Skip to content

Eryri

Golygfa o Slabiau Idwal yng Nghwm Idwal, y Carneddau a’r Glyderau, Gwynedd, Cymru
Cwm Idwal yn Eryri, Cymru | © National Trust Images/Chris Lacey

Tirwedd ysbrydoledig sy’n drysorfa o chwedlau. Darganfyddwch gopaon trawiadol, llynnoedd rhewlifol a choetiroedd hynafol gyda rhai o olygfeydd gorau’r wlad yn Eryri.

Pethau i'w gweld a'u gwneud yn Eryri

Cerddwyr yn y pellter ar Lwybr Watkin ar fferm Hafod y Llan, Eryri
Cerddwyr ar Lwybr Watkin ar fferm Hafod y Llan | © National Trust Images / Paul Harris
Hafod y Llan
Darganfyddwch bethau i’w gwneud yn fferm Hafod y Llan, Eryri, Cymru ar lethrau’r Wyddfa, gan gynnwys llwybrau cerdded a’r bywyd gwyllt y gallwch ei weld. Dyma’r fferm fwyaf sy’n cael ei rheoli gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ac mae rhan ohoni wedi’i dynodi’n Warchodfa Natur Genedlaethol.Darganfyddwch Hafod y Llan
De Eryri
Crwydrwch drwy dirwedd garw anghysbell De Eryri. Mae’r coetir derw hynafol yn Nolmelynllyn a’r creigiau folcanig yng Nghregennan yn cynnig cynefin naturiol i amrywiaeth eang o fywyd gwyllt.Darganfyddwch Dde Eryri
Mynyddoedd yn Eryri
Darganfyddwch gopaon trawiadol Cymru ar antur fynyddig arbennig gyda bywyd gwyllt, hanes, a golygfeydd godidog. O Fannau Brycheiniog yn y De i uchelfannau aruthrol Eryri, darganfyddwch y mynyddoedd gorau yn nhirwedd wyllt Cymru.Darganfyddwch fynyddoedd Cymru

Ein gwaith yn Eryri

Y bugail Trefor Jones ar lechwedd serth gyda Defaid Mynydd Cymreig ar fferm Hafod y Llan yn Eryri, Cymru 
Bugail ar fferm Hafod y Llan, Eryri  | © National Trust Images/Paul Harris
Ffermio yn Eryri
Dysgwch am fugeilio er lles cadwraeth, adfer cynefin llygoden y dŵr a sut mae gorgorsydd yn chwarae rôl hanfodol yn rheoli llifogydd ar ffermydd yn Eryri.Dysgwch mwy am ffermio yn Eryri
Prosiect dalgylch Uwch Conwy
Dysgwch sut rydym yn gweithio i fynd i’r afael â newid hinsawdd a lleihau llifogydd yn nalgylch Afon Conwy er budd natur, bywyd gwyllt a phobl.Dysgwch mwy am ein gwaith

Mythau a chwedlau Eryri

Chwedlau a llên gwerin Cymru
Mae Eryri’n gartref i lawer o chwedlau Cymru. Un o’r enwocaf yw stori’r dreigiau coch a gwyn yn Ninas Emrys, sydd ond dafliad carreg o Graflwyn a Beddgelert.Darganfyddwch y chwedlau

Lleoedd i aros yn Eryri

The exterior of Tal y Braich, Betws y Coed, Gwynedd
Bwthyn Tal y Braich, Betws y Coed | © National Trust / Chris Lacey
Bythynnod gwyliau yn Eryri
Dewiswch fwthyn delfrydol i fod yn ganolfan ar gyfer crwydro mynyddoedd, llynnoedd a dyffrynnoedd coediog Eryri, o fythynnod bychan ar gyfer dau berson i ffermdai.Ffeindiwch fwthyn yn Eryri
Golygfa o Gastell Powis, uwchben ei derasau, Powys, Cymru, yn yr hydref.

Dewch i ddarganfod Cymru

Gwlad Geltaidd gyda gorffennol diwydiannol, yn llawn mythau, chwedlau, barddoniaeth a chân. Croeso i Gymru.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Golygfa o Ddinas Emrys, Beddgelert, Gogledd Cymru, yn edrych tuag at gopa dan gwmwl gyda choeden yn y blaendir.
Lle
Lle

Craflwyn a Beddgelert 

Ymlaciwch wrth droed coediog yr Wyddfa.

near Beddgelert, Gwynedd

Yn hollol agored heddiw
Walkers admire the view across Llyn Ogwen to the Cwm Idwal Valley on a sunny day, with a body of water visible in the valley and mountains in the distance
Lle
Lle

Carneddau a Glyderau 

Darganfyddwch olygfeydd gwylltaf Eryri.

Bethesda, Gwynedd

Yn hollol agored heddiw
Golygfa o bentref Ysbyty Ifan, Gwynedd, ar lan Afon Conwy. Gwelir casgliad o dai Cymreig carreg a phont fwa dros yr afon yn y blaendir.
Lle
Lle

Ysbyty Ifan 

Ystâd amaethyddol, sy’n gyfoeth o fywyd gwyllt a hanes.

Betws y Coed, Conwy

Yn hollol agored heddiw
Golygfa dros y dyffryn o Dŷ Mawr Wybrnant ar ddiwrnod braf
Lle
Lle

Tŷ Mawr Wybrnant 

Ffermdy carreg ucheldirol traddodiadol o’r 16eg ganrif.

Betws-y-Coed, Conwy

Yn rhannol agored heddiw