Skip to content
Newyddion

Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn chwilio am denant ar gyfer cyfle busnes newydd yn y Dolaucothi Arms hanesyddol

Yr ardd yn Nolaucothi Arms, Cymru
Dolaucothi Arms, Cymru | © National Trust/Jason Elberts

Mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn chwilio am denant newydd ar gyfer y Dolaucothi Arms ym mhentref Pumsaint, Sir Gaerfyrddin. Mae'r elusen gadwraeth yn chwilio am denantiaid sy'n angerddol am dreftadaeth, pobl a'r dirwedd leol i ddatblygu busnes newydd yng nghanol cymuned wledig Gymreig.

Mae’r Ymddiriedolaeth yn hyrwyddo'r cynnig fel cyfle agored, a allai gynnwys parhau i'w defnyddio fel tafarn. Maent yn gwahodd datganiadau o ddiddordeb gan unrhyw un sydd â gweledigaeth a fydd yn rhoi dyfodol disglair a chynaliadwy i'r adeilad.

Mae'r dafarn restredig Gradd II draddodiadol wrth galon y pentref ac mae mewn lleoliad delfrydol ar gyfer masnach fympwyol wrth ymyl yr A482 prysur, 8 milltir o dref brysur Prifysgol Llanbedr Pont Steffan ac 13 milltir o dref farchnad Llandeilo.

Yr ardd yn Nolaucothi Arms, Cymru
Yr ardd yn Nolaucothi Arms, Cymru | © National Trust/Jason Elberts

Mae'r Dolaucothi Arms yn swatio yn Ystâd hardd Dolaucothi sy’n ymestyn dros 2,500 erw a llai na hanner milltir i ffwrdd, mae Mwyngloddiau Aur Rhufeinig hynafol Dolaucothi, ill dau yng ngofal yr Ymddiriedolaeth. Mae gan yr Ystâd nifer o lwybrau coetir, parcdir, parc carafannau a chartrefi modur ac mae'n denu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn i'r unig fwynglawdd aur Rhufeinig y gwyddys amdano yn y DU.

Dywedodd Meg Anthony, Rheolwr Cyffredinol Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru ar gyfer Sir Gaerfyrddin a Cheredigion: "Mae hwn yn gyfle busnes cyffrous mewn lleoliad rhagorol yng nghefn gwlad Cymru. Mae'r gofod croesawgar yn addas ar gyfer sawl defnydd gwahanol, o dafarn gastro neu gaffi i siop fwyd arbenigol, busnes manwerthu, defnydd dysgu neu weithdai.

Rydym yn agored i syniadau ffres i wneud y gorau o botensial y lle hwn a hoffem glywed gan y rhai sy'n angerddol am gysylltu pobl â hanes, treftadaeth a diwylliant lleol, nawr ac i'r dyfodol.

Credwn fod angen lleoedd hanesyddol, hardd a naturiol ar bobl ac rydym yn chwilio am denantiaid sy'n rhannu ein gweledigaeth a'n gwerthoedd ar gyfer y lle unigryw hwn."

Ystafell gyda lle tân yn nhafarn Dolaucothi Arms, Cymru
Dolaucothi Arms, Cymru | © National Trust/Jason Elberts

Gyda thair ystafell gyhoeddus fawr, hardd, 4 ystafell wely en-suite dwbl i'w gosod (ynghyd â llety ar gyfer tenantiaid) a maes parcio eang, mae’r Dolaucothi Arms yn cyflwyno ei hun fel cyfle busnes cyffrous.

Mae rhannau o'r adeilad gwyngalchog yn dyddio'n ôl i ganol y 18fed ganrif ac mae to llechi, cerrig llawr, lloriau teils siec a llosgwyr coed yn ychwanegu at ei swyn cyffredinol. Y tu allan, mae gardd fawr 1.26 erw yn edrych dros Ddyffryn Cothi a gellid ei defnyddio o bosibl i dyfu cynnyrch a hyrwyddo cynaliadwyedd.

Yr ardd yn Nolaucothi Arms, Cymru
Yr ardd yn Nolaucothi Arms, Cymru | © National Trust/Heather Birnie

Mae'r Ymddiriedolaeth yn annog busnesau bwyd a diod i ymgeisio ac maent yn agored i ystyried cynigion busnes cysylltiedig eraill hefyd, gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn agored i weithio gyda thenant yn y dyfodol i fynd i'r afael ag unrhyw waith sensitif y gallai fod angen ei wneud i gefnogi cynnig yr ymgeisydd.

Er mwyn annog syniadau busnes cynaliadwy, lleol, mae rhent cychwynnol yr eiddo yn cael ei osod ar £6,000 y flwyddyn (£500 fesul mis calendr) ynghyd â TAW am y ddwy flynedd gyntaf.

Os oes gan unrhyw un weledigaeth gref ar sut y gallant ddatblygu'r lle arbennig hwn yn 2024 a thu hwnt, hoffai’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru glywed gennych. Llenwch y ffurflen gais mynegi diddordeb sydd ar gael ar-lein, heb fod yn fwy na dwy ochr A4, gan amlinellu eich gweledigaeth a'ch syniadau ar gyfer ei chyflwyno iddynt yn wa.tenantenquiries@nationaltrust.org.uk erbyn 1 1 Rhagfyr 2023.

I weld manylion llawn y cyfle gosod ewch i Rightmove.

Tynnir rhestr fer o’r ceisiadau ym mis Ionawr 2024 a gwahoddir y rhai sy'n llwyddiannus i gyflwyno cynnig busnes manylach bryd hynny.

clychau'r gog, Dolaucothi, Sir gaerfyrddin
Erthygl
Erthygl

Ymweld â'r ystâd yn Nolaucothi 

Gyda dros 2,500 erw o ystâd, coetir, ffermydd a pharcdir i’w darganfod, mae cymaint mwy i Ddolaucothi yn Sir Gâr na’r mwyngloddiau Rhufeinig.

Golwg graff ar farciau caib ar y graig ym Mwyngloddiau Aur Dolaucothi, Sir Gâr
Erthygl
Erthygl

Hanes Dolaucothi 

Dechreuodd gwaith cloddio aur yn Nolaucothi o leiaf 2,000 o flynyddoedd yn ôl, a daeth i ben ychydig cyn yr Ail Ryfel Byd. Dysgwch fwy am unig gloddfa aur Rufeinig y DU.