Skip to content
Ymwelwyr yn yr Ystafell Groeso Las dros y Nadolig yng Nghastell Powis ym Mhowys, Cymru
Mwynhewch ddyddiau allan llawn hwyl yng Nghymru y Nadolig hwn | © National Trust Images/Paul Harris

Y Nadolig yng Nghymru

O addurniadau Nadolig a theithiau cerdded gaeafol i weithgareddau teuluol a marchnadoedd yr ŵyl, mae llawer o ddigwyddiadau a phethau i’w gwneud yn eich ardal chi y gaeaf hwn yng Nghymru. Trefnwch ddiwrnod allan Nadoligaidd a dewch o hyd i lawer o bethau i’w gweld a’u gwneud gyda’r teulu i gyd.

Diwrnodau Nadoligaidd hudolus yng Ngogledd Cymru

Dyn, dynes a phedwar o blant yn edrych ar goeden Nadolig wedi’i haddurno’n gain.
Erthygl
Erthygl

Castell y Waun, Wrecsam 

Taniwch ddychymyg y rhai ifanc yn y gaer ganoloesol hon sy’n llawn addurniadau hudolus. Mae’r thema eleni wedi'i hysbrydoli gan baentiad ffantasïol yn y casgliad; 'Orpheus Charming The Animals'. Cadwch lygad am amrywiaeth o anifeiliaid gan gynnwys adar yn hedfan a mwncïod sy'n achosi hafoc wrth i chi grwydro drwy'r castell. Gorffennwch eich ymweliad gyda phrofiad ymgollol yn yr Adain Ddwyreiniol, a fydd ar agor yn arbennig ar gyfer y tymor gwyliau. Lapiwch yn gynnes a mwynhewch gerdded drwy'r parcdir gaeafol, ewch i'r ystafell de i fwynhau danteithion Nadoligaidd, neu prynwch anrhegion yn Home Farm.

Addurniadau Nadolig yn Erddig, Wrecsam, Cymru
Erthygl
Erthygl

Erddig, Wrecsam 

Mae Erddig yn gwneud ymdrech arbennig iawn y Nadolig hwn i ddathlu 50 mlynedd ers i'r eiddo ddod mewn i’n gofal. Bydd llawer o'r tŷ yn cael ei addurno ar gyfer yr achlysur gyda rhywfaint o’r eitemau arian yn y casgliad yn cael eu harddangos yn yr ystafell fwyta a chymaint â 2,268 o anrhegion wedi'u lapio yn Ystafell y Llwythau, gyda phob un yn cynrychioli 10 eitem yn y casgliad. Ar ddiwrnodau dethol, cewch dostio malws melys, cymryd rhan mewn gweithgareddau crefft, adrodd straeon, cerddoriaeth fyw a bydd y brecwast neu swper gyda Siôn Corn hefyd yn dychwelyd.

Addurniadau Nadolig yng Nghastell Penrhyn, Bangor, Gwynedd, Cymru
Erthygl
Erthygl

Castell Penrhyn, Bangor 

Dewch i weld Castell Penrhyn yn orlawn o addurniadau addurnedig Bydd y llawr gwaelod yn cael ei addurno gyda choed Nadolig disglair a choeden anferthol ar y Grisiau Mawr, perffaith ar gyfer eich llun teuluol Nadoligaidd. Yn y Llyfrgell, gallwch eistedd yn ôl ac ymlacio gyda llyfr, ail-ymweld â rhai gemau bwrdd hoff yn yr Ystafell Gemau neu wneud eich ffordd i’r Ceginau Fictoraidd i rannu eich ryseitiau Nadolig wrth i arogl danteithion yr ŵyl lenwi'r awyr. Cydiwch siocled poeth o'r ystafell de a mwynhewch daith aeaf o amgylch yr ardd a'r tir a chymryd hun-lun o dan y dorch anferth.

