Mae rheoli erydiad ar lwybrau Bannau Brycheiniog yn waith diddiwedd. Mae'r tîm yn gorfod cadw cydbwysedd rhwng dychwelyd at rannau o'r llwybr sydd eisoes wedi ei wella, ac sydd angen ei drwsio eto bob pum mlynedd, a dechrau ar waith mewn mannau newydd.
Pa ddulliau sy'n cael eu defnyddio?
Rydyn ni'n defnyddio dull arbennig o osod cerrig sydd wedi ei ddefnyddio ers cyfnod y Rhufeiniaid. Mae cerrig unigol yn cael eu gosod i sefyll yn syth yn y ddaear, ac yna'n cael eu cynnal a'u sefydlogi drwy roi cerrig llai a phridd yn dynn o'u hamgylch.
Unwaith fydd y llwybr wedi ei adeiladu, caiff yr ardal o'i gwmpas ei thirlunio a'r llethrau eu hesmwytho, cyn plannu planhigion dros yr ardal gyfan.
Beth yw'r gost?
Bob blwyddyn rydyn ni'n gwario tua £100,000 ar adeiladu, cynnal a chadw'r rhwydwaith o lwybrau yn ardal ganolog Bannau Brycheiniog.
Eleni, oherwydd y cynnydd sydd wedi bod yn nifer y cerddwyr, mae angen ar frys i drwsio rhannau ychwanegol o'r llwybrau. Rydyn ni wedi ail-lansio ymgyrch apêl Bannau Brycheiniog i godi arian i gwblhau'r gwaith hanfodol hwn, a hynny yn ystod tymor ymwelwyr a allai fod gyda'r prysuraf erioed yn y Bannau.