Ry’n ni’n dathlu ein peillwyr bach pwerus yr hanner tymor hwn. Gwibiwch fel gwenynen drwy’r gerddi yn cwblhau mwy o’r gweithgareddau “50 Peth i’w Wneud Cyn Dy Fod yn 11 ¾” a gwneud y gorau o’r tywydd braf.
Gwybodaeth gyffredinol
Ry’n ni wedi trefnu ambell i drît arbennig yn Nhŷ Tredegar y tymor hwn. Dyma beth gallwch chi ei ddisgwyl wrth ymweld â ni...
- Tŷ hanesyddol a gerddi ffurfiol cain â chanrifoedd o hanesion i’w hadrodd. Gallwch weld ein prisiau a’n horiau agor ar ein hafan.
- Parc eang sy’n trawsnewid gyda’r tymhorau. Gallwch fynd i’r parcdir am ddim - mae ar agor bob dydd o’r wawr tan iddi nosi.
- Caffi clyd y Bragdy, sy’n cynnig dewis o dameidiau ysgafn, cacennau a danteithion yn ogystal â diodydd poeth ac oer. Perffaith i ymlacio. Mae’r caffi ar agor o 10am bob dydd.
- Ein siop lyfrau ail-law, sy’n swatio yng nghornel fferm y plas. Prynwch lyfr a mwynhewch noson dawel o ddarllen ar y soffa. Mae’r siop lyfrau’n cael ei rhedeg gan dîm ymroddedig o wirfoddolwyr, felly ni allwn addo y bydd ar agor bob dydd.
Nid oes angen i chi archebu i ymweld â'r plasty a’r gerddi ffurfiol.
50 peth i'w wneud cyn dy fod yn 11 ¾
Dyddiadau: 19 – 27 Chwefror, 10.30am - 4pm
Ble: Y gerddi ffurfiol
Pris: Taflenni gweithgaredd am ddim, ond rhaid talu’r ffi fynediad.
Mwynhewch weithgareddau’r 50 peth i’w wneud cyn dy fod yn 11 ¾ dros hanner tymor mis Mai – rhestr fwced yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i anturiaethwyr ifanc. Gwyliwch aderyn, gwnewch ffrindiau gyda phryfyn neu ewch i grwydro yn eich welîs wrth i chi fwynhau popeth sydd gan y gerddi i’w gynnig. Casglwch daflen weithgareddau o’r dderbynfa ymwelwyr cyn i chi ddechrau ar eich antur wyllt.
Crefftau hunan-dywys
Dyddiadau: 28 & 29 Mai, 4 & 5 Mehefin
Ble: Y orendy
Pris: Crefftau am ddim, ond gwerthfawrogir cyfraniad i dalu am gost y deunyddiau. Rhaid talu’r ffi fynediad.
Dewch i ganfod eich creadigrwydd gyda’n sesiynau crefft hunan-dywys yn yr orendy. Bydd ein gwirfoddolwyr wrth law gyda phopeth sydd ei angen arnoch i danio’ch dychymyg.
Helpwch blanhigyn i dyfu
Dyddiadau: 30 Mai a 3 Mehefin, 11yb - 3yp
Ble: Y orendy
Pris: Am ddim i’w fwynhau, ond rhaid talu’r ffi fynediad.
Cwblhewch un o weithgareddau eraill y rhestr fwced ’50 peth i’w gwneud cyn eich bod yn 11 ¾’ drwy helpu planhigyn i dyfu. Ymunwch â’n tîm yn yr orendy i addurno eich potyn planhigyn eich hun (i’w gadw) cyn plannu hadau ynddo.

Gwnewch gartref i fywyd gwyllt
Dyddiadau: 1 Mehefin, 11yb - 3yp
Ble: Y orendy
Pris: Am ddim i’w fwynhau, ond rhaid talu’r ffi fynediad.
Crëwch gartref i bryfed, gwenyn a phili-palod i’w hongian yn eich gardd. Byddwn yn addurno potiau planhigion yn yr orendy, cyn eu llenwi â gwahanol ddeunyddiau i helpu peillwyr i setlo ynddynt. Yna gallwch roi tic wrth ymyl ‘gwnewch gartref i fywyd gwyllt’ ar eich rhestr fwced ’50 peth i’w gwneud cyn eich bod yn 11 ¾’.
Pecynnau Antur
Dyddiadau: Bobb dydd
Ble: Y tŷ a gerddi ffurfiol
Pris: Am ddim i’w fwynhau, ond rhaid talu’r ffi fynediad.
Mae cymaint i’w ddarganfod yn y gerddi ffurfiol, o’r bywyd newydd sy’n tyfu yn y gwelyau blodau i’r pryfed sy’n palu mewn tywydd gwlyb. Nod y pecynnau hyn yw helpu anturiaethwyr ifanc i gael golwg fanylach ar fyd natur, ac maent yn cynnwys offer i'w ddefnyddio o gwmpas y gerddi ar eich anturiaethau.
Mae pecynnau antur yn cynnwys pâr o finocwlars, cwmpawd, chwyddwydr, offer astudio pryfed a llyfr ‘adnabod’ tymhorol. Mae ‘na hefyd lyfr stori i’w ddarllen pan benderfynwch chi gael hoe fach o’r holl waith darganfod.
Mae croeso i chi ddefnyddio’r pecynnau hyn drwy gydol eich ymweliad, cyn dod â nhw’n ôl i’r dderbynfa ymwelwyr. Mae’r pecynnau ar gael ar sail y cyntaf i’r felin.
Pecynnau Synhwyrau
Dyddiadau: Bobb dydd
Ble: Y ty a gerddi ffurfiol
Pris: Am ddim i’w fwynhau, ond rhaid talu’r ffi fynediad.
Mae ein pecynnau synhwyrau lliwgar ar gael i unrhyw un eu benthyg ac wedi’u dylunio i deuluoedd sydd ag anghenion cymorth ychwanegol. Maen nhw’n cynnwys amrywiaeth o eitemau synhwyraidd, gan gynnwys teganau llonyddu, gwarchodwyr clustiau, chwyddwydr, llyfr stori a theganau meddal.
Mae pecynnau synhwyrau’n ychwanegiad newydd i Dŷ Tredegar ac mae ein tîm wedi eu datblygu’n ofalus, gan ddilyn canllawiau gan sawl sefydliad sy’n gweithio yn y maes. Byddem wrth ein bodd yn clywed eich adborth fel y gallwn ddal ati i wella’r pecynnau dros amser. Mae croeso i chi sgwrsio â’n tîm os oes gennych unrhyw sylwadau neu awgrymiadau i’w rhannu gyda ni.
Mae croeso i chi ddefnyddio’r pecynnau hyn drwy gydol eich ymweliad, cyn dod â nhw’n ôl i’r dderbynfa ymwelwyr. Mae’r pecynnau ar gael ar sail y cyntaf i’r felin.