Disgo tawel Nadoligaidd ym Mhlas Newydd, Ynys Môn, Cymru
Erthygl
Erthygl

Tŷ a Gardd Plas Newydd, Ynys Môn 

Rhowch eich esgidiau dawnsio am eich traed wrth i Blas Newydd eich gwahodd i ddisgo tawel y Nadolig hwn. Bydd yr Ystafell Gerdd yn cael ei haddurno i greu awyrgylch parti, gyda goleuadau disgo a gemau parti gan ddilyn ôl troed trigolion y gorffennol lle cynhaliwyd llawer o bartïon. Lapiwch yn gynnes a mwynhewch daith gerdded aeafol drwy'r ardd cyn cynhesu gyda gwledd Nadoligaidd yn y caffi gyda phryd tri chwrs.

Ymwelwyr yn archwilio Gardd Bodnant, Cymru
Lle
Lle

Gardd Bodnant, Conwy 

Adfywiwch gyda thaith gerdded Nadoligaidd drwy'r ardd aeaf hygyrch gyda'i harddangosfa syfrdanol o ddail, blodau ac arogleuon neu dilynwch y llwybr hirach o amgylch Allt Ffwrnais. Ar ôl y naill neu’r llall, byddwch ar lwgu am ddanteithion Nadoligaidd blasus o'r ystafelloedd te lle gallwch fwynhau ginio Nadolig dau gwrs.

near Colwyn Bay, Conwy

Yn hollol agored heddiw

Diwrnodau Nadoligaidd hudolus yng Nghanolbarth Cymru

Christmas tree in Powis Castle Courtyard
Erthygl
Erthygl

Castell a Gardd Powis, y Trallwng 

Y Nadolig hwn, bydd pob Ystafell Fawreddog yn adlewyrchu’r trysorau sydd ynddi. Bydd ymwelwyr yn cael eu cludo i wahanol rannau o'r byd wrth iddynt archwilio mannau wedi'u haddurno'n hyfryd, coed Nadolig hynod addurniedig, a lleoedd tân Nadoligaidd. Mwynhewch brofiad Nadolig Eidalaidd gyda thro Fenisaidd yn yr Ystafell Fwyta a thema Elisabethaidd yn yr Oriel Hir. Rhwng 14 a 23 o Ragfyr bydd y cwrt yn cael ei oleuo gan fod y castell ar agor yn hwyr i chi wneud y gorau o'r addurniadau Nadolig ac rhywfaint o siopa Nadolig munud olaf.

Christmas tree with lights and paper and golden decorations
Erthygl
Erthygl

Llanerchaeron, Ceredigion 

Bydd y fila Sioraidd yn Llanerchaeron yn agor ei ddrysau am dridiau ac yn cael ei haddurno â thema stori dylwyth teg yn ogystal ag addurniadau cynaliadwy hardd wrth iddo gynnal y Ffair Nadolig ar 1, 2 a 3 Rhagfyr. Mwynhewch fins pei a gwin cynnes wrth i chi grwydro o gwmpas yr ystâd a fydd yn llawn stondinau yn arddangos cynnyrch, bwyd a cherddoriaeth leol. Bydd y garddwr Meg hefyd yn cynnal rhai sesiynau gwneud torchau ar ddiwrnodau dethol i greu torch hyfryd o ddeunyddiau naturiol a gasglwyd yn Llanerchaeron. Mae llwybr y coetir hefyd ar agor drwy gydol cyfnod y Nadolig, sy’n berffaith ar gyfer taith gerdded Nadolig.

Diwrnodau Nadoligaidd hudolus yn Ne Cymru

Perfformiad Nadoligaidd y Fari Lwyd yn Nhŷ Newton, Dinefwr, Cymru
Erthygl
Erthygl

