae’r llwybr bellach yn dilyn trac ar ymyl y goedwig gyda pharcdir ar eich ochr dde. Ar ôl 440 llath (400m) byddwch yn dod at drac arall, trowch i’r chwith (sylwch nad oes Hawl Dramwy Gyhoeddus trwy’r buarth), yna yn syth i’r dde a dilyn llwybr sy’n ymdroelli trwy’r coed. Dilynwch y llwybr i ddod allan y tu ôl i berth ac ar bwys trac. Pan ddaw’r berth i ben, ewch ar draws y trac i’r chwith i giât mochyn sy’n mynd i mewn i gae ger coeden dderw fawr. Os byddwch yn cyrraedd cefn Chapel Farm bydd rhaid i chi droi rownd a dod o hyd i’r giât mochyn ar eich ochr dde.
Coed hynafol Cleidda
Mae tua 100 o goed hynafol yn tyfu hwnt ac yma ar Stad Cleidda, yn cynnwys coed derw, coed castanwydd pêr a choed ffawydd. Mae llawer ohonyn nhw allan o’r golwg, ond wrth i chi gyrraedd pwynt 2, fe welwch dderwen hynafol wedi hollti; mae hon yn gannoedd o flynyddoedd oed ac mae’n gynefin cyfoethog i ddwsinau o rywogaethau. Wrth i chi barhau o amgylch cefn Chapel Farm, ychydig cyn pwynt 3, fe welwch ddwy hen dderwen arall. Mae’r coed castan pêr a’r coed pisgwydd ger Castell Cleidda hefyd yn werth chwilio amdanynt.
3
Gan gadw’r goeden dderw ar eich chwith, dilynwch y llwybr ar draws y cae i gamfa. Wrth i chi groesi’r cae, byddwch yn pasio sawl carreg ar eich chwith. Dyma adfeilion Capel Sant Aeddan a sefydlwyd ym 1188 gan Aeddan o Waethfoed. Ar ôl croesi’r gamfa gyntaf, parhewch i ddilyn y llwybr wedi’i farcio i’r de trwy sawl cae a giât. Yn y pen draw, byddwch yn croesi padog ceffyl, ewch i gornel dde uchaf y cae hwn a thros y gamfa a dilyn darn byr o drac i giât fetel ger yr heol. Ar eich chwith mae dreif sy’n arwain i dafarn y Clytha Arms. Croeswch yr heol yn ofalus iawn i res o risiau cerrig serth i fyny i ben clawdd lle mae’r daith yn parhau.
Capel Aeddan
Roedd y Capel hwn yn dal i fodoli yn y 14eg ganrif, ond fe’i difethwyd yn ddiweddarach. Erbyn 1957, dim ond tomen o gerrig ydoedd gyda rhai nodweddion pensaernïol. Yn amgylchynu Capel Aeddan mae safle pentref canoloesol amddifad, lle awgrymir y safai adeilad gwreiddiol Maenor Cleidda.
4
Croeswch yr heol yn ofalus a dringo’r grisiau. Ar ôl mynd trwy’r giât ar ben y grisiau, cadwch i’r dde a pharhau i ddilyn yr arwyddion dros gwpl o gamfeydd i mewn i gae ar ochr bryn. Dilynwch y rhes o goed pisgwydd ar letraws i lawr i’r llwybr. Roedd y coed hyn yn arfer ffurfio rhodfa at Gastell Cleidda. Ar ôl cyrraedd y trac, trowch i’r dde, gan gymryd y fforch ar yr ochr dde i fyny at y castell.
Castell Cleidda
Ystyrir Castell Cleidda fel un o’r ffoldai nodedig a godwyd yng Nghymru yn y 18fed ganrif. Cafodd ei ddylunio gan John Davenport a’i adeiladu gan William Jones o Dŷ Cleidda gyda’r diben o ‘dawelu meddwl yr effeithiwyd arno ar ôl colli gwraig hynod ragorol’. Heddiw mae’n eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac ar brydles i Ymddiriedolaeth Landmark sy’n ei rentu allan fel llety gwyliau.
5
Cymerwch ychydig o amser i edmygu’r eiddo rhyfeddol hwn a’r golygfeydd ar draws Pen-y-fâl a’r Ysgyryd. Dilynwch yr arwyddion pren sy’n eich cyfeirio ar hyd trac sy’n rhedeg i lawr y tu ôl i’r Castell. Ewch trwy giât y cae pren ar ymyl Castell y Goedwig ac yn ôl i barcdir. Mae’r llwybr yn dilyn trac glaswelltog i lawr y rhiw ar hyd crib clawdd serth â choed gwasgaredig arno. Pan ddaw’r coed i ben, trowch i’r chwith yn ôl o dan y clawdd gyda’r parcdir ar eich ochr dde. Ar ôl 220 llath (200m) cadwch i’r dde ac i lawr y rhiw nes i chi gyrraedd giât wiced fetel fach ger yr heol. Ewch drwy’r giât, trowch yn syth i’r chwith a cherdded ar hyd y ffordd am 50m cyn troi i’r dde yn ôl i’r maes parcio lle dechreuoch chi’ch taith gerdded.
‘Mae rhagolygon llawer mwy helaeth ond ddim llawer sydd mor bleserus: mae natur wedi lleoli’r bryniau a’r mynyddoedd ar bellterau mor ffodus o’r man golygfa hwn y mae’r llygad yn cael ei golli yn yr amrywiaeth ddiddiwedd o olygfeydd hudol ac nid yw’n gwybod pa wrthrych i edrych arno.’ Coxe (1801), yn disgrifio’r olygfa o Gastell Cleidda.
Diwedd:
Maes parcio glan afon Cleidda SO361085