Diwrnodau i’r teulu yn Nhŷ Tredegar
Mae digon i ddiddanu’r teulu i gyd yma yn Nhŷ Tredegar. Gyda phlasty trawiadol a 90 erw o erddi a pharcdir i’w darganfod, rydych chi’n siŵr o greu atgofion i’w trysori am flynyddoedd i ddod.
Trefnu eich ymweliad
Dyma wybodaeth allweddol ar gyfer trefnu ymweliad eich teulu...
- Mae cyfleusterau newid babanod ar gael drws nesaf i’r dderbynfa, ac yng Nghaffi’r Bragdy. Mae tai bach y parc ar agor yn ystod misoedd yr haf yn unig.
- Oherwydd y lloriau hanesyddol, ni allwch ddod â phramiau na bygis i mewn i’r tŷ. Mae lloches parcio pramiau ger drws ffrynt y tŷ.
- Ni chewch ddod â beics, sgwteri, ffrisbis na pheli i mewn i’r gerddi, ond mae digon o le i chwarae gyda’r pethau hyn yn y parc.
- Mae bocsys bwyd plant ar gael yng Nghaffi’r Bragdy, ac mae gan y siop lyfrau ail-law ddewis arbennig o lyfrau plant.
- Rhaid talu i fynd i’r tŷ a’r gerddi, ond gallwch fynd i’r parc am ddim.
Hanner Tymor Mis Mai
Yn ystod Hanner Tymor Mis Mai, byddwn yn parhau i ddathlu harddwch y Gwanwyn gyda Gŵyl y Blagur a’n Llwybr Blagur trwy’r plasty. Bydd modd ichi gael Pecyn Antur, Pecyn Synhwyraidd a Phecyn Creadigol yn rhad ac am ddim yn y dderbynfa, i gyfoethogi eich ymweliad. Dewch draw i adnabod ac enwi bywyd newydd yn y gerddi ac i fwynhau gogoniant y Gwanwyn hwyr.
Bagiau Cefn Antur Synhwyraidd
Pecyn creadigol
Codwch becyn: Helpwch eich hun i un o'n Pecynnau Creadigol, sy'n llawn popeth sydd ei angen arnoch i droi ysbrydoliaeth yn weithiau celf. Cewch adael eich gwaith i eraill ei weld, neu fynd ag ef adref gyda chi.
Bydd ein bagiau antur synhwyraidd yn addas i ystod o anghenion amrywiol i bob oed. Ewch am antur i'r gerddi, mae’r pecynnau’n cynnwys amrywiaeth o eitemau synhwyraidd, gan gynnwys teganau tawelu, amddiffynwyr clustiau, chwyddwydr, llyfr stori a theganau meddal.
Bagiau Cefn Antur
Gall teuluoedd a phlant gasglu bag cefn antur o’r Dderbynfa Ymwelwyr i wella eich ymweliad. Ewch drwy’r gerddi ffurfiol a’r Plasty wrth gysylltu â natur a’r rhai o’ch cwmpas drwy weithgareddau tymhorol hwyliog.
Gŵyl y Blodau
20 Ebrill - 2 Mehefin
Dewch i fwynhau gŵyl y blodau yn Nhŷ Tredegar, ac ymgolli yng ngrym adnewyddol y gwanwyn, natur a blodau yn y gerddi.
Pwrpas Gŵyl y Blodau yw dathlu ceinder natur. Y gwanwyn yw’r tymor perffaith ar gyfer hyn gan fod y gerddi yn gyforiog o fywyd newydd, peillwyr prysur, a llu o nodweddion i'ch dod â chi'n nes i fyd natur. Cewch ddilyn llwybr y blodau drwy’r tŷ, gan geisio cael hyd i bob blodyn a'u cyfrif ar eich taith. Cofiwch ddweud faint welsoch chi!
