Skip to content

Ymweld â Thŷ Newton yn Ninefwr

View house Dinefwr Carmarthenshire
Dinefwr | © National Trust Images / James Dobson

Yn sefyll yn gadarn yng nghanol ystâd Dinefwr mae adeilad rhestredig Gradd II* Tŷ Newton, cartref i ddisgynyddion yr Arglwydd Rhys, Tywysog pwerus Deheubarth, am dros 300 mlynedd. O dan ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ers 1990, mae Tŷ Newton bellach yn lle i fwynhau, ymlacio ac adfywio.

Pethau i’w gweld dan do yn Nhŷ Newton

Mae stori ystâd Dinefwr yn adlewyrchu hanes Sir Gâr a Chymru fel cenedl. Wedi’i adeiladu ym 1660 gan Edward Rice, mae’r tŷ’n dwyn enw’r ‘Dref Newydd’ a adeiladwyd ar gyfer cyfaneddwyr o Loegr yn yr oesoedd canol. Adeiladwyd y plasty Jacobeaidd (y datblygodd y tŷ presennol ohono) ar safle sydd wedi’i feddiannu ers dwy fil o flynyddoedd.

Ffasâd Gothig

Mae’r ochr allanol, fel y gwelwch heddiw, yn dyddio o’r 1850au pan ychwanegwyd ffasâd Gothig ffasiynol. Mae modd gweld nifer o’r nodweddion gwreiddiol o’r 17eg ganrif yn y tŷ o hyd, gan gynnwys y grisiau crand a’r nenfydau addurnedig.

Golwg oddi fry

Pan oedd teithio yn llawer anos nag ydyw heddiw, arferai gwŷr bonheddig cyfoethog gomisiynu paentiadau o’u heiddo gwledig i’w hongian yn eu cartrefi yn Llundain. Erbyn hyn, mae pedwar paentiad sy’n cynnig ‘golwg oddi fry’ ac sy’n dyddio i oddeutu 1710 yn hongian y tu mewn i Dŷ Newton.

Celfyddyd yn Ninefwr

Er mwyn ceisio codi arian i gynnal a chadw’r tŷ, sefydlodd Richard 9fed Barwn Dinefwr raglen gelfyddydol yn y tŷ oddeutu canol yr ugeinfed ganrif, a chefnogwyd y rhaglen honno gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Heddiw yn Ninefwr, rydym yn dwyn ysbrydoliaeth o ddull y 9fed Barwn, gan gynnig rhaglen gelfyddydol a digwyddiadau diwylliannol sy’n dathlu gwaddol y weledigaeth honno.

Mae’r arddangosfeydd a welir yn Nhŷ Newton yn adlewyrchu gwahanol agweddau ar fywyd yn Ninefwr dros y canrifoedd. Maent yn cynnig cipolwg ar hanes yr ystâd a’i phobl trwy gynnwys gwrthrychau o blith y casgliadau. Hefyd, maent yn cynnig llwyfan ar gyfer ymarferwyr creadigol cyfoes i ymateb i hanes maith y safle a’r dirwedd.

Gwaddol celfyddydau creadigol Dinefwr

Pan etifeddodd Richard Rhys - sef 9fed Barwn Dinefwr yn ddiweddarach - Ystad Dinefwr ym 1962, ac yntau’n 27 oed ar y pryd, roedd eisoes wedi ymgolli yn y byd theatr a oedd wrthi’n blodeuo yng Nghymru. Gan feddwl yn greadigol sut y gallai arallgyfeirio’r ystâd a’i galluogi i ffynnu, cafodd weledigaeth ar gyfer Dinefwr - sef sicrhau y byddai’n gyrchfan newydd a phwysig i’r celfyddydau yng Nghymru. O ganlyniad i uchelgais Richard Rhys, perfformiodd llu o gerddorion, actorion a llenorion o’r radd flaenaf yn Ninefwr yn ystod y 1960au. I ddathlu a rhannu’r cyfnod digyffelyb hwn yn hanes Dinefwr, rydym wrthi’n datblygu arddangosfa newydd, a gaiff ei dadorchuddio yn ystod Haf 2024.

llun tirlun eang o ystafell wen gyda gwybodaeth ar y waliau a chabinet brown gyda madarch ceramig yn y canol.
Yr Ystafell Ddarganfod yn Ninefwr | © National Trust Images / James Dobson

Yr Ystafell Ddarganfod: bioamrywiaeth yn Ninefwr

Dewch i gael golwg ar yr Ystafell Ddarganfod, sy’n canolbwyntio ar hanes a bioamrywiaeth naturiol anhygoel Ystad Dinefwr.

Caiff hanes cyfoethog Dinefwr ei gynrychioli ar ffurf llinell amser, sy’n ymdroelli ar draws y waliau gan ddatgelu hanes y dirwedd hynafol hon. Cafodd yr arddangosfa newydd, sy’n cynnwys darlun o’r Fonesig Cecil a’r effaith a gafodd ar gynllun y parcdir yn y ddeunawfed ganrif, ei chreu gan yr artist Julia Griffiths Jones a’r dylunydd Heidi Baker.

