Skip to content

Priodasau a digwyddiadau i grwpiau yn Ystad Ystagbwll

Pabell fawr ymestynnol agored sy’n ymestyn awyr agored ar gyfer priodas yng Nghanolfan Ystagbwll, Sir Benfro.
Pabell fawr ymestynnol agored sy’n ymestyn awyr agored ar gyfer priodas yng Nghanolfan Ystagbwll, Sir Benfro. | © National Trust/Emma Palmer

Gyda’i leoliad tawel yng nghanol Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a 3,000 acer o dirweddau Gradd 1, mae Ystagbwll yn berffaith ar gyfer teuluoedd egnïol, grwpiau neu briodasau.

Dathliadau yn Ystagbwll

Lleolir Canolfan Ystagbwll yng nghanol Ystad Ystagbwll, un o’r tirweddau Gradd 1 gwarchodedig mwyaf yng Ngorllewin Cymru, gyda dau draeth byd-enwog a milltiroedd o lwybrau sy’n arwain trwy goedwigoedd ac at lynnoedd enwog Bosherston. Byddwn yn gwneud yn siŵr y cewch ddiwrnod i’w gofio, ni waeth be fo’r achlysur.

Lleoliad a llety

Ffotograff o’r awyr yn dangos Canolfan Ystagbwll ac Ystâd Ystagbwll, Sir Benfro
Ffotograff o’r awyr yn dangos Canolfan Ystagbwll ac Ystâd Ystagbwll, Sir Benfro | © J.Abbott Photography Pembrokeshire

Canolfan Ystagbwll

Fe’i lleolir yng nghanol Ystad Ystagbwll – lle perffaith i gynnal dathliad a lleoli eich grŵp, boed yn fach neu’n fawr. Gall y Ganolfan ddarparu ar gyfer 139 o bobl mewn pedwar o adeiladau fferm mawr sydd wedi’u hailwampio – gellir eu trefnu mewn gwahanol ffyrdd i ddiwallu anghenion digwyddiadau, grwpiau neu deuluoedd gwahanol. Dyma leoliad perffaith ar gyfer grwpiau a theuluoedd mawr, a hefyd mae’n lleoliad gwych i dreulio gwyliau diddordeb arbennig neu gynnal gweithgareddau awyr agored, heb sôn am briodasau a dathliadau.

1 of 12

Arlwyo


Gall yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Ystagbwll eich rhoi mewn cysylltiad â chyflenwyr arlwyo lleol a all eich cynorthwyo gyda threfniadau arlwyo hunanarwain ar gyfer eich digwyddiad neu eich priodas.

Pebyll Mawr


Gall digwyddiad mewn pabell fawr fod yn ysblennydd yn ystod yr haf, a hefyd gall weithio yn ystod y misoedd oerach. Mae Ystagbwll yn cynnig lle perffaith i godi pabell fawr mewn amgylchedd gwledig bendigedig, o fewn cyrraedd rhwydd i Fae Barafundle, nifer o goetiroedd a llwybrau sy’n arwain trwy dirwedd hanesyddol yr ardal. Bydd digwyddiadau a gynhelir mewn pebyll mawr yn ddigwyddiadau hunanarwain. Mae gan Ganolfan Ystagbwll drwydded ar gyfer gwerthu alcohol mewn priodasau.

Gweithgareddau


Mae mwy na 30 cilomedr o lwybrau troed yn igam-ogamu ar draws yr ystad ehangach, ac maent yn arwain at ddau draeth gwobrwyol, llwybrau cerdded a rhedeg ar lan y llyn, llwybrau beicio mynydd a nifer o goetiroedd hynafol.

Pleser yw cael gweithio mewn partneriaeth ag Activity Pembrokeshire ac Outer Reef i gynnig sesiynau caiacio ac arforgampau yng Nghei Ystagbwll, a sesiynau syrffio yn Freshwater West.

I gael rhagor o wybodaeth, cymerwch gipolwg ar wefan Activity Pembrokeshire neu cysylltwch â’r tîm ar adventure@activity.cymru / 07977 543396.

Gellir cysylltu ag Outer Reef ar 01646 680070, contact@outerreefsurfschool.com, neu trwy gyfrwng y wefan.

Rhagor o wybodaeth

I gael rhagor o wybodaeth am gynnal priodasau, digwyddiadau preifat, digwyddiadau corfforaethol, neu ymweliadau gan ysgolion a phrifysgolion, ffoniwch 01646 623110 neu anfonwch e-bost i’r cyfeiriad Stackpole.bookings@nationaltrust.org.uk

Edrychwn ymlaen at eich helpu i greu’r digwyddiad perffaith.

Ranger removing debris from the hydro at Watendlath, Cumbria

Tackling climate change

Uncover how we’re responding to the changing climate at places in our care.