Dinefwr, Sir Gaerfyrddin 

Bydd Dinefwr yn cychwyn cyfnod y Nadolig gyda'u Ffair Nadolig flynyddol o flaen Tŷ Newton ar y 24, 25 a 26 Tachwedd lle bydd stondinau Nadoligaidd, yn gwerthu amrywiaeth o nwyddau hardd o emwaith wedi'u gwneud â llaw i gyffeithiau blasus. Mae Tŷ Newton hefyd Alys agor bob penwythnos drwy gydol y Nadolig gyda'r goeden ysblennydd yn y Neuadd Allanol, a’r grisiau a’r lleoedd tân wedi’u haddurno, a bydd y goleuadau disglair yn gwneud i chi deimlo'n gartrefol iawn. Ewch i ysbryd yr ŵyl gyda noson o garolau cymunedol ar 15 Rhagfyr neu ymhyfrydu yn nhraddodiad gwerin Cymreig y Fari Lwyd ar 2 a 29 Rhagfyr. Mae digonedd o deithiau cerdded i'w mwynhau ar yr ystâd hefyd, codwch ddiod boeth o'r caffi a mwynhewch daith gerdded gaeafol gyda theulu a ffrindiau.

Gweithgareddau Nadoligaidd yng Ngardd Dyffryn, Caerdydd, Cymru
Erthygl
Erthygl

Gerddi Dyffryn, Caerdydd 

Oes gennych chi'r hyn sydd ei angen i fod yn Ellyll Dyffryn? Ymunwch â ni eleni i helpu i gael Dyffryn yn barod ar gyfer y Nadolig. Dechreuwch eich ymweliad drwy ychwanegu at ein taith gerdded rhuban, yna neidiwch i mewn i sled Siôn Corn am lun Nadoligaidd. Yn yr ardal chwarae’r Cloestr a’r Stac Logiau fe welwch olygfeydd a gemau Nadolig rhyngweithiol ar gyfer y teulu cyfan. Addurnwch y dynion eira ac ychwanegu bôs at yr anrhegion, chwaraewch ein hŵpla ‘nutcracker’ poblogaidd ac ewch amdani i weld pwy fydd yn gallu taflu'r nifer mwyaf o anrhegion i sach Siôn Corn.

Bwrdd bwyta Gwledd Nadolig yn Nhŷ’r Masnachwr Tuduraidd, Dinbych-y-pysgod
Erthygl
Erthygl

Tŷ’r Masnachwr Tuduraidd, Dinbych-y-pysgod 

Dewch i ddarganfod sut mae'r Tuduriaid wedi dylanwadu ar ein dathliadau Nadolig heddiw yn Nhŷ’r Masnachwr Tuduraidd. Camwch yn ôl mewn amser ac archwilio'r tŷ a'i draddodiadau, edmygu croglenni wal y Tuduriaid o’r oes a fu wrth i arogl cain orennau a clôfs lenwi'r awyr. Gall y rhai bach gwrdd ag Arglwydd Anhrefn a oedd yn draddodiadol yn gyfrifol am Wledd y Ffyliaid sef y dathliad a gynhaliwyd yn wreiddiol yr adeg hon o'r flwyddyn yn oes y Tuduriaid a derbyn tegan Tuduraidd am ddim i fynd adref tra bo stoc ar gael.

Ymwelwch â Marchnad Nadolig

Dyn, dynes a phlentyn yn pori trwy stondin mewn marchnad Nadolig
Erthygl
Erthygl

Dinefwr, Sir Gaerfyrddin 

Bydd Dinefwr yn cychwyn cyfnod y Nadolig gyda'u Ffair Nadolig flynyddol ar y 24, 25 a 26 Tachwedd lle bydd stondinau Nadoligaidd, yn gwerthu amrywiaeth o nwyddau hardd o emwaith wedi'u gwneud â llaw i gyffeithiau blasus yn cael eu gosod o flaen Tŷ Newton. Uchafbwynt na ddylid ei golli.

Dynes yn cario bachgen bach wrth gymryd golwg ar stondin marchnad
Erthygl
Erthygl

Llanerchaeron, Ceredigion 

Bydd y Ffair Nadolig yn Llanerchaeron yn ôl ar 1, 2 a 3 Rhagfyr. Mwynhewch fins pei a gwin cynnes wrth i chi grwydro o gwmpas yr ystâd a fydd yn llawn stondinau yn arddangos cynnyrch, bwyd a cherddoriaeth leol. Bydd y fila Sioraidd yn agor ei drysau am dri diwrnod ac yn cael ei haddurno ag addurniadau Nadolig cynaliadwy ar draws y llawr gwaelod.

