Chwaraewch gyda’r teganau a‘r gemau sydd ar eich cyfer, a phrofwch fwyd wedi ei goginio o ryseitiau sy’ dros 500 mlwydd oed.
Pethau gwych i’w gwneud
Rhowch gynnig ar ‘Tudor Family Fortunes’ i ddysgu mwy am y cartref Tuduraidd hwn
Chwaraewch gyda’r teganau yn y cyntedd. Oeddech chi’n gwybod bod yo-yos gan y Tuduriaid?
Codwch sgrôl a darganfod mwy am ofergoelion Tuduraidd
Edrychwch yn fanwl ar y llieiniau lliw i ddarganfod mwy am Ddinbych-y-Pysgod yn Oes y Tuduriaid
Gwisgwch y dillad Tuduraidd yn y llofft wely
Cymrwch olwg sydyn ar y tŵr toiled a’r pwll carthion – tŷ bach dan do y teulu
Eisteddwch wrth yr uchel-fwrdd a dychmygwch mai chi yw gwestai’r masnachwr
Mwynhewch yr olygfa orau o’r harbwr a’r arfordir o ffenest y llofft wely
Croeso cynnes
Ymunwch â ni yn ystod misoedd oer y flwyddyn am groeso cynnes iawn. Yn ystod yr hydref a’r gaeaf ry’n ni’n cynnau tân agored yng nghegin y tŷ – mae’n ddiddos iawn ac yn llawn awyrgylch!