Yr Esgob William Morgan

Roedd y dyffryn distaw hwn yn gartref i’r gŵr a weddnewidiodd yr iaith Gymraeg am byth. Dewch i weld lle y ganwyd yr Esgob William Morgan, y gŵr a gyfieithodd y Beibl i’r Gymraeg.

Pwy oedd William Morgan?

Ganed William Morgan yn Nhŷ Mawr Wybrnant o gwmpas 1545, yn ail fab i John ap Morgan a Lowri. Roedden nhw’n ffermwyr ac yn denantiaid i Maurice Wynn o Gastell Gwydir ger Llanrwst.

Mae’n rhaid bod gan y landlord feddwl mawr o’r teulu oherwydd anfonwyd William, pan oedd yn blentyn, i gael ei addysg yng Nghastell Gwydir ochr yn ochr â phlant y landlord.

Aeth William ymlaen i gael ei addysgu yng Nghaergrawnt, lle bu’n astudio am 10 mlynedd i ennill gradd Baglor a Meistr yn y Celfyddydau ynghyd â Baglor Diwinyddiaeth. Fe wnaeth astudio Hebraeg a’r iaith Roegaidd hefyd - byddai’r holl sgiliau hyn wedi bod yn werthfawr iddo wrth fynd ati i gyfieithu’r Beibl.

Pan ddaeth yr alwad gan Elizabeth I i gyfieithu’r Beibl i’r Gymraeg, ymgymerodd William â’r her anferth a gymerodd 10 mlynedd i’w chwblhau.  Amcangyfrifir bod 1,000 o gopïau o Feibl gwreiddiol 1588 wedi eu hargraffu. Dim ond tua 20 o’r rhain sy’n weddill erbyn heddiw ac mae dau ohonynt i’w gweld yn Nhŷ Mawr.

Pam cyfieithu’r Beibl i’r Gymraeg?

Nid oedd y Cymry erioed wedi gallu, nac wedi cael addoli yn eu hiaith eu hunain.  Roedd Harri VIII wedi gorchymyn mai Beiblau Saesneg yn unig oedd i gael eu defnyddio yng Nghymru, a chyn hynny, roedd yr holl wasanaethau crefyddol yn cael eu cynnal yn Lladin.

Roedd cyfieithiad William Morgan yn foment bwysig iawn yn hanes yr iaith Gymraeg ac yn hanes Cristnogaeth.  Ar ôl Deddfau Uno 1536, gwrthodwyd statws swyddogol i’r iaith Gymraeg ac roedd wedi ei gwahardd o feysydd y gyfraith a gweinyddiaeth.

Honnir mai llyfr William Morgan yw’r pwysicaf i gael ei gyhoeddi yn y Gymraeg gan ei fod wedi atgyfnerthu statws yr iaith.  Ym Mhrydain yn oes y Tuduriaid roedd y Beibl yn gonglfaen bywyd, yn asgwrn cefn y gymdeithas a’r unig destun y byddai gan y mwyafrif o bobl gyffredin fynediad ato.  O ganlyniad i waith William Morgan roedd dysgeidiaeth y Beibl o fewn cyrraedd rhwydd i’r Cymry, a chreodd fersiwn safonol o Gymraeg ysgrifenedig am y tro cyntaf erioed.

Erbyn y ganrif ganlynol, ac i raddau helaeth oherwydd y cyfieithiad hwn o’r Beibl, roedd gan Gymru un o’r lefelau uchaf o lythrennedd ymysg y werin yn Ewrop.