Cwrdd â Siôn Corn

A young, smiling girl meeting Father Christmas at Erddig, Wales
Erthygl
Erthygl

Erddig, Wrecsam 

Ewch ati i greu atgofion arbennig wrth fwynhau brecwast gyda Siôn Corn yn Erddig yn ystod y penwythnosau, rhwng 2 a 23 Rhagfyr (rhaid archebu). O fewn y profiad bythgofiadwy hwn fydd yn siŵr o wneud i chi deimlo hwyl yr ŵyl, cewch wneud gweithgaredd crefftau, gwrando ar ganeuon a stori ddiddorol, a byddwch hefyd yn cael anrheg.

Cwpl yn edmygu‘r salŵn sydd wedi’i addurno ar gyfer y Nadolig yng Nghastell y Waun
Erthygl
Erthygl

Castell y Waun, Wrecsam 

Ewch i ysbryd y Nadolig a gwnewch atgofion hudolus wrth i chi ymuno â Siôn Corn am swper Nadoligaidd yng Nghastell y Waun ar 15 Rhagfyr. Mwynhewch ginio Nadolig blasus ac yna mins pei a hufen iâ. Clywch stori arbennig a derbyniwch anrheg fach

A young boy meeting Father Christmas in his grotto at Ickworth, Suffolk
Erthygl
Erthygl

Dinefwr, Sir Gaerfyrddin 

Mae cael cwrdd â Siôn Corn yn un o'r profiadau hynny sy'n gwneud y cyfnod Nadoligaidd mor gofiadwy i deuluoedd. Dewch i gadw cwmni iddo yn ei groto yn Ninefwr, bob sydd Sadwrn a dydd Sul rhwng 25 Tachwedd i 17 Rhagfyr. Er ei fod yn hynod brysur bydd yn treulio amser gyda chi yn trafod eich dymuniadau Nadoligaidd.

Father Christmas in his red suit, is giving a gift to a child. There is a Christmas tree in the background and other children waiting.
Erthygl
Erthygl

Llanerchaeron, Ceredigion 

Bydd Sion Corn yn gwneud ymweliad arbennig iawn i Ffair Nadolig Llanerchaeron eleni. Dewch i weld y tŷ wedi’i wisgo ar gyfer yr achlysur ac ymweld â Siôn Corn yn ei groto ar ddydd Sadwrn a dydd Sul, 2 a 3 Rhagfyr, a derbyn anrheg.

Groto o chwith

Siôn Corn yn ei groto yn Erddig, wedi ei amgylchynu gan roddion ymwelwyr i’r banc bwyd lleol.
Erthygl
Erthygl

Erddig, Wrecsam 

Mwynhewch yr anrheg o roi trwy gyfrannu at fanc bwyd Wrecsam yn groto o chwith Erddig; Bydd Siôn Corn yn aros i ddiolch i chi bob penwythnos o 2 i 17 Rhagfyr. Rydym yn croesawu rhoddion o fwyd yn ystod yr wythnos hefyd, ond ni fydd Siôn Corn yno i ddweud diolch.

Father and Mother Christmas waving across the moat at Bodiam Castle, East Sussex
Erthygl
Erthygl

Castell y Waun, Wrecsam 

Dyma'r tymor perffaith i roi. Felly, rhowch rywbeth yn ôl i'r gymuned y Nadolig hwn drwy brynu bwyd ar gyfer Banc Bwyd Croesoswallt a'r Cyffiniau. Rydym yn croesawu rhoddion o fwyd yn ystod yr wythnos, ac ar y penwythnosau, o 2 i 17 Rhagfyr bydd Siôn Corn yno i ddiolch i chi am eich rhodd.

Golygfa o Gastell Powis, uwchben ei derasau, Powys, Cymru, yn yr hydref.

Dewch i ddarganfod Cymru

Gwlad Geltaidd gyda gorffennol diwydiannol, yn llawn mythau, chwedlau, barddoniaeth a chân. Croeso i Gymru.