Skip to content

Hanes Dinefwr

Golygfa o uchder o’r parc yn Ninefwr, Sir Gâr
Golygfa dros y parc yn Ninefwr, Sir Gâr | © National Trust Images/James Dobson

Darganfyddwch hanes Dinefwr a Thŷ Newton, cartref i’r teulu Rhys (neu Rice) am dros dair canrif. Dysgwch sut y dylanwadodd Capability Brown ar dirwedd Dinefwr a sut daeth y tŷ yn lleoliad jazz cyn mynd yn adfail yn y 1970au. 

Adfer statws y teulu Rhys yn Ninefwr 

Roedd y teulu’n ddisgynyddion i’r Arglwydd Rhys, Tywysog pwerus Deheubarth, a fu’n llywodraethu dros Gastell Dinefwr sydd bellach yn adfail.

Ym 1547 erfyniodd Gruffudd, mab iau Rhys ap Gruffudd, ar Edward VI i adfer statws ei deulu. Cymeradwywyd ei gais, felly dechreuodd Gruffudd ap Rhys – neu Griffith Rice fel y cafodd ei alw o’r adeg hon – brynu tir coll ei deulu.

Dros y ddegawd nesaf, adhawliodd Griffith yr eiddo, ond ym 1557 cafodd ei gipio unwaith eto gan y Goron pan gafodd ei gyhuddo o lofruddiaeth. Rywsut neu’i gilydd, cafodd ei esgusodi, a daliodd ati i adeiladu’r ystâd. Parhaodd ei fab Walter a’i ŵyr Henry â’r gwaith hwn i mewn i’r 17eg ganrif.

Sefydlogrwydd o’r diwedd

Erbyn 1659 roedd Edward, mab Henry, yn berchen ar ystâd Dinefwr. Creodd barc ceirw, symudodd ffyrdd ‘er mwyn ehangu’r tŷ’, ac adeiladodd waliau terfyn. Gyda Dinefwr yn ôl yn nwylo’r teulu, dechreuodd y teulu Rice ar gam pwysig newydd o dirlunio – a pharhaodd ei frawd Walter â hyn ar ôl marwolaeth Edward (tua 1663).

Dylunio tirwedd Dinefwr

Yn ystod y 18fed ganrif, cafodd gerddi a pharciau llawer o blastai mawr eu hailddylunio i adlewyrchu dealltwriaeth ac edmygedd newydd o’r dirwedd naturiol – ac nid oedd Parc Dinefwr yn eithriad.

George a Cecil Rice

Perchnogion Ystâd Dinefwr ar y pryd oedd George Rice a’i wraig Cecil, unig blentyn William Talbot o Hensol ym Morgannwg, a oedd yn ŵr cyfoethog dros ben. A hwythau’n dda eu byd ac yn gyfoeth o gysylltiadau, roedden nhw’n treulio llawer o’u hamser yn Llundain. Cawsant eu dylanwadu gan syniadau newydd o athroniaeth a diwylliant, yn arbennig y syniad y gallai natur fod yn gelf.

Golygfa o Dŷ Newton o’r parc yn Ninefwr, Sir Gâr, Cymru
Golygfa o Dŷ Newton o’r parc yn Ninefwr, Sir Gâr, Cymru | © National Trust Images/James Dobson

Golygfeydd o'r dirwedd ehangach

Cafodd nodweddion ffurfiol fel rhodfeydd coed a gwelyau blodau syth eu disodli gan lawntiau eang, llynnoedd troellog a chlystyrau o goed. Crëwyd fistâu manwl, gofalus. Roedd rhai’n cyfeirio’r golwg at y dirwedd ehangach y tu hwnt i furiau’r parc, ac eraill yn canolbwyntio ar adeiladau addurniadol.

Nid oedd ffin rhwng y parc a’r tŷ mwyach. Roedd yr anifeiliaid yn cael eu cadw draw o’r ffenestri gan ffosglawdd a wal.

Dylanwad Capability Brown yn Ninefwr

Lancelot ‘Capability’ Brown oedd un o ddylunwyr tirwedd enwocaf y 18fed ganrif. Rhwng 1751 a 1783 dyluniodd 170 o erddi ac ystadau ym mhob cwr o Brydain, a chafodd ei ddulliau eu hefelychu mewn llawer mwy.

