Darganfyddwch fwy yn Nhŷ Tredegar
Dysgwch pryd mae Tŷ Tredegar ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Y parcdir yn ystâd Tŷ Tredegar yw’r lle perffaith i ddianc rhag prysurdeb bywyd y ddinas. Mae yna lawntiau eang, llyn troellog a choetir yn aros i chi eu darganfod. Mwynhewch unrhyw beth o bicnic, loncian neu chwarae cuddio gyda’r teulu.
Ynghyd â’r plasty a’r gerddi ffurfiol, mae’r parcdir ar agor bob dydd yn y gwanwyn. Yn ystod y gwanwyn, mae’r parcdir yn lle gwych i fynd am dro hamddenol, archwilio byd natur a threulio amser gyda’r teulu.
Mae’r adar a'r creaduriaid bach wedi dychwelyd ar gyfer y gwanwyn, felly cadwch olwg am fywyd gwyllt cyffrous yn llenwi’r llwyni ac yn nofio yn y llyn.
Mae’n cynhesu yn y boreau, felly manteisiwch ar y wawr gynnar a dewch i ddarganfod rhyfeddodau’r gwanwyn wrth fynd am dro drwy’r parc. Gyda rhew ar y llyn a niwl yn cilio o Rodfa’r Dderwen, bydd cân yr adar yn eich swyno a’r haul yn tywynnu ar eich croen wrth ichi fynd am dro.
Gan mai’r gwanwyn yw’r tymor blodeuo, cadwch olwg am fywyd newydd, blagur a blodau ar hyd a lled y parcdir.
Yn dilyn y cyfnod hir o dywydd gwlyb, rydym wedi cau’r bont ym mhen draw’r llyn er mwyn cynnal arolwg. Rhaid i ni gynnal gwaith cynnal a chadw hanfodol cyn gallu defnyddio’r bont unwaith eto, felly diolch i chi ymlaen llaw am eich amynedd.
Gofynnwn yn garedig i chi gadw at y llwybrau o amgylch y llyn a pheidiwch â mynd i mewn i’r dŵr.
Yn anffodus mae hyn yn golygu nad oes llwybr cylchol o amgylch y llyn ar hyn o bryd, ond gallwch ddefnyddio’r nail ochr serch hynny ar hyd y llwybrau.
Mae ein cynlluniau ar gyfer man chwarae yn y parcdir ar droed a chyn hir fe fydd yna fan chwarae newydd sbon y gall plant o bob oed ei fwynhau. Byddwn yn siŵr o roi’r diweddaraf ichi wrth i’n cynlluniau ddatblygu. Hoffem ddiolch ichi am eich amynedd tra bydd y gwaith hwn yn cael ei gwblhau.
Efallai y bydd y gwaith yn tarfu rhywfaint arnoch yn ystod y cyfnod hwn, ond mae yna lawer o bethau eraill y gall teuluoedd eu mwynhau yn ystod eu hymweliad, yn cynnwys man chwarae naturiol yn y coetir.
Ewch i Dderbynfa’r Ymwelwyr i siarad ag aelod o’r tîm ynglŷn â chael Bag-cefn Archwilio, neu i gasglu un o’n llwybrau darluniadol i deuluoedd ar gyfer y gerddi a’r plasty. A chofiwch gael cipolwg ar ein digwyddiadau diweddaraf i deuluoedd ar gyfer y tymor hwn.
‘Slawer dydd, roedd saith o rodfeydd derw yma, yn estyn allan o’r plasty fel breichiau olwyn. Mae'r un sydd ar ôl yn estyn o’r gatiau, sy’n dyddio o'r ail ganrif ar bymtheg, dros grib y bryn tuag at Gastell Rhiwperra - a oedd yn gartref haf i'r teulu Morgan ar un adeg.
Dewch â’ch llyfrau adar a’ch binocwlars; mae ein parcdir dan ei sang â bywyd gwyllt. Mae’r llyn yn un o hoff lecynnau’r wyach, yr alarch, y gwtiar a chymuned gyfan o hwyaid.
Cadwch lygad allan am elyrch, cwtieir a chrehyrod yn ein llyn, ynghyd â llwyth o greaduriaid llithrig eraill y dŵr. Mae ein trigolion lleol yn hoff iawn o wylio'r elyrch, ac maent yn cadw llygad ar hynt a helynt y cywion bach bob blwyddyn.
