Skip to content

Defnyddio synhwyrydd metel ar dir yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Metal detecting on the Isle of Wight
Dim ond o dan amgylchiadau penodol y caniateir defnyddio synwyryddion metel ar dir yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol | © National Trust Images/John Millar

Dydyn ni ddim yn caniatáu defnydd o synwyryddion metel ar dir yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol oni bai ei fod yn rhan o brosiect archeolegol sydd wedi’i ddiffinio’n glir. Yma, esbonnir ein polisi synwyryddion metel, a’r amodau lle gellid caniatáu Cytundeb Ymchwil Archeolegol.

Sylwch

Mae’r amodau hyn yn berthnasol i holl dir yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, gan gynnwys traethau.

Ein safbwynt ar ddefnyddio synwyryddion metel

Mae defnyddio synwyryddion metel yn hobi poblogaidd a all helpu i feithrin ein dealltwriaeth o’r gorffennol. Rydym yn gweithio gyda chlybiau synwyryddion metel ac unigolion ar brosiectau ymchwil a all ein helpu i wneud darganfyddiadau yn y llefydd rydym yn eu rheoli, i genedlaethau’r dyfodol eu gwerthfawrogi ac i feithrin ein dealltwriaeth o’r llefydd rydym yn gofalu amdanynt.

Pryd y gallwch ddefnyddio synhwyrydd metel ar dir yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol

I sicrhau bod synwyryddion metel yn cael eu defnyddio mewn ffordd ddiogel a chyfrifol, nid ydym yn caniatáu ‘trwyddedau synhwyrydd metel’. Rydym ond yn caniatáu defnydd o synwyryddion metel fel rhan o brosiect archeolegol wedi’i ddiffinio’n glir a gefnogir gan Gynllun Ymchwil sy’n nodi, ymysg pethau eraill, nodau’r gwaith a’r trefniadau ar gyfer cofnodi, gwarchod ac archifo unrhyw ddarganfyddiadau. Ar ôl cytuno ar y Cynllun Ymchwil, bydd yr Ymddiriedolaeth yn cyhoeddi Cytundeb Ymchwil Archeolegol.

Mae’r amodau hyn yn berthnasol i bawb, p’un ai a ydynt yn aelodau o glybiau synwyryddion metel, archeolegwyr amatur, myfyrwyr, academyddion, cwmnïau archeolegol proffesiynol neu unigolion preifat. Rydym yn gweithredu fel hyn gan ein bod yn credu mai dyma’r ffordd orau o barhau i ofalu am y llefydd arbennig yn ein gofal.

Pam rydym wedi gweithredu’r polisi hwn

Rydym yn gwybod bod gan y rhan fwyaf o bobl sy’n defnyddio synwyryddion metel ddiddordeb go iawn mewn hanes ac archaeoleg, a’u bod yn gwneud yn siŵr eu bod yn rhoi gwybod am eu darganfyddiadau, ond mae angen i ni sicrhau na chaiff darganfyddiadau eu symud ymaith heb gael eu cofnodi’n iawn neu heb oruchwyliaeth archeolegol.

Mae holl dir yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn cynnwys potensial archeolegol ac mae wedi’i roi yn ein gofal er budd pawb. Pan mae darganfyddiadau’n cael eu cymryd allan o gyd-destun, rydym yn colli darn o’r jig-so, sy’n ei gwneud hi’n anoddach i ni ofalu am ein harcheoleg ac adrodd stori ein lleoliadau.

Cytundebau Ymchwil Archeolegol

Mae’r rhain yn gytundebau ysgrifenedig rhwng yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a defnyddwyr synwyryddion metel ac ymchwilwyr archeolegol eraill sy’n rhoi caniatâd i ddefnyddio synhwyrydd metel ar dir yr Ymddiriedolaeth fel rhan o brosiect ymchwil. Dydyn ni ddim yn caniatáu unrhyw ddefnydd o synwyryddion metel ar ein tir heb Gytundeb Ymchwil Archeolegol, hyd yn oed os yw’r tir yn dir âr. I gael Cytundeb, rhaid i ymgeiswyr weithio gydag archeolegydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i gynhyrchu eu Cynllun Ymchwil.

O dan amgylchiadau eithriadol, gallem ganiatáu’r defnydd o synhwyrydd metel fel rhan o weithgareddau anarcheolegol – er enghraifft, i ddod o hyd i wasanaethau tanddaearol neu i ganfod eitemau personol coll. Beth bynnag yw’r rheswm am y gwaith, fodd bynnag, rhaid i’r defnydd o synhwyrydd metel fod o dan oruchwyliaeth archeolegydd yr Ymddiriedolaeth bob amser.

Using a trowel during a costumed recreation of the 1930s archaeological dig by Basil Brown at Sutton Hoo, Suffolk.
Rhaid i’r defnydd o synhwyrydd metel fod yn gysylltiedig â phrosiect ymchwil dilys | © National Trust Images/John Millar

Dim ond archeolegydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy’n gallu cyhoeddi Cytundeb Ymchwil Archeolegol. Ni all aelodau eraill o staff yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, tenantiaid na ffermwyr roi caniatâd i ddefnyddio synhwyrydd metel ar dir yr Ymddiriedolaeth.

