Darganfyddwch fwy am Dŷ a Gardd Plas Newydd
Dysgwch sut i gyrraedd Tŷ a Gardd Plas Newydd, ble i barcio, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Mae digon o hwyl y Nadolig ym Mhlas Newydd y gaeaf hwn. Dilynwch yn ôl troed trigolion Plas Newydd y gorffennol, ac ymunwch â ni am ddisgo tawel yn yr Ystafell Gerdd, ynghyd â goleuadau disgo a gemau parti. Neu mwynhewch ginio Nadolig o flaen y tân cynnes yng Ngaffi'r Hen Laethdy.
Gwybodaeth am Nadolig 2023 yw’r isod. Gobeithio bod pawb wedi mwynhau'r arddangosfeydd Nadolig. Dewch yn ôl yma yn nes at Nadolig 2024 i weld diweddariadau ynghylch yr holl gynlluniau cyffrous sydd gennym ar y gweill.
Ymgollwch eich hunain yn hwyl yr ŵyl ym Mhlas Newydd gyda disgo tawel. Gan ddilyn yn ôl troed trigolion y gorffennol, cynhaliwyd partïon lu ym Mhlas Newydd ar hyd ei hanes.
Rydyn ni'n eich gwahodd chi i ddawnsio'r diwrnod i ffwrdd yn ein disgo tawel yn y Tŷ. Bydd yr Ystafell Gerdd yn cael ei haddurno â goleuadau disgo a gemau parti.
Ar benwythnosau yn unig yn ystod Rhagfyr 2024.
Gwisgwch yn gynnes ac ewch ar daith gerdded aeafol o amgylch yr ardd. Cydiwch mewn daflen wybodaeth sy'n dangos uchafbwyntiau’r gaeaf i ddyfnhau eich cysylltiad â’r ardd ym Mhlas Newydd. Bydd ein taflen wybodaeth ar gael o ganol mis Tachwedd tan ddiwedd mis Ionawr.
Cydiwch yn eich welingtons a dewch am dro gaeafol o amgylch yr ardd. Ar gyfer teuluoedd, bydd gennym y daflen ditectif natur yn canolbwyntio ar yr hyn i'w weld yn yr ardd yn y gaeaf. Bydd hyn yn rhedeg o ganol mis Tachwedd tan ddiwedd mis Ionawr.
Beth am ddathlu tymor y Nadolig efo theulu a ffrindiau gyda danteithion Nadoligaidd? O amrywiaeth o ddiodydd poeth a chacennau melys, ymunwch yn hwyl yr ŵyl y gaeaf hwn ym Mhlas Newydd.
Mae Siop yr Hen Laethdy yn cynnig amrywiaeth o roddion unigryw i’ch ysbrydoli wrth siopa Nadolig gan gynnwys cynhyrchion lleol. Fe welwch chi addurniadau Nadolig hefyd a mwy.
Dysgwch sut i gyrraedd Tŷ a Gardd Plas Newydd, ble i barcio, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
P’un a ydych yn chwilio am gestyll sy’n llawn addurniadau addurnedig, lleoedd i gwrdd â Siôn Corn, diwrnod allan mewn marchnad Nadolig neu fwynhau taith gerdded gaeafol ffres, mae gennym ddigonedd o lefydd yng Nghymru i wneud atgofion Nadoligaidd.
Mae caffi’r a chiosg yn cynnig digon o gyfle i aros am ddiod a byrbryd, cinio ysgafn a chacennau ffres a’r siop hefo ddigonedd o anrhegion a danteithion i drio.
Chwiliwch am gorneli cudd gardd yn llawn o bleserau ym mhob tymor. Gyda dros 40 erw o ardd a 129 erw o goetir a pharcdir i grwydro trwyddyn nhw.
Crwydrwch trwy gartref teuluol Ardalydd Môn, gweld murlun enwog Rex Whistler a chymerwch eiliad i ymlacio tu mewn i’r Tŷ.