Mae’r parcdir yn newid yn barhaus wrth i’r tymhorau fynd a dod.
Mae’r cewri cochion hyn yn atgof mawreddog o oes hudolus a fu.
Helpwch ni i ofalu am y parcdir drwy ddilyn y rheolau syml hyn:
Rydym yn ymrwymedig i warchod ecoleg y llyn a gofalu am yr holl fywyd gwyllt sydd wedi ymgartrefu yma. Mae abwyd pysgota a hen fachau a leiniau yn beryglus iawn i’n bywyd gwyllt.
Mae croeso i chi fwynhau picnic, ond mae barbeciws yn achosi risg tân. Gallant achosi difrod sylweddol i’r glaswelltir a’r byrddau picnic, felly peidiwch â dod â barbeciws i’n parc. Mae digon o lefydd i fwynhau picnic yn yr awyr agored. Cofiwch fynd â’ch sbwriel adref gyda chi neu ei roi yn y biniau sydd ar gael yn y parcdir.
Mae digon o le parcio wrth y fynedfa i’r plasty i ymwelwyr â’r tŷ, y gerddi a’r parc. Peidiwch â pharcio yn unrhyw le arall ar y safle.
Cofiwch wisgo sgidiau addas ar gyfer eich anturiaethau. Boed law neu hindda, mae’n bosib y bydd rhannau o’r parc yn fwdlyd ac anwastad.
Mwynhewch lwybr y coetir, ond byddwch yn ofalus lle mae’r ddaear yn anwastad a lle mae gwreiddiau’r coed yn agored.
Yn ystod misoedd yr haf, rydym yn helpu bwyd gwyllt i ffynnu drwy adael i’r glaswellt dyfu’n hir mewn mannau i greu cynefinoedd naturiol. Gall rhai o’n creaduriaid bach gnoi neu bigo, felly cymerwch ofal.
Mae pawb yn gwybod bod plant bach yn hoff o grwydro. Felly cadwch lygad ar eich plant bob amser, yn arbennig yn yr ardaloedd chwarae. Mae rhai plant yn fwy anturus nag eraill, a dim ond chi sy’n ymwybodol o allu a chyfyngiadau eich plant eich hun neu’r rhai sydd yn eich gofal. Ymgyfarwyddwch â’r ardal chwarae a chadwch lygad arnynt tra eu bod nhw’n chwarae.
Mae sawl corff dŵr mawr yn ein parcdir. Er eu bod nhw’n edrych yn ddeniadol, gallant fod yn beryglus, felly cymerwch ofal o gwmpas y dŵr bob amser. Ni chewch nofio yn ein llynnoedd na’n pyllau dŵr.
Gall tywydd gwael achosi i ganghennau neu falurion gwympo o goed ac adeiladau, felly talwch sylw i beth sydd uwchben a byddwch yn ymwybodol o’r risgiau pan fyddwch allan yn cerdded.
Os yw’r gwynt yn gryf neu’r tywydd yn arw, mae’n bosibl y caewn y parcdir i gadw pawb yn ddiogel. Bydd y wybodaeth hon ar arwyddion ar y safle ac ar ein gwefan a’n sianeli cyfryngau cymdeithasol.
Dysgwch pryd mae Tŷ Tredegar ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Neidiwch i mewn i hanes y plasty arbennig hwn a’r Morganiaid, Cymry balch a fu’n berchen arno am fwy na 500 mlynedd. Darllenwch am eu gorffennol lliwgar, gan gynnwys hanesion o hynodrwydd a gwrthryfel y dosbarth gweithiol.
Mae gan Dŷ Tredegar sgôr o dair pawen. Mae digon o gyfleoedd i lamu, neidio a snwffian yn Nhŷ Tredegar. Dysgwch bopeth sydd angen i chi ei wybod am ymweld gyda’ch ci.
Galwch draw i gaffi’r Bragdy am ddiod a bwyd poeth. Wedi’i leoli mewn adeilad hanesyddol, mae pob ceiniog a gaiff ei gwario yma yn ein helpu i ofalu am Dŷ Tredegar ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Crwydrwch amrywiaeth o erddi hanesyddol ar eich ymweliad â Thŷ Tredegar. Darllenwch fwy am y llecynnau gwyrdd unigryw hyn, a sut gall ymwelwyr eu mwynhau nhw heddiw.