Arddangosfa Ailfframio
Mae darlun yn dweud cyfrolau... neu ydy o? Haf yma, daw arddangosfa newydd sbon i Gastell Penrhyn wedi ei greu gan rhai o’n cymunedau lleol.
Wrth edrych ar baentiad Henry Hawkins o Chwarel Penrhyn, beth welwch chi?
O’r dynion mewn dillad crand ar flaen y llun i’r gweithwyr sy’n hongian yn ansicr yn y cefndir, mae’r paentiad yn llawn manylder ac yn sbarduno sawl sgwrs a chreadigrwydd.
Eleni, wrth adfer y ffrâm wreiddiol, rydym am ‘Ailfframio’r’ peintiad mewn ffordd newydd a chreadigol, drwy ofyn i'r gymuned leol am eu mewnbwn.
Creu'r arddangosfa
Estynnom wahoddiad i rai o grwpiau cymunedol Bethesda gael cyfle i ymateb i’r paentiad a mynegi eu barn. Drwy weithio gydag arbenigwr hanesyddol ac artistiaid lleol, bu’r grwpiau wrthi yn creu gwaith celf eu hunain yn adlewyrchu ar y paentiad, beth mae’n dangos neu ddim, eu cysylltiad i’r chwarel a’u cymuned nhw erbyn hyn.
Yn mis Gorffennaf, ymunwch â ni wrthi i ni gamu i mewn i fyd y paentiad ac adlewyrchu ar un o ffynonellau'r cyfoeth fu’n cynnal y castell yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Cefndir Hanesyddol
Mae gan Castell Penrhyn gysylltiadau annatod i’r Chwarel Lechi Penrhyn a’r gymuned yn nhref chwarelyddol Bethesda. Roedd gwaith llafur y chwarelwyr yma yn cynnal cyfoeth y castell, ac yn yr un modd trawsnewidiodd buddsoddiad teulu’r Pennant yng Nghastell Penrhyn graddfa, tirwedd a ffordd o fyw'r chwarel.
Mae paentiad Henry Hawkins o Chwarel Lechi Penrhyn yn un o rai mwyaf pwysig yn ein casgliadau yng Nghastell Penrhyn gan ei fod yn ein hatgoffa o’r cysylltiad yma.
Mae’n dyddio o 1832, cyfnod o ffyniant ariannol mawr yn y chwarel yn ogystal â datblygiad bywiog yn niwylliant a chymuned yr ardal. Ond, er bod y cyfnod degawdau cyn Streic Fawr y Penrhyn neu unrhyw anghydfod sylweddol, roedd telerau gwaith dal i fod yn beryglus, gydag anafiadau a marwolaeth yn fygythiad cyson a system gyfalafol oedd yn golygu gwahaniaeth eithafol rhwng y dosbarthiadau cymdeithasol.