Darganfyddwch fwy yng Nghastell a Gardd Powis
Dysgwch pryd mae Castell a Gardd Powis ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Os ydych yn ymweld gyda’ch plant neu wyrion, fe gewch chi ddigon i ddifyrru’r teulu cyfan yng Nghastell Powis. Crwydrwch ystafelloedd y castell o’r 13eg ganrif neu dilynwch daith yn yr ardd sy’n siŵr o blesio’r rhai bach.
Dyma’r wybodaeth y bydd arnoch ei hangen yn gryno i’ch helpu i gynllunio eich diwrnod yng Nghastell Powis:
Paratowch i grwydro'r llwybr teulu hunan-dywys sy'n ymdroelli drwy'r ardd fyd-enwog.
Dilynwch y Llwybr Teigrod a chadwch olwg am bawennau cyfeillgar ar hyd y ffordd.
Dewch i hercio, sgipio a llamu ar hyd y llwybrau yn heulwen y gwanwyn a mwynhewch y gorau o fyd natur wrth i'r ardd ddod yn fyw.
Ceisiwch ddod o hyd i fywyd gwyllt ar hyd y ffordd, gan gynnwys adar yn esgyn yng nglesni’r awyr neu chwilod a buchod coch cwta islaw sydd wedi ymgartrefu ym Mhowis. Rhedwch ar hyd y lawntiau gwyrdd agored a dewch o hyd i’r ffynnon ddŵr ysblennydd ar waelod yr ardd.
Wedi'r holl antur, gorffwyswch eich coesau blinedig drwy eistedd yn yr iard neu gaffi'r ardd. Mwynhewch ddewis blasus o fwyd poeth ac oer, cynnyrch pob, cacennau a sgons cartref. Mae rhywbeth at ddant pawb gan ein bod yn cynnig bwydlen i blant hefyd ochr yn ochr ag amrywiaeth o brydau a byrbrydau heb glwten.
Pethau sydd angen i chi eu gwybod cyn ymweld:
- Codir tâl mynediad arferol (mynediad am ddim i aelodau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol)
- Ni chaniateir cŵn yn yr ardd yr adeg hon o'r flwyddyn.
- Mae ychydig o risiau ar hyd y llwybr, ond mae llwybrau eraill ar gael. Mae'r llwybr yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn a phramiau.
Dysgwch pryd mae Castell a Gardd Powis ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Awydd rhedeg yn yr awyr iach, dysgu sgiliau newydd a rhoi cynnig ar bethau newydd? Dechreuwch eich antur natur heddiw. (Saesneg yn unig)
Yn dyddio’n ôl 300 mlynedd, mae’r ardd o’r safon uchaf yn llawn o hanes. Welwch gymysgedd o derasau dramatig, borderi blodau , tocwaith anhygoel a golygfeydd rhyfeddol.
Ar ôl crwydro’r castell neu deithio trwy’r terasau, dadebrwch gydag un o’r danteithion blasus o Fwyty’r Cwrt, neu ewch ag anrheg adref o’r siop i’ch helpu i gofio diwrnod gwych.
Dewch i ymweld i ddysgu rhagor am y casgliadau byd-eang ym Mhowis, gan gynnwys cerfluniau, dodrefn a thecstilau o Ewrop, India a Dwyrain Asia.