Fe welwch hefyd fodelau ceramig o ffyngau (sydd ar fenthyg gan Gymdeithas Ficrolegol Prydain), diolch i Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.

Dysgwch ragor am y ffyngau sy’n adlewyrchu rhan o ecosystem ehangach y Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig hwn, ac sy’n dangos pwysigrwydd parcdir Dinefwr i natur ac ecoleg.

Yr Ystafell Dirwedd

Ymunwch â ni i ddarganfod yr Ystafell Dirwedd yn Nhŷ Tredegar, fel rhan o’r rhaglen ‘Tir Gwerthfawr’ o arddangosfeydd a digwyddiadau yn Ninefwr. Darganfyddwch bedwar llun olew pwysig a phrin, sy’n dyst i gyfoeth, statws a dyheadau’r ystâd a’r teulu a oedd yn berchen arni.

Wedi’u cwblhau gan artist anhysbys, does dim llawer o ddogfennaeth wedi dod i’r amlwg mewn cysylltiad â’r lluniau, ac rydym yn parhau i ymchwilio, ond credwn eu bod fwy na thebyg wedi’u comisiynu i ddathlu stiwardiaeth Griffith Rice, a oedd yn AS dros Sir Gâr rhwng 1701-10.

Cymerwch sedd i wylio ffilm fer, sy’n dangos sut mae arbenigwyr wedi astudio’r lluniau i ddatgelu eu gorffennol. Dysgwch sut y gwnaeth y manylyn lleiaf yn y dadansoddiad o’r paent ddatgelu gwir oedran y gweithiau celf.

Ymwelwyr yn edrych ar baentiadau wrth grwydro’r Ystafell Dirwedd newydd yn Ninefwr, Cymru
Darganfyddwch yr Ystafell Dirwedd newydd yn Ninefwr, Cymru | © National Trust/Dewi Lloyd

Arddangosfa Archeoleg y Cartref yn Ninefwr

O hoelen a weithiwyd â llaw neu damaid o bapur papuro a brintiwyd â llaw, i waith plastr addurnol ar y nenfydau addurnedig gwreiddiol, mae’r gwrthrychau yn yr arddangosfa hon yn datgelu llawer am ‘Archaeoleg y Cartref’.
Mae’r arddangosfa’n cynnwys darnau a deunyddiau o blith casgliadau Dinefwr, gan gynnig cipolwg hynod ddiddorol ar y deunyddiau adeiladu hanesyddol a’r technegau addurno a ddefnyddiwyd yn Nhŷ Newton ers ei adeiladu yng nghanol yr ail ganrif ar bymtheg.
Fel rhan o’r arddangosfa hon, gellir gwylio ffilm fer ddiddorol sy’n sôn am dechnegau plastro treftadaeth, lle ceir cipolwg ar y crefftwaith, y technegau a’r sgiliau a ymgorfforir yng nghornisiau a nenfydau Tŷ Newton.

Papur papuro newydd

Gan ymateb i’r casgliad o bapur papuro hanesyddol a gynhwysir yn yr arddangosfa Archaeoleg y Cartref yn Nhŷ Newton, mae’r dylunydd a’r gwneuthurwr printiau Isabel Kate Porch wedi dewis delweddau a themâu sy’n deillio o Ddinefwr i greu rholyn o bapur papuro a gomisiynwyd yn arbennig ar gyfer y casgliad - sef papur papuro a brintiwyd â llaw trwy ddefnyddio blociau. Caiff Isabel ei hysbrydoli gan ei threftadaeth Gymreig a chaiff ei denu at hanesion gwrthrychau a’r storïau a’r emosiynau y gallant eu hysgogi.

Y papur papuro cyfoes hwn yw’r drydedd enghraifft o grefft a dylunio cyfoes a arddangosir fel rhan o’r arddangosfa Archaeoleg y Cartref.


Mae ffilm fer gan Siôn Marshall-Waters yn dangos y dylunydd yn gweithio yn ei stiwdio ac yn trafod y broses a’r ysbrydoliaeth sydd wrth wraidd y papur papuro. Bydd yn agor ar Mawrth 2024.

Phapur papuro pwrpasol a brintiwyd â llaw gan Isabel Porch.
Phapur papuro pwrpasol a brintiwyd â llaw gan Isabel Porch. | © Jules Weston
Y fynedfa flaen a’r dreif yn Nhŷ Newton, Dinefwr

Darganfyddwch fwy yn Ninefwr

Dysgwch pryd mae Dinefwr ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Golygfa o uchder o’r parc yn Ninefwr, Sir Gâr
Erthygl
Erthygl

Hanes Dinefwr 

Wedi’u hadennill gan ddisgynyddion un o Dywysogion pwerus Cymru, bu Parc Dinefwr a Thŷ Newton yn gartref i’r teulu Rhys/Rice am dros dair canrif.

clychau'r gog, Dolaucothi, Sir gaerfyrddin
Erthygl
Erthygl

Crwydrwch y parc yn Ninefwr 

Dewch am dro drwy Barc Dinefwr ger Llandeilo, ystâd 800-erw drawiadol lle gwelwch amrywiaeth o fywyd gwyllt a rhai o’r coed hynaf yng ngwledydd Prydain.