Skip to content

Siopa yn Nhyddewi

A cushion with a floral decoration and colourful pastel throws
Arddunwch eich cartref â blancedi a chlustogau yn barod ar gyfer y gwanwyn | © National Trust Images/James Dobson

Mae ein canolfan ymwelwyr a’n siop wrth galon Stryd Fawr y ddinas, gyferbyn â’r groes ganoloesol eiconig. Chwilio am anrheg? Am ddod o hyd i rywbeth i gofio’ch ymweliad? Eisiau pori ein casgliad? Cofiwch ymweld â ni, da chi.

Porwch drwy gynnyrch lleol

Mae’r siop yn cynnwys amrywiaeth hyfryd o nwyddau Cymreig, lleol a chynhyrchion gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. A chofiwch am ein casgliad awyr agored, a’r amrywiaeth wych o roddion, cardiau, llyfrau a nwyddau eraill.

Rhywbeth i bawb o bob oedran

Dy’n ni heb anghofio’r plant chwaith – mae gennym rai o’r eitemau sydd eu hangen i gwblhau’r gweithgareddau ‘50 peth i’w gwneud cyn dy fod di’n 11¾’. Galwch draw i weld a allwn eich helpu i gwblhau eich rhestr ‘50 peth’.

Shoulder bags, a scarf and a hat on coat hooks
Ategolion y gwanwyn, yn cynnwys hetiau, sgarffiau a bagiau | © National Trust Images/James Dobson

Y Stryd Fawr Tyddewi

Awydd bach o siopa? Stryd fawr Tyddewi yw’r lle i chi. Mae’n drysor. Yn ogystal â’n canolfan ymwelwyr a’n siop, mae casgliad lliwgar o fwtîcs, siopau annibynnol ac orielau yma. Ewch am dro o gwmpas dinas leiaf y DU – does wybod pa roddion a danteithion ffeindiwch chi.

Mwynhau Tyddewi

Ar ôl yr holl siopa, mwynhewch wylio’r byd a’i bethau o un o’r caffis neu fwytai amrywiol. Fel arall, mae Eglwys Gadeiriol Tyddewi dafliad carreg i ffwrdd lle gallwch ddysgu mwy am nawddsant Cymru.

Diolch

Diolch i’ch ceiniogau a’ch cefnogaeth chi y gallwn barhau i ofalu am natur, harddwch a hanes i bawb, am byth.

Retail products shoot, summer 2021

Darganfyddwch fwy yng Nghanolfan Ymwelwyr a Siop Tyddewi

Dysgwch pryd mae Canolfan Ymwelwyr a Siop Tyddewi ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Clustog Fair yn blodeuo ar ben clogwyn wrth iddi fachlud yn Pentire
Erthygl
Erthygl

Ymwelwch â Phenrhyn Dewi 

Darganfyddwch fflora a ffawna Penrhyn Dewi. Cadwch olwg am blanhigion arfordirol, campau’r cudyllod a’r mulfrain llwyd fry uwchben, neu glochdar y cerrig yn clwydo ar lwyni eithin.

Golygfa eang o Draeth Marloes, Sir Benfro. Mae nifer o bobl ar y tywod euraidd, ac ar ymyl y traeth mae clogwyni geirwon yn codi.
Erthygl
Erthygl

Ymweld â Thraeth a Chors Marloes 

Dewch yn nes at natur drwy wylio’r adar ar y Gors a rhyfeddwch at y golygfeydd glan môr godidog ar draeth Marloes. Neu mentrwch ymhellach a darganfod yr ynysoedd oddi ar y Penrhyn.