Skip to content

Pethau i'w gwneud ym Mhorth y Swnt

Nifer o gerfluniau o ffigyrau syml yn cael eu harddangos mewn ystafell dywyll gyda gwawl las yn arddangosfa ‘Y Dwfn’ ym Mhorth y Swnt, Aberdaron, Gwynedd.
Arddangosiad yn arddangosfa’r ‘Dwfn’ ym Mhorth y Swnt | © National Trust Images/Tom Simone

Yn sefyll ar lannau Cymru ym mhentref pysgota tlws Aberdaron, mae canolfan ymwelwyr Porth y Swnt yn cynnig cyfle i ddarganfod Penrhyn Llŷn - 30 milltir o benrhyn dramatig, digysgod sy'n ysbrydoli ac yn ymestyn i Fôr Iwerddon.

Hanes a diwylliant Llŷn

Creadigaeth y pensaer lleol, Huw Meredydd Owen, yw Porth y Swnt, a'i nod yw annog pobl i gael golwg newydd ar Lŷn trwy'r dehongli arloesol sy'n cynnig cyflwyniad i hanes a diwylliant Llŷn trwy sain, fideo, cerfluniau a gwaith celf.

Grŵp o blant yn sefyll o gwmpas arddangosiad crwn mewn ystafell dywyll ym Mhorth y Swnt, Aberdaron, Gwynedd. Mae’r arddangosiad wedi ei oleuo ac mae gwawl las yn cael ei adlewyrchu ar wynebau’r plant.
Plant yn archwilio arddangosfa’r ‘Dwfn’ ym Mhorth y Swnt | © National Trust Images/Gareth Jenkins

Ewch ar daith i’r Dwfn

Ymgollwch yn y Dwfn, profiad atmosfferig dan y môr. Closiwch at y ffermwr, y pysgotwr a'r pererin wrth i chi wau eich ffordd o gwmpas y cerfluniau pren a luniwyd yn gelfydd gan Dominic Clare. Dewch i adnabod ein morlo lleol yn ein hanimeiddiad sain a golau gan Sean Harris a Jim Brook.

Dewch o hyd i’r Ffordd

Ymlwybrwch at y Ffordd, lle daw'r berthynas rhwng pobl a'r tir yn fyw gyda deunyddiau naturiol. Mae gwaith celf tecstilau lliwgar Pandora Vaughan yn darlunio sut y defnyddiwyd y tir mewn ffyrdd gwahanol ar hyd yr oesoedd. Wedi ei blethu ar y safle gan y gwneuthurwr basgedi Lee Dalby; mae'r pod helyg yn lle braf i eistedd ac ymuno â Colin y pysgotwr ar daith i Ynys Enlli.

I’r Goleuni

Dewch allan i'r Goleuni, y man uchaf ar eich pererindod. Rhyfeddwch at y golau a'r lliwiau sy’n cael eu stummio trwy'r optig o osodiad gwydr Binita Walia. Dysgwch sut y gwnaeth y darn hanesyddol hwn o oleudy Ynys Enlli gyrraedd yma.

Mentrwch i’r Swnt

Cofiwch wlychu eich dwylo yn y Swnt. Mae'r gosodiad hwn a grëwyd gan Hellicar a Lewis yn defnyddio'r union amser o'r dydd, y tymor o'r flwyddyn, y tywydd a lefel llanw'r môr yn Aberdaron. Mae'n creu ffynnon o olau a sŵn sy'n newid yn barhaus y gall ymwelwyr ryngweithio ag o gan ddefnyddio eu dwylo.

Lluniwch eich cerddi eich hun

Ewch i lawr at y Gorlan a'r ardd, ardal y tu allan, i ystyried eich taith a phenderfynu ble yr ydych am fynd nesaf. Crëwch atgof trwy greu eich cerdd eich hun yn y Môr o Eiriau cyn mynd allan i grwydro'r rhan gyfareddol hon o Gymru.

Uchafbwyntiau Porth y Swnt

Ymgollwch am awr neu fwy wrth ddilyn y daith sain o gwmpas Porth y Swnt. Clywch am y bobl, yr hanes, y ddaeareg a bywyd gwyllt Llŷn wrth ymlwybro o gwmpas y ganolfan.

Optig y goleudy

Ag yntau'n 8 troedfedd o uchder ac 8 troedfedd o led allwch chi ddim methu optig Goleudy Ynys Enlli. Daeth y bwlb golau anferth draw dros y Swnt mewn hofrennydd ar ôl ei ymddeoliad. Gwyliwch y ffilm a dysgu rhagor am hanes yr optig rhyfeddol hwn.

Tri o blant wedi casglu o gwmpas perisgop yn yr arddangosfa ‘Y Goleuni’ ym Mhorth y Swnt, Aberdaron, Gwynedd.
Plant yn edrych trwy berisgop yn ‘Y Golau’, Porth y Swnt | © National Trust Images/Gareth Jenkins

Gweithgareddau i blant ym Mhorth y Swnt

Mwynhewch lyfr sgrap Porth y Swnt, chwiliwch am yr anifeiliaid cudd gyda'r dortsh uwch-fioled a chreu eich cerdd eich hun yn y Môr o Eiriau.

Ewch ar saffari bywyd gwyllt. Codwch daflen o'r maes parcio neu'r tu mewn i Borth y Swnt cyn cychwyn ar lwybr yr arfordir.

Llwybrau beic a theithiau cerdded ym Mhorth y Swnt

Ewch i weld yr ardal ar ddwy olwyn. Cewch ragor o wybodaeth am lwybrau beic lleol ym Mhorth y Swnt.

Crwydrwch ar hyd llwybr yr arfordir i draeth pysgota bychan Porth Meudwy. Efallai y gallwch weld yr aelod mwyaf prin o deulu'r frân, y frân goesgoch ar y ffordd.

Nifer o gerfluniau o ffigyrau syml yn cael eu harddangos mewn ystafell dywyll gyda gwawl las yn arddangosfa ‘Y Dwfn’ ym Mhorth y Swnt, Aberdaron, Gwynedd.

Darganfyddwch fwy ym Mhorth y Swnt

Dysgwch pryd mae Porth y Swnt ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Golygfa o’r machlud dros y traeth ym Mhorthor, Gwynedd. Mae’r môr ar drai ac mae cerrig mawr a mân wedi eu gwasgaru ar y tywod yn y blaendir.
Erthygl
Erthygl

Gweithgareddau awyr agored ym Mhorthor 

Nid yn unig mae ein harfordir yn hardd, mae’n hwyl hefyd. Os byddwch chi’n syrffio, corff-fyrddio neu mewn caiac, byddwch wrth eich bodd yn y dŵr ym Mhorthor. Crwydrwch ar hyd traeth gwych i deuluoedd a mwynhau lle gwych i ymlacio.

Gardd lliwgar Plas yn Rhiw
Erthygl
Erthygl

Ymweld â’r ardd ym Mhlas yn Rhiw 

Mae gan yr ardd ym Mhlas yn Rhiw lawer i'w gynnig trwy'r tymhorau, o'r eirlysiau sionc i berllan o ffrwythau a blodau hyfryd.