Skip to content
Datganiad i'r wasg

Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru wedi llwyddo i groesawu tenantiaid newydd, Glasbren, hyrwyddwyr bwyd a dyfir yn lleol, i fferm arfordirol yng Nghymru

Teulu o dri y tu allan i’r ffermdy ar Fferm Lords Park yn Sir Gaerfyrddin
Y tenantiaid newydd o orllewin Cymru, Glasbren, ar Fferm Lords Park yng Nghaerfyrddin | © Glasbren/Jason Elberts

Ar ôl proses chwilio helaeth ym mis Mai, mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru wedi croesawu tenantiaid newydd i Fferm Lords Park ger Llansteffan ar arfordir Cymru. Bydd Glasbren, menter gymdeithasol nid er elw, sy’n frwd dros fwyd gwyllt wedi’i dyfu’n lleol ac sy’n dod o orllewin Cymru, nawr yn sefydlu ei gweledigaeth ar gyfer y fferm er budd natur, pobl a’r hinsawdd.

Llwyddodd yr ymchwil am geidwaid newydd ar gyfer y fferm 134 acer i ddenu llawer o sylw oherwydd lleoliad bendigedig y fferm ar ben clogwyn a’r golygfeydd godidog. Roedd yr Ymddiriedolaeth yn chwilio am denantiaid a oedd yn danbaid dros gadwraeth a phobl, ac a oedd eisiau datblygu busnes ffermio arloesol ac amrywiol mewn cytgord â natur.

Erbyn hyn, mae’r ffermwyr tenant newydd, sef Abel Pearson a Luisa Nuemann o Glasbren, wedi symud i’r ffermdy gwyngalchog traddodiadol ac maent yn dechrau ysgwyddo’r gwaith o ofalu am y safle, sy’n cynnwys tir pori, gweirgloddiau blodeuol, coetir a Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) sy’n cynnwys prysgwydd arfordirol.

Mae menter Glasbren yn ymestyn ar yr hyn a wna eisoes ar y safle gwreiddiol yn Fferm Bronhaul, Bancyfelin. Yno, mae Abel a Luisa wedi bod wrthi’n datblygu cynllun bocsys llysiau lleol llwyddiannus ac yn meithrin cymuned gefnogol o gefnogwyr a gwirfoddolwyr, gan gynnig gweithdai, digwyddiadau cymunedol a mentoriaeth i brosiectau bwyd cymunedol. Yn awr, mae menter Glasbren yn awyddus i roi pethau ar waith yn ei chartref newydd yn Sir Gaerfyrddin.

Mae gan Abel a Luisa gynlluniau cyffrous ar gyfer y fferm, sef creu menter gymdeithasol leol a bywiog gyda’r nod o adfywio tir, pobl a chymunedau a defnyddio grym y gymuned i ffermio a thyfu bwyd.

Llun o Fferm Lords Park ac arfordir Cymru
Fferm Lords Park yn Sir Gaerfyrddin, Cymru | © National Trust/C J Taylor

Medd Abel Pearson, sylfaenydd Glasbren: “Gwefr ac anrhydedd yw cael ein dewis i fod yn denantiaid Fferm Lords Park Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru. Rydw i’n hanu o Fancyfelin gerllaw, a breuddwyd yw gallu aros yn yr ardal ac ymestyn ein menter gymdeithasol, Glasbren. Mae gennym lawer o gynlluniau ar y gweill – croesawu rhagor o wirfoddolwyr, tyfu bwyd mwy maethlon a chynaliadwy i fwydo rhagor o bobl, a dechrau rhedeg rhaglenni natur ‘Stiwardiaid Bach’ i blant. Hefyd, rydym yn bwriadu cynnal cyrsiau ac encilfeydd preswyl ymgollol, yn ogystal â datblygu dulliau o gynaeafu ceirch a gwenith Cymreig treftadaeth a rhoi dulliau pori adfywiol ar waith trwy ddefnyddio gwartheg treftadaeth.

Ein gobaith yw creu hwb bwyd cymunedol: man cyfarfod tawel ar gyfer y gymuned, rhywle lle gellir dysgu, tyfu a chymryd camau cadarnhaol er budd y dyfodol. Man gwirioneddol adfywiol – i natur, i bobl ac i’r blaned.”

Yn ychwanegol at hyn, mae yna gynlluniau ar y gweill i gynnal rhaglenni gwirfoddol a chyflwyno cyrsiau a gweithdai blynyddol yn ymwneud â chamau cadarnhaol er budd yr hinsawdd, grymuso a hunanddibyniaeth. Gallai’r rhain gynnwys tyfu bwyd, cynllunio permaddiwylliant, fforio a chyffeithio, coginio a maeth, cysylltiadau â natur a sgiliau tir adfywiol.

Mae’r hinsawdd yn cael lle blaenllaw gan Glasbren. Bydd y fenter yn datblygu cynllun fferm gyfan, cyfannol, gan roi natur wrth galon a chraidd ei dyheadau ar gyfer y dyfodol, yn unol ag ymrwymiad cadwraethol yr elusen i wrthdroi’r dirywiad cenedlaethol a welir mewn natur yn y mannau y bydd yn gofalu amdanynt.

Medd Meg Anthony, Rheolwr Cyffredinol Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn Sir Gaerfyrddin a Cheredigion:“Rydym yn llawn cyffro o gael croesawu tenantiaid newydd Fferm Lords Park i leoliad ysblennydd Llansteffan. Mae’r weledigaeth a’r ethos a fynegir gan Abel a Luisa, ac a ddangosir ar ffurf fferm gymunedol adfywiol arloesol Glasbren, yn cyd-fynd yn agos â gwerthoedd a strategaeth Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru.

Ein gobaith oedd y byddai modd inni ddod o hyd i denantiaid a fyddai’n rhoi natur a phobl wrth galon a chraidd eu gwaith wrth redeg busnes ffermio amrywiol a chadarn, er mwyn sicrhau y bydd Fferm Lords Park yn ffynnu am ddegawdau i ddod.

Dangosodd Abel a Luisa eu bod yn meddu ar yr egni, y weledigaeth a’r awydd i sicrhau y bydd modd troi’r weledigaeth ysbrydoledig hon yn realiti i’r fferm ac i’r gymuned leol. Edrychwn ymlaen at weld y fferm a’r hwb bwyd yn tyfu a gweld y fioamrywiaeth yn ffynnu ar y safle.”

I glywed mwy am weledigaeth Glasbren ac i ddilyn hynt y fenter yn Fferm Lords Park, ewch i www.glasbren.org.uk.

I gael rhagor o wybodaeth am y gwaith cadwraeth a wneir gan Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru i ategu dulliau ffermio sy’n gydnaws â natur, ewch i www.nationaltrust.org.uk/cy/visit/wales/ffermio-yng-nghymru.