Skip to content

Ymweld â'r ystâd yn Nolaucothi

clychau'r gog, Dolaucothi, Sir gaerfyrddin
clychau'r gog, Dolaucothi, Sir gaerfyrddin | © National Trust Images / Annapurna Mellor

Mae’r ystâd yn fwy na 2,500 erw o faint, ac yn cynnwys ffermydd ucheldirol, coetir a safle tŷ gwreiddiol Dolaucothi a’r parc amgylchynol. Dewch am dro drwy’r ystâd a mwynhau popeth o olygfeydd mawr godidog i lwybrau hamddenol ar lan yr afon.

Dewch i grwydro yn Nolaucothi

Dros y blynyddoedd, mae natur wedi gorchfygu’r dirwedd ddiwydiannol. Mae’r coed yn edrych fel eu bod wedi bod yma am byth, ond fel y gwyddwn, mae llawer mwy’n llechwra o dan wyneb y llethrau coediog hyn.

Mae nodweddion naturiol y safle wedi’u dynodi’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA). Mae diwydiant a byd natur yn cyfuno i greu’r amodau perffaith ar gyfer cenau, mwsoglau a rhedyn prin.

Gwanwyn ar Stad Dolaucothi

Mae'r gwanwyn yn amser hyfryd ar Stad Dolaucothi. Mae coed yn llawn o adar yn canu ac mae’r blodau gwyllt yn fyw gyda sŵn gwenyn a thrychfilod eraill. Mae clychau'r gog yn garped ar y coetiroedd yn Nolaucothi ac mae'n hawdd gweld llawer o’r ardaloedd hyn o'r maes parcio.

Gloddfa Rufeinig

Mae’r daith o’r gloddfa Rufeinig yn eich tywys drwy SoDdGA Allt Hebog, sy’n arwyddocaol am ei goetir derw ucheldirol, y Farchredynen Bêr brin a phresenoldeb ystlumod. Mae lleithder yr ardal yn creu amodau tebyg i goedwig law ac mae’n wledd i’r llygaid hyd yn oed ar y diwrnodau gwlypaf.

Golwg graff ar bryfyn ar betalau lelog tywyll bysedd y cŵn ym Mwyngloddiau Aur Dolaucothi, Sir Gâr.
Pryfyn ar fysedd y cŵn ym Mwyngloddiau Aur Dolaucothi | © ©National Trust Images/Chris Lacey

Natur a bywyd gwyllt yn Nolaucothi

Mae’r mwyngloddiau aur a’r ystâd yn rhoi’r cyfle i chi ddod wyneb yn wyneb â bywyd gwyllt. Mae’r cloddfeydd eu hunain yn cynnwys toreth o fywyd wyllt hyd yn oed, o bryfed cop i wyfynod, o ystlumod i ffyngau diddorol prin.

Pwy sy’n byw yn y mwyngloddiau?

Mae Pry’ Cop yr Ogof (Meta menardi) yn casáu’r golau ac yn dewis byw mewn lleoedd tywyll fel ogofau a hen fwyngloddiau. Mae twneli tanddaearol yr hen fwyngloddiau aur yn gynefinoedd delfrydol i’r pryfed cop, ond mae eu cuddliw (brown tywyll a du – yr un lliw â’r garreg glai) yn golygu eu bod nhw’n anodd eu gweld.

Ond maen nhw yna yn siŵr i chi, i fyny yn y corneli tywyll yn eistedd ar eu gweoedd crwn, hardd.

Paradwys yr ystlum

Mae nifer o rywogaethau gwahanol o ystlum yn ymweld â Dolaucothi hefyd, fel yr Ystlum Lleiaf Cyffredin, yr Ystlum Pedol Mwyaf, yr Ystlum Pedol Lleiaf, Ystlum y Dŵr, Ystlum Brandt, Ystlum Natterer, yr Ystlum Hirglust a’r Ystlum Barfog.

