Skip to content

Ymweld â Gerddi Dyffryn gyda’ch ci

Ci yn bwyta hufen iâ cŵn y tu allan i’r Ganolfan Groeso, Gerddi Dyffryn, Bro Morgannwg
Ci yn bwyta hufen iâ cŵn y tu allan i’r Ganolfan Groeso, Gerddi Dyffryn, Bro Morgannwg | © National Trust Images/James Dobson

Mae croeso i gŵn yng Ngerddi Dyffryn drwy gydol y flwyddyn, ac mae digon o lefydd i’w darganfod gyda’ch cyfeillion bach blewog tra’ch bod chi yma. Helpwch i sicrhau y gall pawb fwynhau Dyffryn drwy gadw eich ci ar dennyn byr, glanhau ar ei ôl a dilyn y canllawiau isod.

Ein system sgorio pawennau

Rydym wedi bod yn gweithio i’w gwneud hi’n haws i chi wybod pa mor groesawgar i gŵn fydd eich ymweliad cyn i chi a’ch cyfaill bach gyrraedd. I helpu gyda hyn, rydym wedi creu system sgorio pawennau newydd, a rhoi sgôr i’n holl leoliadau. Gallwch ddod o hyd i’r wybodaeth hon yn llyfryn aelodau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Mae gan Erddi Dyffryn sgôr o ddwy bawen.

Mae gan y llefydd hyn bowlenni dŵr, biniau baw ci a llwybrau cerdded sy’n addas i gŵn. Byddwch yn gallu mynd â’ch ci i rai ardaloedd, ond nid i bobman, a rhaid i chi ei gadw ar dennyn byr bob amser. Darllenwch ‘mlaen i weld ble yn union gallwch chi fynd â’ch ci.

Ble all fy nghi fynd yng Ngerddi Dyffryn?

Rydym yn croesawu cŵn ym mhob rhan o’r gerddi bron, ar wahân i’r ddwy ardal Pentwr Pren a’r Tŷ Gwydr. Mae Tŷ Dyffryn ar gau i’r cyhoedd ar hyn o bryd, yn ogystal ag unrhyw gyfeillion bach pawennog.

Mae ein siop a Chaffi’r Ardd yn croesawu cŵn y tu mewn, ac mae’r ddau le’n gwerthu trîts cŵn fel Woofins, bisgedi a hufen iâ cŵn. Felly gallwch chi a’ch ci fwynhau cacen ar ôl mynd am dro!

Mae gennym lwybrau hygyrch o gwmpas y gerddi, felly mae Dyffryn yn lle gwych i ddod â’ch ci os ydych chi’n defnyddio bygi, cadair olwyn neu sgwter symudedd.

Pa gyfleusterau sydd ar gael i gŵn?

Mae gennym bowlenni dŵr yn ein caffi a’r Ganolfan Groeso. Rydym hefyd yn rhoi trît bach am ddim i gŵn sy’n ymweld â ni. Mae biniau wedi’u lleoli yma ac acw yn y gerddi lle gallwch roi unrhyw faw ci.

Mae ein siop Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gwerthu rhai cynhyrchion cŵn, gan gynnwys teganau a phowlenni.

Beth sydd angen i mi gofio?

Mae llawer o fywyd gwyllt yn byw yn ein gerddi, ac nid yw pob ymwelydd yn hoff o gŵn, felly gofynnwn i chi eu cadw ar dennyn byr bob amser.

Ddylech chi ddim gadael eich anifail anwes yn y car chwaith – does dim llawer o gysgod yn y maes parcio.

Siaradwch â’n Tîm Croeso os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch.

