Gallwch hefyd glywed si’r wenynen yng Ngardd y Berllan, yn brysur symud paill o un blodyn i’r llall. Cymerwch olwg y tu mewn i un o flodau tiwbaidd Bysedd y Cŵn ac mae’n siŵr y gwelwch wenynen neu ddwy yn casglu paill i’w gario i’w blodyn nesaf.
Beth sy'n digwydd?
Helpu ein gwenyn
O 23-24 Mehefin bydd tîm Egg Seeds yn eich helpu i greu bomiau blodau gwyllt y gallwch eu plannu yn eich gardd gefn.
Byddant hefyd yn chwilio am wirfoddolwyr i helpu i ailadeiladu gwesty pryfed ar gyfer y bwystfilod, y gwenyn a'r pili-palaod sy'n dod ar wyliau i Dŷ Tredegar dros fisoedd yr haf.
Amddiffyn yr amgylchedd
Dros benwythnos y 30 Mehefin byddwn yn trafod popeth amgylcheddol. Defnyddiwch bŵer y pedal i rasio ar draws y pwll dŵr a cheisiwch ddal pysgodyn plastig wrth i Egg Seeds eich helpu i ddysgu am bwysigrwydd amddiffyn yr amgylchedd.
Popeth am y bwystfilod bach
Fel rhan o'n penwythnos olaf gydag Egg Seeds (7-8 Gorffennaf) gallwch greu cartref mewn boncyff i'r bwystfilod bach yn eich gerddi, a gallwch addurno'r boncyff gyda rhywfaint o byrograffeg.
Beth sydd angen i chi ei wybod
- Dyddiadau: 23, 24, 30 Mehefin, 1, 7, 8 Gorffennaf
- Amseroedd: 11am – 4pm
- Prisiau: Rhaid talu ffioedd mynediad arferol. Am ddim i aelodau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
- Archebu: Does dim angen archebu ymlaen llaw. Trowch fyny ar y dydd a thalwch yn Nerbynfa’r Ymwelwyr.