Mae artistiaid a dylunwyr wedi cael eu hysbrydoli gan flagur ers canrifoedd. Allwch chi ddod o hyd i'r dyluniadau bladur hyfryd yn Nhỹ Tredegar? Fe welwch chi nhw ar wrthrychau, cerfiadau, luniau, ac maen nhw ar y waliau, y lloriau a hyd yn oed u nenfwd!
Artist Preswyl
Dyddiadau: Dyddiau Sadwrn a Dyddiau Sul,
Ebrill 13, 14, 20, 21, 27, 28.
Mai 4, 5, 11, 12, 18, 19, 25, 26.
Mehefin 1, 2, 8, 9, 15, 16, 22, 23, 29, 30.
Gorffennaf 6, 7, 13, 14, 20, 21.
Mae ein partneriaid cymunedol Urban Circle yn gweithio yn ein Horendy i greu draig goch a fydd yn cael ei hedfan yn yr ŵyl Reggae a Riddim ar 27 a 28 Gorffennaf. Mae’r cennau wedi’u gwneud gan y gymuned leol yn ystod gweithdai gan ddefnyddio dulliau artistig amrywiol. Heb unrhyw gost ar ben y pris mynediad arferol, mae hwn yn gyfle gwych i weld arddangosfa gelf unigryw yn dod yn fyw o flaen eich llygaid.
Gweithdai
31 Mai, 1 a 2 Mehefin.
Yn ystod penwythnos gŵyl y banc, bydd Urban Circle yn cynnal gweithdai i greu rhan o fwng llew a fydd yn cael ei arddangos yn yr ŵyl Reggae a Riddim ar 27 a 28 Gorffennaf. Dewch draw i gyfrannu at y darn cymunedol hwn o gelf a fydd yn cael ei weld gan lawer.
Pethau i’w gwneud yn y tŷ
Gwisgo i greu argraff
Esguswch mai Tŷ Tredegar yw eich cartref neu weithle chi gyda dewis o wisgoedd traddodiadol. Gyda ffrogiau, siacedi a hetiau i ddewis o’u plith – ydych chi am fod yn arglwyddes neu’n fwtler? A chofiwch dynnu llun fel teulu yn yr Ystafell Frown.
Chwarae gyda phypedau
Ewch i’r Lolfa lle gwelwch gornel glud ag arddangosfa bypedau ryngweithiol. Crëwch eich storïau eich hun am y bobl a oedd yn byw yma gyda’ch teulu a’ch ffrindiau. Allwch chi ail-greu rhai o’r straeon rydych chi wedi’u clywed yn ystod eich ymweliad?
Pethau i’w gwneud yn y gerddi
Datblygu man chwarae newydd
50 peth i'w wneud cyn dy fod yn 11 ¾
Mwynhewch weithgareddau’r 50 peth i’w wneud cyn dy fod yn 11 ¾ – rhestr fwced yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i anturiaethwyr ifanc. Gwyliwch aderyn, gwnewch ffrindiau gyda phryfyn neu ewch i grwydro yn eich welîs wrth i chi fwynhau popeth sydd gan y gerddi i’w gynnig. Casglwch daflen weithgareddau o’r dderbynfa ymwelwyr cyn i chi ddechrau ar eich antur wyllt.
Pethau i’w gwneud yn y parc
Lle i chwarae a mwynhau picnic
Gydag ardaloedd gwyrdd eang, y parc yw’r lle perffaith i gicio pêl, reidio beic neu fwynhau natur gyda phicnic a thaith gerdded. Mewn tywydd gwlyb, gall rhai o’r llwybrau fod yn fwdlyd, felly cofiwch wisgo’n addas ar gyfer eich ymweliad.
Bwydo’r hwyaid
Mae’r llyn addurniadol yn Nhŷ Tredegar yn gartref i lawer o wahanol adar, gan gynnwys hwyaid, cotieir, elyrch a gwyddau. Pys wedi rhewi yw’r bwyd gorau sydd gennych i adar yn eich cartref, mae’n siŵr – maen nhw’n llawn maetholion iach.