Skip to content

Hanes Aberdulais

Yr olwyn ddŵr a safle’r hen waith tun yn Rhaeadr Aberdulais, Castell-nedd Port Talbot, Cymru
Yr olwyn ddŵr a safle’r hen waith tun yn Rhaeadr Aberdulais, Castell-nedd Port Talbot | © National Trust Images/John Millar

Roedd angen arian ar y Frenhines Elisabeth I i’w wario ar longau rhyfel i wrthsefyll bygythiad Armada Philip o Sbaen, ac yn ffodus, roedd yr ateb gan beiriannydd o’r Almaen, Ulrich Frosse. Mae angen llecyn tawel arno, ac mae Aberdulais yn gweddu i’r dim.

Smeltio copr yn Aberdulais

Mae Frosse wedi perffeithio dull newydd o smeltio copr i’w droi’n ddarnau arian ar gyfer y deyrnas. Ond mae’n broses gyfrinachol ac mae angen rhywle tawel, o’r neilltu arno i wneud ei waith, ymhell i ffwrdd o lygaid busneslyd ei gystadleuwyr.

Chwyldro Diwydiannol

Roedd hynny 200 mlynedd cyn y Chwyldro Diwydiannol a, byth ers hynny, mae’r ceunant cul hwn wrth geg Afon Dulais y tu allan i Gastell-nedd wedi bod wrth galon stori ddiwydiannol Cymru, diolch i’w gyflenwad toreithiog o lo, pren a dŵr.

Ildiodd y gwaith smeltio copr i waith haearn, melino tecstilau a grawn ac – yn bwysicaf oll – gweithgynhyrchu tunplat yn y 19eg ganrif.

Plant o dan y bastiwn yng Ngwaith Tun Aberdulais, De Cymru
Plant o dan y bastiwn yn Aberdulais, Cymru | © National Trust Images / Paul Harris

Sut mae pethau'n newid

Heddiw mae’n anodd dychmygu gwres, llwch, sŵn a budreddi’r oes a fu. Heddiw, mae’r ardal brydferth yn hafan i fywyd gwyllt, planhigion brodorol ac ymwelwyr chwilfrydig sy’n awyddus i grwydro a darganfod.

'Roedd hi mor boeth, roedd y chwys yn llifo mas o’u sgidiau’

- gweithiwr tunplat Fictoraidd, 8 oed

Ar ei anterth, roedd tunplat o Aberdulais yn cael ei allforio i bedwar ban byd, tan i’r Americanwyr benderfynu gwarchod eu diwydiant newydd a gosod tariffau enfawr ar fewnforion tunplat. Roedd y dyddiau da yn dirwyn i ben yn Aberdulais.

Bywyd newydd

Ond na, nid dyna ddiwedd y stori. Ganrif yn ddiweddarach – ym 1980 – prynwyd Gwaith Tun a Rhaeadr Aberdulais gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, a ddaeth yn gyfrifol am ofalu am y safle.

Prin yw’r hyn sy’n weddill o hanes cynnar Aberdulais. Ond mae fwy 'na 30 mlynedd o waith adfer a chadwraeth gan yr Ymddiriedolaeth wedi dod ag oes y tunplat yn ôl yn fyw. Mae’r olwyn ddŵr dal i sefyll yn y pydew gwreiddiol sy'n cyfleu darlun byw o’r oes a fu.

Olwyn ddŵr a bastiwn, Gwaith Tun a Rhaeadr Aberdulais, De Cymru
Olwyn ddŵr a bastiwn yng Ngwaith Tun Aberdulais | © National Trust / Suzanne Patton

Atgofion

Ar ffilm, mae plant ysgol lleol yn adrodd storïau eu cyndeidiau, a gafodd eu gorfodi i weithio er pan oedden nhw’n wyth oed. Ac mae disgynyddion y gweithwyr tunplat yn hel atgofion o’r gorffennol, a basiwyd ymlaen iddynt gan eu neiniau a’u teidiau.

Aberdulais heddiw

Tra bod dŵr afon Dulais yn dal i lifo, felly hefyd mae’r traddodiad o ddefnyddio’r rhaeadr fel ffynhonnell o bŵer – mae’n gyrru olwyn ddŵr weithredol fwyaf Ewrop ac yn creu ynni gwyrdd.

Ymwelwyr wrth yr olwyn ddŵr ac ar safle’r hen waith tun yn Aberdulais , De Cymru

Casgliadau Aberdulais

Darganfyddwch y gwrthrychau a’r gwaith celf rydym yn gofalu amdanynt yn Aberdulais ar wefan Casgliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Golwg o'r Rhaeadr yng Ngweithdy Tun Aberdulais, De Cymru
Erthygl
Erthygl

Ymwelwch â’r rhaeadr yn Aberdulais 

Mae’r rhaeadr yn Aberdulais yn brawf o rym rhyfeddol natur. Ond p’un a yw’n rhuo neu’n llifo’n dawel, mae bob amser yn brydferth. Dysgwch fwy am ei hanes a beth i’w weld yn ystod eich ymweliad.

Olwyn ddŵr a bastiwn, Gwaith Tun a Rhaeadr Aberdulais, De Cymru
Erthygl
Erthygl

Ymwelwch â’r olwyn ddŵr yn Aberdulais 

Mae’r olwyn ddŵr yn Aberdulais yn cynhyrchu ynni gwyrdd ar gyfer y safle fel rhan o gynllun trydan dŵr arloesol. Mae traddodiad sy’n dyddio’n ôl 400 mlynedd yn dal i fynd.