Skip to content

Nadolig yng Ngerddi Dyffryn

Christmas events at Dyffryn Gardens, Vale of Glamorgan
Nadolig yng Ngerddi Dyffryn | © Aled Llywelyn

Mwynhewch ddigwyddiadau’r Nadolig ac ymuno yn yr hwyl wrth i ni addurno Dyffryn yn barod at yr ŵyl. Darganfyddwch olygfeydd hudolus yn y gerddi, adeiladwch ddyn eira (ym mhob tywydd), ychwanegwch at ein garlantau rhubanau, mwynhewch gemau i’r teulu a helpwch ni i lenwi’r ardd â hwyl yr ŵyl. A chofiwch alw yn ein siop lyfrau ail-law lle bydd llawer o ddigwyddiadau hwyl yn cael eu cynnal drwy gydol mis Rhagfyr a gwyliau’r Nadolig.

Y Nadolig yng Ngerddi Dyffryn 2023

1-31 Rhagfyr

Addurno’r Ardd

Allwch chi fod yn un o Gorachod y Gerddi? Eleni mae angen help arnom i baratoi Dyffryn at y Nadolig. Dechreuwch eich ymweliad drwy ychwanegu at ein llwybr rhubanau, yna neidiwch i mewn i sled Siôn Corn am lun.

Yn ardal y Cloestrau ac ardal chwarae’r Pentwr Pren fe welwch olygfeydd Nadoligaidd rhyngweithiol a gemau i’r teulu cyfan. Addurnwch deulu o ddynion eira a pherfformio pantomeim yn y theatr bypedau, neu beth am gystadleuaeth hŵpla’r dyn eira, ras “llwy eira”, gêm o Kerplunk enfawr neu sgitls y Torrwr Cnau? Pwy fydd pencampwr y Nadolig?

I gynhesu, ewch i’r siop lyfrau ail-law yn yr Oriel i ddylunio ac addurno eich torchau ffelt eich hun, a dod o hyd i lyfr bach i lenwi’r hosan Nadolig falle.

Digwyddiadau’r Nadolig

Dydd Sadwrn 9 a Dydd Sul 17 Rhagfyr byddwn yn cynnal gweithdai addurniadau Nadolig i blant. Bydd dwy sesiwn, un am 10.30am-12pm ac un arall am 2.00pm-3.30pm yn yr Oriel. Does dim angen cadw lle ymlaen llaw ac ni fydd angen talu (heblaw’r pris mynediad arferol).

Bydd un o ffefrynnau Dyffryn, Louby Lou, yn ôl ac yn perfformio straeon pop-yp yn yr Oriel ddydd Iau 4 Ionawr. Rhaid cadw lle ymlaen llaw - cadwch lygad am docynnau, a fydd ar gael yn fuan iawn.

Ddydd Mawrth 5 Rhagfyr bydd Rhian o Wild and Fabulous Flowers yn cynnal ei gweithdai creu torchau poblogaidd. Mae’r tocynnau’n £50 am weithdy dwy awr, sy’n cynnwys lluniaeth ysgafn Nadoligaidd. Rhaid archebu ymlaen llaw, darllenwch fwy am y digwyddiad a mynnwch eich tocynnau ar y dudalen digwyddiadau ar ein gwefan.

Mae ambell drît Nadoligaidd arall ’da ni i’w cyhoeddi hefyd, felly cadwch olwg ar ein newyddion diweddaraf i sicrhau na fyddwch chi’n colli unrhyw un o ddigwyddiadau’r Nadolig.

Bydd Nadolig 2023 yng Ngerddi Dyffryn yn achlysur clyd, hwyl, teuluol. O’r hen i’r ifanc, bydd hen ddigon i ddiddanu’r teulu i gyd. A chofiwch rannu eich holl luniau gyda ni ar y cyfryngau cymdeithasol – ry’n ni’n dwlu gweld teuluoedd yn mwynhau ein digwyddiadau yng Ngerddi Dyffryn.

Christmas at Dyffryn Gardens

There's so much family fun to be had at Dyffryn Gardens this Christmas

Christmas events at Dyffryn Gardens
Make memories with your family at Dyffryn Gardens this Christmas | © Aled Llywelyn

Family fun at Dyffryn Gardens

Make memories with your family at Dyffryn Gardens this Christmas.

1 of 6
Herbaceous Border in summer, Dyffryn Gardens, Vale of Glamorgan

Darganfyddwch fwy yng Ngerddi Dyffryn

Dysgwch pryd mae Gerddi Dyffryn ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Caffi’r Ardd, Gerddi Dyffryn, Bro Morgannwg
Erthygl
Erthygl

Bwyta a siopa yng Ngerddi Dyffryn 

Mwynhewch brydau i dwymo’r galon neu snac ysgafn yn y caffi, gyda danteithion blasus yn goron ar eich ymweliad. A chofiwch alw i mewn i’r siop i brynu rhywbeth i gofio’ch ymweliad.

Spring magnolia on the Great Lawn at Dyffryn Gardens with Dyffryn House in the background.
Erthygl
Erthygl

Y gerddi yn Nyffryn 

Darganfyddwch erddi 55 erw Dyffryn, gan gynnwys yr ardd goed, planhigion trofannol y tŷ gwydr, Gerddi’r Gegin a’r ardal chwarae wyllt.

Ci yn bwyta hufen iâ cŵn y tu allan i’r Ganolfan Groeso, Gerddi Dyffryn, Bro Morgannwg
Erthygl
Erthygl

Ymweld â Gerddi Dyffryn gyda’ch ci 

Mae gan Erddi Dyffryn sgôr o ddwy bawen. Dysgwch fwy am ymweld gyda’ch ci a sut rydym yn gwneud Dyffryn yn well fyth i gŵn.