Pàs Trigolion Lleol yn Nhŷ Tredegar

Teulu’n chwarae gemau gardd traddodiadol yn Nhŷ Tredegar

Mae’r Pàs Trigolion Lleol ar gael i bobl sy’n byw’n agos i Dŷ Tredegar, Casnewydd. Gyda’r pàs gallwch chi a’ch teulu ymweld â Thŷ Tredegar am ddim drwy gydol y flwyddyn.

Beth yw’r Pàs Trigolion Lleol?

Cafodd y Pàs Trigolion Lleol ei greu ar gyfer y rheiny sy’n byw’n agos i Dŷ Tredegar ac sy’n hoff o ymweld â ni drwy gydol y flwyddyn. Nid oes yn rhaid i bobl sydd â Phàs Trigolion Lleol dalu ffioedd mynediad i’r tŷ na’r gerddi.

Beth sydd ar gael i mi?

Ymweliadau di-derfyn â Thŷ Tredegar yn rhad ac am ddim! Mae hyn yn cynnwys mynediad i ddigwyddiadau mawr fel y Pasg, Penwythnos Môr-ladron y Capten Henry Morgan, Calan Gaeaf a’r Nadolig.

Gallai fod tâl ychwanegol am weithgareddau ar ôl dod i mewn, megis ymweliadau â Siôn Corn neu’r llwybr wyau Pasg.

Rhowch gynnig ar gerfio pwmpen yn ystod Calan Gaeaf
Plentyn yn cerfio pwmpen ar gyfer Calan Gaeaf
Rhowch gynnig ar gerfio pwmpen yn ystod Calan Gaeaf

Pwy sy’n gymwys?

Mae’r Pàs Trigolion Lleol ar gael i’r rheiny sy’n byw o fewn y ffin goch ar fap y Pàs Trigolion Lleol.

Bydd un Pàs Trigolion Lleol yn cael ei anfon i bob cartref, a fydd yn galluogi dau oedolyn a thri phlentyn (16 oed neu iau) i ymweld â Thŷ Tredegar.

Faint mae’r Pàs Trigolion Lleol yn ei gostio?

Bydd y Pàs Trigolion Lleol yn rhoi mynediad di-derfyn, am ddim i chi i Dŷ Tredegar drwy gydol y flwyddyn. Codir tâl gweinyddol o £5 am bàs.

Rydyn ni’n annog trigolion lleol i gerdded neu feicio i Dŷ Tredegar, oherwydd mae’n rhaid talu i barcio yma.

Hopiwch mewn sach yn ystod Gwyliau’r Pasg
Teulu’n cymryd rhan mewn ras sach yn Nhŷ Tredegar
Hopiwch mewn sach yn ystod Gwyliau’r Pasg

Sut alla i ymuno?

Gallwch ymuno drwy alw draw i Dderbynfa’r Ymwelwyr ger y maes parcio a siarad â’n tîm. Bydd angen i chi ddod â phrawf o’ch cyfeiriad (fel bil nwy/trydan/dŵr neu fil treth gyngor) o’r tri mis diwethaf, a Phrawf Adnabod dilys.

Mae Derbynfa’r Ymwelwyr ar agor o 10am i 4pm, saith diwrnod yr wythnos yn ystod y prif dymor. Ewch i hafan y wefan i weld yr oriau agor llawn.

Alla i ddefnyddio’r Pàs Trigolion Lleol yn lleoliadau eraill yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol?

Na allwch, dim ond ar gyfer Tŷ Tredegar mae’r Pàs Trigolion Lleol yn ddilys.

Os ydych chi a’ch teulu am ymweld â lleoliadau eraill yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, siaradwch â thîm Derbynfa’r Ymwelwyr ynglŷn ag aelodaeth o’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Upcoming events

Explorer Backpacks

Wed 18 Jul 2018
10:30-16:00
Get closer to nature with our handy one-stop shop for young explorers.

Clwb Clonc

Thu 19 Jul 2018
10:00-11:00
We'll be joined by Coleg Gwent every Thursday during term time for a coffee and a cake and a chance to practice your Cymraeg.

Conservation in Action

Wed 01 Aug 2018
12:00-15:00
Curious about how we look after this house and its collection? Find out what it takes to look after this special place; talk to our conservation team about the work they do and see them in action in their workroom within the house.

Kayaking on the lake

Sat 25 Aug 2018
10:00-17:00
Head out on our beautiful lake for a kayaking session this Bank Holiday weekend. In partnership with Channel Kayaks, we're helping you to see Tredegar House from a unique perspective.

Cotyledon Food and Craft Market

Sat 01 Sep 2018
10:30-16:00
Enjoy a range of local craft and food stalls in the Brewhouse Courtyard in the run up to Christmas.

Open Doors

Sat 15 Sep 2018
10:30-16:00
We're opening up Tredegar House free of charge as part of CADW's annual Open Doors weekend.