Ymwelodd Brown â Dinefwr ym 1775 a, gyda’r safle wedi creu cryn argraff arno, ysgrifennodd, ‘I wish my journey may prove of use to the place. Nature has been truly bountiful and art has done no harm’. Gofynnodd George Rice wrth Brown i awgrymu gwelliannau i’r dirwedd.

Cyfuno caeau’n ddolydd

Ymysg awgrymiadau Brown roedd adeiladu a symud rhai waliau, ffensys a llwybrau, cyfuno caeau’n ddolydd mawr, symud gardd y gegin i Fferm y Plas yn Little Newton, creu planhigfa newydd a symud mynedfa Llandeilo. Cafodd rhai o gynigion Brown eu cyflawni, ond cafodd eraill, fel creu gardd yn y parc ceirw, eu hanwybyddu.

Female fallow deer at Petworth House and Park, West Sussex
Ewig lwyd | © National Trust Images/Adrian Holloway

Hanes Tŷ Newton yn Ninefwr

Mae tŷ wedi bod ar y safle hwn ers cyn yr oesoedd canol, ond mae Tŷ Newton, a adeiladwyd ym 1660 gan Edward Rice, yn dwyn enw’r ‘Dref Newydd’ a adeiladwyd ar gyfer cyfaneddwyr o Loegr yn yr oesoedd canol. Er nad oedd y dref yn bodoli mwyach, dyma’r hanes a ysbrydolodd enw’r tŷ.

Nodweddion gwreiddiol o’r 17eg ganrif

Dros y blynyddoedd mae’r tŷ wedi’i ail ddylunio sawl gwaith. Digwyddodd y gwaith mwyaf nodedig yn y 1850au pan ychwanegwyd ffasâd Gothig, a oedd yn ffasiynol iawn ar y pryd, sydd i’w weld yma hyd heddiw. Mae modd gweld nifer o’r nodweddion gwreiddiol o’r 17eg ganrif yn y tŷ o hyd, gan gynnwys y grisiau crand a’r nenfydau addurnedig.

Heriau ariannol

Roedd heriau ariannol enfawr yn wynebu teulu’r Rhys yng nghanol yr ugeinfed ganrif, gyda dwy doll farwolaeth yn cwympo ar yr ystâd ar yr un pryd. I geisio codi arian i gynnal y tŷ, sefydlodd Richard, 9fed Barwn Dinefwr, raglen greadigol o gelfyddydau yn y tŷ, gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru.

Arddangosfeydd a pherfformiadau jazz

Am gyfnod hudolus byr yn y 1960au roedd y tŷ yn gartref i arddangosfeydd mawreddog a pherfformiadau gan enwogion fel y gantores jazz, Cleo Laine. Daeth yr ysbrydoliaeth, yr egni a’r weledigaeth i ddod â rhaglen ddiwylliannol mor gyfoethog i orllewin Cymru i ben o fewn degawd, ac erbyn canol y 1970au gwerthwyd y tŷ a’r ystâd, ac aeth y safle rhwng y cŵn a’r brain.

Daeth y parc i ddwylo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ym 1987, gyda Thŷ Newton yn dilyn ym 1990.

Blaen y fynedfa a’r rhodfa yn Nhŷ Newton yn Ninefwr, Sir Gâr, Cymru

Casgliadau Dinefwr

Darganfyddwch y gwrthrychau a’r gwaith celf rydym yn gofalu amdanynt yn Ninefwr ar wefan Casgliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

View house Dinefwr Carmarthenshire
Erthygl
Erthygl

Ymweld â Thŷ Newton yn Ninefwr 

Yn swatio ym mharc Dinefwr ger Llandeilo, mae Tŷ Newton yn blasty Cymreig anffurfiol sy’n cynnig cyfuniad o’r hanesyddol a’r cyfoes.

clychau'r gog, Dolaucothi, Sir gaerfyrddin
Erthygl
Erthygl

Crwydrwch y parc yn Ninefwr 

Dewch am dro drwy Barc Dinefwr ger Llandeilo, ystâd 800-erw drawiadol lle gwelwch amrywiaeth o fywyd gwyllt a rhai o’r coed hynaf yng ngwledydd Prydain.