Sut alla i gymryd rhan?
Mae ein gwirfoddolwyr yn helpu i wneud y Cymin yn lle arbennig. Maent yn pobi cacennau i dynnu dŵr o’r dannedd, yn rhoi profiad Sioraidd i ymwelwyr drwy wirfoddoli fel Tywyswyr yr Ystafelloedd, yn helpu yn y digwyddiadau teuluol amrywiol sy’n cael eu cynnal drwy gydol y flwyddyn ac yn gweithio’n galed ar y tiroedd. Mae pob eiliad yn cyfrif – mae eich cyfraniad yn amhrisiadwy i helpu i ofalu am y Cymin i bawb, am byth.
Beth fydda i’n ei gael yn ôl?
Byddwch yn cwrdd â ffrindiau newydd, yn dysgu sgiliau newydd ac yn rhoi rhywbeth yn ôl i leoliad sydd mor annwyl i chi. Dyma rai o’r manteision o wirfoddoli yn y Cymin. Bydd cyfleoedd i ymuno â’r staff a gwirfoddolwyr eraill yn ein digwyddiadau cymdeithasol neu fwynhau’r awyrgylch a’r golygfeydd godidog o ben y bryn bendigedig hwn.