Yng Ngogledd Iwerddon, yn ogystal â bodloni’r gofynion uchod, bydd angen i ymgeiswyr gael trwydded i gloddio gan yr Is-adran Amgylchedd Hanesyddol, yr Adran Cymunedau. Nid yw’r drwydded hon, fodd bynnag, yn sicrhau y bydd yr Ymddiriedolaeth wedyn yn caniatáu Cytundeb Ymchwil Archeolegol.

I ddefnyddio synhwyrydd metel ar Henebion Cofrestredig, yn ogystal â Chytundeb Ymchwil Archeolegol, bydd angen Trwydded Adran 42 gan Cadw, neu Historic England yn Lloegr. Mae defnyddio synhwyrydd metel ar Heneb Gofrestredig heb Drwydded Adran 42 yn drosedd.

Darganfyddiadau a thrysor

Mae unrhyw ddarganfyddiadau, ac eithrio ‘trysor’, yn parhau’n eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. O dan Ddeddf Trysor 1996, rhaid i unrhyw beth a allai gael ei ystyried yn ‘drysor’ gael ei adrodd i’r crwner lleol neu Swyddog Cyswllt Darganfyddiadau (SCD) y Cynllun Hynafiaethau Cludadwy (CHC) o fewn 14 diwrnod.

Defnyddio synhwyrydd metel heb Gytundeb Ymchwil Archeolegol

Os cewch eich gweld yn defnyddio synhwyrydd metel heb y Cytundeb, gofynnir i chi adael yr eiddo a byddwn yn cymryd camau i adfer unrhyw ddarganfyddiadau a wnaed ar dir yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Byddwn yn rhoi gwybod am unrhyw ddefnydd anawdurdodedig o synhwyrydd metel ar Henebion Cofrestredig i’r heddlu.

Pysgota magnet

Ni chaniateir pysgota â magnet ar dir yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol nag yng nghyrsiau dŵr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Rhagor o wybodaeth

Byddwn bob amser yn ystyried cynigion ymchwil dilys, felly os oes gennych brosiect penodol mewn golwg ac yr hoffech drafod manylion eich Cynllun Ymchwil, rhowch wybod i ni lle yr hoffech wneud y gwaith a gallwn eich rhoi mewn cysylltiad â’r archeolegydd rhanbarthol priodol.

E-bostiwch ni yn metaldetecting@nationaltrust.org.uk

A member of the conservation team cleaning carvings using a brush and conservation grade hoover at Lanhydrock, Cornwall

Amdanom ni

Dysgwch fwy am pwy ydyn ni, beth rydym yn ei warchod a’i hyrwyddo, a pham. (Saesneg yn unig)

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Conservator applying a poultice to remove algae and micro-biological growth from a painted wall in the Cold Bath at Chedworth Roman Villa, Gloucestershire

Archeoleg 

Dysgwch fwy am hanes y llefydd rydym yn gofalu amdanynt. Drwy ddefnyddio archeoleg, gallwn helpu i ddatgelu straeon pobl a chymunedau’r oes a fu. (Saesneg yn unig)

The house and garden at Smallhythe Place showing flowers in bloom in June
Erthygl
Erthygl

Hanes yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol 

Darganfyddwch hanes yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, o’i sefydlu, drwy brosiectau a mentrau allweddol, i’w dathliadau pen-blwydd diweddar. (Saesneg yn unig)

Ymwelydd yn cario sach gefn ac yn cerdded ar hyd llwybr troed yn Divis a’r Mynydd Du gyda waliau carreg i’r naill ochr, y cefn gwlad i’w weld yn y cefndir.
Erthygl
Erthygl

Dilynwch y cod cefn gwlad 

Helpwch ni i ofalu am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.

View of Mam Tor from Winnats Pass, Derbyshire
Erthygl
Erthygl

Ein safbwynt ar hela trywydd  

Darllenwch am ein safbwynt ar hela trywydd a sut i roi adroddiad am dresmasu ar dir sydd dan ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

National Trust Council members standing in a garden listening to someone do a talk
Erthygl
Erthygl

Cyngor yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol 

Dysgwch sut mae aelodau’r Cyngor yn cael eu hethol a sut maen nhw’n rhoi cyngor ar benderfyniadau pwysig, yn llywio strategaeth ac yn ein cadw mewn cysylltiad â’r cyhoedd ehangach. (Saesneg yn unig)

National Trust Council Chair, René Olivieri at the 2023 AGM
Erthygl
Erthygl

Sut rydym yn cael ein rhedeg 

Dysgwch sut mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn cael ei rhedeg, sut mae ein trefniadau llywodraethu wedi’u seilio ar Ddeddfau Seneddol a sut maent wedi’u dylunio i gefnogi a herio ein staff. (Saesneg yn unig)

Dramatic views from the south end of Buttermere Lake in Cumbria
Erthygl
Erthygl

Defnydd tir a chynllunio 

Dysgwch sut mae systemau cynllunio’n effeithio ar yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a sut rydym yn eirioli ar gyfer y canlyniadau gorau i bobl, yr hinsawdd, natur a threftadaeth. (Saesneg yn unig)