
Ymuno
Mwynhewch fynediad i fwy na 500 o leoliadau gydag aelodaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ymunwch heddiw a helpwch i ddiogelu natur, harddwch a hanes – i bawb, am byth.
Arfordir garw hardd o greigiau, baeau bychain a phentiroedd yn berffaith ar gyfer cerddwyr. Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.
Gwarchodfa Natur Cemlyn, Cemlyn, Bae Cemaes, Sir Fôn, LL67 0DY
Asset | Opening time |
---|---|
Morlin | Dawn - Dusk |
Mae’r llwybrau cerdded o gwmpas Cemlyn yn anwastad ac nid ydynt yn addas ar gyfer pob cadair olwyn.
Maes parcio - what3words: ///rhifyn.cwpanaid.llewyrch
Gwarchodfa Natur Cemlyn, Cemlyn, Bae Cemaes, Sir Fôn, LL67 0DY
O draethau sy’n croesawu cŵn a llwybrau arfordirol, i goetiroedd a gerddi, mae digonedd o leoedd i ymweld â nhw gyda’ch ci yn Ynys Môn.
Mae Bae Cemlyn yn un o Warchodfeydd Natur Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru. Arfordir trawiadol o greigiau, baeau bach a phentiroedd.
Ewch am dro ar hyd arfordir garw gogledd Ynys Môn er mwyn gweld os gallwch chi adnabod yr amrywiaeth eang o adar anarferol sy’n ymweld â’r ardal.
Dewch ar daith ar hyd esgair a gwylio llu o adar y dŵr ar y lagŵn yng Ngwarchodfa Natur Cemlyn. Bydd y daith gylchol yn eich arwain ar draws Esgair ac ar ffyrdd bach gwledig at Fae Cemlyn. Mae’n berffaith i gerddwyr ac edmygwyr bywyd gwyllt.
Mwynhewch y daith hawdd hon o gwmpas y penrhyn yng Nghemlyn. Mae’r daith yn dathlu bywyd gwyllt cyfoethog Ynys Môn a’i threftadaeth ddiwydiannol.
Dilynwch y daith gylchol dair milltir hon yng Nghemlyn, Ynys Môn, i weld golygfeydd o’r môr, ffurfiannau’r creigiau, safleoedd crefyddol a bywyd gwyllt. Gall ymwelwyr lwcus hyd yn oed weld morloi, ac os byddwch yn amseru pethau’n iawn, gallwch weld yr haul yn machlud dros fôr Iwerddon.
A pretty cottage on the north coast of Anglesey with lovely beach views from the back garden.
This Georgian house retains much of its original character and looks out over Llanlleiana Bay.
A cosy farmhouse, a few minutes’ walk from the wild, rugged coastal path and a pretty seaside town with a sandy beach
Mae'n ddrwg gennym, nid oes unrhyw ddigwyddiadau i ddod yn y lle hwn
Mae gan arfordir gogleddol Ynys Môn arfordir unigryw o greigiau, baeau bychain a phentiroedd ac mae’n bleser i gerddwyr. Mae Cemlyn yn cael ei gydnabod am ei Warchodfa Natur Genedlaethol ac mae’n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ddynodedig ac yn gartref i’r cor-rosyn brych prin. Mae Bae Cemlyn, sy’n enwog am ei gytrefi magu o bigfain, môr-wenoliaid cyffredin ac Arctig, yn fwrlwm o weithgarwch adar môr yn y gwanwyn a’r haf. Mae llwybrau pentir yn cynnig tir a morluniau dramatig yn ystod yr hydref a’r gaeaf. Mae'r morlyn hallt wedi'i wahanu oddi wrth y môr gan gefnen raeanog hynod. Mae Cemlyn, ble mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn gyfrifol am ofalu am y safle, bellach yn barthau di-fwg gwirfoddol fel rhan o fenter nodedig a lansiwyd gydag ASH Cymru i ddiogelu natur, bywyd gwyllt a lles cymunedol.
Gyda thraethau gwych, amrywiaeth o fywyd gwyllt a diwylliant unigryw, mae digonedd i fod yn falch ohono yn Ynys Môn. Yr haf hwn, mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn falch o ryddhau ‘Dyma Ynys Môn’, cân newydd fywiog a fideo cerddoriaeth sy’n arddangos uchafbwyntiau’r ynys. Mae’r gân wedi ei chreu ar y cyd â Mr Phormula a disgyblion Blwyddyn 9 Ysgol Syr Thomas Jones yn Amlwch, gan ddwyn ysbrydoliaeth gan dreftadaeth ddiwylliannol ac amgylchedd prydferth Ynys Môn a chyfuno hyn gyda chreadigrwydd a lleisiau pobl ifanc sydd ar yr ynys.
Mwynhewch fynediad i fwy na 500 o leoliadau gydag aelodaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ymunwch heddiw a helpwch i ddiogelu natur, harddwch a hanes – i bawb, am byth.
Trwy rannu eich cyfeiriad e-bost rydych chi’n cytuno i dderbyn e-byst marchnata gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac yn cadarnhau eich bod yn 18 oed neu hŷn. Gweler ein am fwy o wybdaeth am sut rydyn ni’n gofalu am eich data personol.