Skip to content
Llun llydan o rywun yn cerdded ar hyd lan y môr ym Mae Cemlyn, Ynys Môn. Mae’r bae yn crymanu’n eang, ac mae’r môr yn taro’r lan yn dawel.
Ymwelydd yn cerdded ym Mae Cemlyn, Ynys Môn | © National Trust Images/John Millar
Wales

Taith gylchol Cemlyn a Llanrhwydrys

Taith dair milltir atmosfferig iawn, sy’n rhoi cyfle i weld safleoedd crefyddol, ffurfiannau creigiau a bywyd gwyllt ar y lagŵn. Os byddwch yn amseru pethau’n iawn, gallwch weld yr haul yn machlud dros fôr Iwerddon.

Llifogydd

Cofiwch y gall maes parcio Bryn Aber fynd dan ddŵr. Gwiriwch amseroedd y llanw uchel cyn eich ymweliad.

Cyfanswm y camau: 7

Cyfanswm y camau: 7

Man cychwyn

Maes parcio Bryn Aber, cyfeirnod grid: SH329936

Cam 1

O’r maes parcio cerddwch heibio’r gofgolofn tua’r penrhyn.

Cam 2

Trowch i’r chwith trwy’r giât mochyn a naill ai dilyn llwybr yr arfordir neu gerdded ar hyd y traeth.

Cam 3

Mwynhewch y golygfeydd rhyfeddol o’r môr wrth gerdded ar hyd yr arfordir. Os oes gennych amser mae’n werth mynd draw i Eglwys Llanrhwydrys. Yr adeilad bach hyfryd hwn yw un o safleoedd crefyddol hynaf Ynys Môn ac mae’n un o ychydig iawn o eglwysi ers cyn y Diwygiad Protestannaidd ar yr ynys.

Cam 4

Pan gyrhaeddwch chi fae bychan Henborth cofiwch chwilio am drymlin Henborth, ffurfiant creigiau sy’n edrych fel morfil ar draeth. Trowch i’r chwith trwy’r giât mochyn.

Cam 5

Cerddwch ymlaen trwy’r giât mochyn tuag at Hen Felin a chroesi’r bont. Trowch i’r chwith i’r ffordd a cherdded yn ôl tuag at Fae Cemlyn a’r Warchodfa Natur Genedlaethol sy’n cael ei chysgodi gan y marian.

Cam 6

Ar ôl mynd heibio Fronddu, trowch i’r chwith i fyny’r lôn. Bydd hyn yn mynd â chi heibio lagŵn Cemlyn, a sefydlwyd yn yr 1930au gan y Capten Vivian Hewitt o Fryn Aber.

Cam 7

Dilynwch y lôn dros yr Esgair ac yn ôl i’r maes parcio.

Man gorffen

Maes parcio Bryn Aber, cyfeirnod grid: SH329936

Map llwybr

Map yn dangos llwybr a grisiau taith gylchol Cemlyn a Llanrhwydrys
Taith gylchol Cemlyn a Llanrhwydrus | © Crown copyright and database rights 2013 Ordnance Survey

Dyna ni, da iawn chi

Rhannwch eich profiad

Mwy yn agos i’r man hwn

Llun llydan o rywun yn cerdded ar hyd lan y môr ym Mae Cemlyn, Ynys Môn. Mae’r bae yn crymanu’n eang, ac mae’r môr yn taro’r lan yn dawel.
Llwybr
Llwybr

Taith Esgair Gemlyn 

Dewch ar daith ar hyd esgair a gwylio llu o adar y dŵr ar y lagŵn yng Ngwarchodfa Natur Cemlyn. Bydd y daith gylchol yn eich arwain ar draws Esgair ac ar ffyrdd bach gwledig at Fae Cemlyn. Mae’n berffaith i gerddwyr ac edmygwyr bywyd gwyllt.

Gweithgareddau
Cerdded
PellterMilltiroedd: 2 (km: 3.2)
Machlud dros fae eang Cemlyn
Llwybr
Llwybr

Taith Trwyn Cemlyn ar Ynys Môn 

Mwynhewch y daith hawdd hon o gwmpas y penrhyn yng Nghemlyn. Mae’r daith yn dathlu bywyd gwyllt cyfoethog Ynys Môn a’i threftadaeth ddiwydiannol.

Gweithgareddau
Cerdded
PellterMilltiroedd: 1 (km: 1.6)

Cysylltwch

Cemlyn Nature Reserve, Cemlyn, Cemaes Bay, Anglesey, LL67 0DY

Ein partneriaid

Cotswold Outdoor

Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â Cotswold Outdoor i helpu pawb i wneud y gorau o'u hamser yn yr awyr agored yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.

Ymweld â'r wefan 

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

An aerial view of an adult and baby walking a dog along a path at Baggy Point, Devon
Erthygl
Erthygl

Cadw’n ddiogel yn lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol 

Mae ambell risg yn dod law yn llaw ag ymweld â’r llefydd arbennig y mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu amdanynt, boed ar yr arfordir neu yng nghefn gwlad. Dysgwch sut i gadw’n ddiogel drwy gydol eich ymweliad.

A group of people in a hiking group are being guided on a hike by rangers at Marsden Moor, West Yorkshire
Erthygl
Erthygl

Cotswold Outdoor: Ein partner cerdded 

Dysgwch fwy am bartneriaeth barhaus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda Cotswold Outdoor fel ein partner cerdded.

A group of hikers exploring a hilly landscape on a sunny winters day.

Cerdded 

Dewch i archwilio rhai o dirweddau harddaf y genedl ar lwybrau unig, traciau rhwydd a theithiau hygyrch. (Saesneg yn unig)

Dwy ferch yn cerdded ar lwybr trwy'r goedwig yn Stad Southwood, Sir Benfro yng Nghymru

Cerdded yng Nghymru 

Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.

Cerddwr yn sefyll ar arfordir Sir Benfro, yn edrych allan ar y môr
Erthygl
Erthygl

Teithiau cerdded arfordirol yng Nghymru 

Darganfyddwch lwybrau cerdded gorau arfordir Cymru, gan fwynhau penrhynoedd prydferth, pentrefi cain, henebion cynhanesyddol a bywyd gwyllt godidog.  

Llun llydan o rywun yn cerdded ar hyd lan y môr ym Mae Cemlyn, Ynys Môn. Mae’r bae yn crymanu’n eang, ac mae’r môr yn taro’r lan yn dawel.
Erthygl
Erthygl

Gwylio adar yng Nghemlyn 

Ewch am dro ar hyd arfordir garw gogledd Ynys Môn er mwyn gweld os gallwch chi adnabod yr amrywiaeth eang o adar anarferol sy’n ymweld â’r ardal.

Ymwelydd yn cario sach gefn ac yn cerdded ar hyd llwybr troed yn Divis a’r Mynydd Du gyda waliau carreg i’r naill ochr, y cefn gwlad i’w weld yn y cefndir.
Erthygl
Erthygl

Dilynwch y cod cefn gwlad 

Helpwch ni i ofalu am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.