Yr Ystlum Pedol Mwyaf yw’r un mwyaf cyffredin yn y mwyngloddiau. Mae gan yr ystlum hwn gorff maint peren fach ac mae’n un o’r rhywogaethau mwyaf o ystlum yng ngwledydd Prydain.

Llecyn cysgodol braf dros yr haf

Mae’r mwyngloddiau’n baradwys i’r ystlumod – gallant aeafgysgu yn y gaeaf a dianc i lecyn oer yn yr haf. Mae’r holl gatiau rydym wedi’u gosod yn y mwyngloddiau yn cynnwys bariau llorweddol sy’n galluogi’r ystlumod i fynd a dod yn hawdd.

Adar Dolaucothi

Mae Dolaucothi’n haid o adar. Maen nhw i’w clywed yn y mwyngloddiau eu hunain weithiau, ond dydyn nhw ddim yn mentro’n bell iawn fel arfer.

O gwmpas yr ystâd fe welwch delor y cnau, y siglen fraith, yr aderyn du, bronfreithod ac amrywiaeth o ditwod, gan gynnwys y titw cynffon-hir, yn ogystal â’r gwenoliaid sy’n dychwelyd i nythu bob blwyddyn. Os ydych chi’n lwcus, fe allech weld y dringwr bach neu’r gwybedog brith hefyd.

Barcud coch a'r gwalch Marthin

Cofiwch fwrw golwg fyny fry, lle mae’r boda a’r barcud coch yn aml yn diddanu â’u campau, ac os ydych chi’n lwcus fe allech weld gwalch Marthin.

Buwch yn sefyll ar ochr bryn yn edrych tua’r camera, gyda choed, bryniau a haul yn machlud yn y cefndir ar Ystâd Dolaucothi ym Mwyngloddiau Aur Dolaucothi, Sir Gâr
Buwch ar Ystâd Dolaucothi ym Mwyngloddiau Aur Dolaucothi | © National Trust Images/Andrew Butler

Cerdded yn Nolaucothi

Yn cris-croesi’r ystâd a’r coetiroedd mae rhwydwaith o lwybrau cerdded. Crwydrwch y glannau neu’r llethrau a mwynhau golygfeydd gwych dros Ddyffryn Cothi tua’r gorwel.

Adfer a rheoli’r coetir

Rydym yn rheoli’r coetiroedd i wella’u cynefinoedd. Yn Nolaucothi mae hyn yn golygu ymyrryd pan gaiff coed eu heintio, rheoli rhywogaethau estron goresgynnol a chymryd rhan ym Mhrosiect Coedwigoedd Glaw Celtaidd LIFE+ gyda’r RSPB a Pharc Cenedlaethol Eryri.

Adfeilion adeiladau’r mwynglawdd ar ochr bryn, wedi’u gorchuddio gan laswellt a mwsogl, ym Mwyngloddiau Aur Dolaucothi, Sir Gâr.

Darganfyddwch fwy yn Dolaucothi

Dysgwch pryd mae Dolaucothi ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Visitors walking through the sheltered valley at Lockeridge Dene and Piggledene, near Marlborough, Wiltshire
Erthygl
Erthygl

Ymweld â Dolaucothi gyda’ch ci 

Mae gan Ddolaucothi sgôr o un bawen. Mae croeso cynnes i gŵn ym mhob rhan o Ddolaucothi, o’r teithiau o’r gloddfa aur Rufeinig i’r milltiroedd o lwybrau cerdded sy’n cris-croesi’r ystâd ehangach.

Golwg graff ar farciau caib ar y graig ym Mwyngloddiau Aur Dolaucothi, Sir Gâr
Erthygl
Erthygl

Hanes Dolaucothi 

Dechreuodd gwaith cloddio aur yn Nolaucothi o leiaf 2,000 o flynyddoedd yn ôl, a daeth i ben ychydig cyn yr Ail Ryfel Byd. Dysgwch fwy am unig gloddfa aur Rufeinig y DU.