Skip to content

Ymweld â’r ardd yng Nghastell Penrhyn

Rhododendron pinc yn blodeuo o flaen Castell Penrhyn.
Rhododendron yn blodeuo yng Nghastell Penrhyn, Cymru | © ©National Trust Images/Gwenno Parry

Yr un fath â’r castell ei hun, mae gerddi Penrhyn yn eang ac yn cynnig rhywbeth i bawb. Gofalwch ddod â’ch awydd am antur a disgwyliwch yr annisgwyl.

Uchafbwyntiau'r Ardd yn y gwanwyn

Mae'r gwanwyn yn fendigedig yng Nghastell Penrhyn. Wrth gyrraedd, mwynhewch olygfa'r blodau ceirios wrth i'r Cylch Sakura hardd gyhoeddi dyfodiad y gwanwyn yn ei drydedd flwyddyn o flodeuo. Mae ein gerddi ffurfiol yn siwr o ddod â gwên i'ch wyneb wrth i natur ddeffro. Mae Rhododendrons, Camelia, ac Asalea yn addurno'r llwybrau a'r Ardd Furiog tra bod yr Wisteria, coed Sakura a'r goeden hances yn golygu y gellir edmygu blodau'r gwanwyn oddi tano hefyd. Mae tiwlipau llachar yn cyrraedd ym mis Ebrill, wedi'u plannu yn y Teras Top ac ar hyd y Bwa Fuschia.

Hwyl i’r teulu cyfan

Waeth beth yw’r tywydd, mae digonedd o weithgareddau i chi eu mwynhau tu allan yn cysylltu â natur. O wylio adar i gerdded, rhedeg neu yn syml lenwi eich ysgyfaint ag awyr iach.

Yr Ardd Gorsiog

Mae planhigion rheonllys anferthol yn tra-arglwyddiaethu ar yr Ardd Gorsiog sy’n debyg i jyngl. Ymgollwch ymhlith y dail yn ystod y gwanwyn a’r haf neu ewch i’r man uchel ger y cut â tho gwellt i gael golygfa eang.

Yr Ardd Furiog

Cewch heddwch a thawelwch yn y tocwaith manwl, y llinellau geometrig, y pyllau cymesur a’r gwaith plannu manwl gywir yn yr Ardd Furiog. Yma gellir gwerthfawrogi gweledigaeth Walter Speed yn y 19eg ganrif o greu un o dair gardd orau Prydain ar y pryd.

Picnic â golygfa yn y Penrhyn

Gyda golygfeydd dros Fae Conwy ac Eryri, mae lawntiau syml Penrhyn yn lle delfrydol i gael picnic. Gall y rhai heini yn eich plith redeg, rowlio a gwneud olwyn trol fel fynnon nhw.

Gardd â golygfa

O’r ‘Lawnt Fasarn’ yng nghefn y castell gallwch fwynhau golygfeydd clir i lawr arfordir Gogledd Cymru i Landudno, y Gogarth ac Ynys Seiriol.

Mae wyneb blaen y castell a’r gerddi yn wynebu Eryri ac mae ganddynt olygfeydd eang o gopa Carnedd Llewelyn ar ddiwrnod clir.

Gosodwyd y castell ei hun mewn man strategol i gael golwg glir o Chwarel y Penrhyn ym Methesda.

Ymwelwyr yn edrych ar fynyddoedd Eryri o ardd Castell Penrhyn wrth iddi fachlud

Darganfyddwch fwy yng Nghastell Penrhyn a'r Ardd

Dysgwch pryd mae Castell Penrhyn a'r Ardd ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Y gromen fawr uwch ben y Grisiau Crand yng Nghastell Penrhyn gyda ffenestr yn y to a’r gwaith plastr
Erthygl
Erthygl

Ymweld â Chastell Penrhyn 

Mae tu allan y castell yn cuddio tu mewn a addurnwyd yn oludog a chartref yr oedd gan y teulu Pennant feddwl mawr ohono. Dysgwch am rai o’r ystafelloedd rhyfeddol.

Clychau'r gog yng Nghastell Penrhyn, Cymru
Erthygl
Erthygl

Crwydrwch yr ystâd yng Nghastell Penrhyn 

Pam nad ewch chi am dro oddi ar y llwybrau cyfarwydd ac ymweld â’r guddfan i lawr ger Afon Ogwen. Bydd teuluoedd yn mwynhau’r ardal chwarae naturiol hefyd. Cofiwch ddod â’ch welis.

Dau ymwelydd y tu mewn i injan stêm yn edrych ar yr injan yng Nghastell Penrhyn
Erthygl
Erthygl

Yn cyrraedd yn fuan: Penrhyn a’i Ddiwydiant 

Mae bloc y stablau wedi cau tra ein bod ni’n datblygu profiad newydd fydd yn cyrraedd yn hwyrach ymlaen yn 2024. Am ddiweddariadau a mwy o wybodaeth, ewch draw i’n gwefan.

A close up of a scone covered in cream and jam
Erthygl
Erthygl

Bwyta a siopa yng Nghastell Penrhyn 

Dewch i Gaffi’r Castell am ginio blasus ac amrywiaeth o gacennau. Mae’r siop yn cynnig anrhegion lleol neu porwch yn y siop lyfrau ail-law am fargen.