Cod Cŵn

Rydym wedi gweithio gyda’n partner Forthglade i lunio’r cod cŵn hwn, sy’n helpu i sicrhau y gall pawb fwynhau eu diwrnod:

  • Tynhewch y tennyn: gallwch helpu i leihau’r siawns y bydd eich ci yn tarfu ar adar sy’n nythu ar y ddaear ac anifeiliaid fferm drwy ei gadw ar dennyn byr. Mae’n hanfodol defnyddio tennyn byr o gwmpas defaid. Ond os bydd gwartheg yn dod atoch chi, y peth gorau i’w wneud yw gadael eich ci oddi ar y tennyn, a’i alw’n ôl atoch chi pan mae’n ddiogel i wneud hynny.
  • Codi’r baw: glanhewch ar ôl eich ci bob tro. Os nad ydych chi’n gallu dod o hyd i fin gerllaw, ewch â’r bagiau baw adref gyda chi.
  • Troediwch yn ofalus: cadwch olwg ar arwyddion a hysbysiadau lleol ble bynnag fyddwch chi’n cerdded. Byddant yn rhoi gwybod i chi os yw cŵn wedi’u gwahardd o draeth, er enghraifft, neu os yw llwybr wedi’i wyro, neu os ydych chi mewn ardal lle gall cŵn redeg yn rhydd.
  • Cadw’ch llygad ar y bêl: cofiwch nad yw pawb yn caru cŵn, ac mae rhai pobl yn eu hofni. Felly gwnewch yn siŵr nad yw eich ci yn rhedeg i fyny at bobl eraill, yn enwedig plant.

Cadwch eich ci dan reolaeth 

Mae ein diffiniad o reolaeth agos neu effeithiol fel a ganlyn:

  • Y gallu i alw eich ci atoch mewn unrhyw sefyllfa, ar yr alwad gyntaf.
  • Gallu gweld eich ci yn glir bob amser (nid yw gwybod ei fod wedi diflannu i mewn i’r llystyfiant neu dros y bryn yn ddigon). Yn ymarferol, mae hyn yn golygu ei gadw ar lwybr cerdded os yw’r llystyfiant o’ch cwmpas yn rhy drwchus i allu gweld eich ci.
  • Peidio â gadael iddo fynd at ymwelwyr eraill heb eu caniatâd.
  • Cael tennyn i’w ddefnyddio os byddwch yn dod ar draws da byw, bywyd gwyllt neu os gofynnir i chi ddefnyddio un.
Herbaceous Border in summer, Dyffryn Gardens, Vale of Glamorgan

Darganfyddwch fwy yng Ngerddi Dyffryn

Dysgwch pryd mae Gerddi Dyffryn ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Visitors on a walk with their dog in Heddon Valley, Devon
Erthygl
Erthygl

Ymweld â lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda’ch ci 

Os ydych chi’n dod â’ch ci i’r llefydd rydym yn gofalu amdanynt, darllenwch y Cod Cŵn a dysgwch am y System Sgorio Pawennau i’ch helpu i gynllunio eich ymweliad. (Saesneg yn unig)

Caffi’r Ardd, Gerddi Dyffryn, Bro Morgannwg
Erthygl
Erthygl

Bwyta a siopa yng Ngerddi Dyffryn 

Mwynhewch brydau i dwymo’r galon neu snac ysgafn yn y caffi, gyda danteithion blasus yn goron ar eich ymweliad. A chofiwch alw i mewn i’r siop i brynu rhywbeth i gofio’ch ymweliad.

Spring magnolia on the Great Lawn at Dyffryn Gardens with Dyffryn House in the background.
Erthygl
Erthygl

Y gerddi yn Nyffryn 

Darganfyddwch erddi 55 erw Dyffryn, gan gynnwys yr ardd goed, planhigion trofannol y tŷ gwydr, Gerddi’r Gegin a’r ardal chwarae wyllt.

Plant a chi yn Llyn Bosherston, Stagbwll, Sir Benfro

Llefydd sy’n croesawu cŵn yng Nghymru 

O’r mynyddoedd a’r traeth, i erddi a pharcdiroedd, gallwch ganfod llwybr cerdded cŵn yng Nghymru y byddwch chi, a’ch cyfaill pedair coes, yn ei wir fwynhau. Dyma eich canllaw ar gyfer rhai o’r lleoliadau gorau yng Nghymru i ymweld â nhw gyda chŵn.