Skip to content

Diwrnodau allan i'r teulu yng Dinefwr

Plentyn yn crwydro o amgylch Dinefwr, Sir Gaerfyrddin
Teulu’n crwydro o amgylch stâd Dinefwr, Sir Gaerfyrddin | © National Trust Images / Annapurna Mellor

Mae rhywbeth i’w wneud bob amser yn Ninefwr, waeth beth yw’r tywydd. Archwiliwch ystafelloedd eang y tŷ, dewch i weld beth sy’n newydd ym Mhentref y Tylwyth Teg, mwynhewch ginio yn y caffi, ewch am dro o amgylch y parcdir a’r coetiroedd Cymreig hynafol, neu os ydych chi’n teimlo’n egnïol, ewch i weld adfeilion urddasol Castell Dinefwr.

Cynllunio eich ymweliad gyda’r teulu


I’ch helpu i gynllunio’ch diwrnod allan ymlaen llaw, dyma ychydig o wybodaeth allweddol:

· Gallwch ddod o hyd i'n holl oriau agor yma ar gyfer gwahanol rannau'r ystâd. Cynghorwn eich bod yn cael golwg ar ein horiau agor cyn i chi deithio oherwydd gall amseroedd agor rhai rhannau newid yn dibynnu ar y tymor.

· Mae croeso i gŵn o gwmpas y rhan fwyaf o'r ystâd ac yn y tŷ a'r caffi. Darllenwch fwy am ymweld gyda’ch ffrind pedair coes yma.

· Gellir dod o hyd i’r toiledau yn y ganolfan ymwelwyr yn y maes parcio ac o fewn islawr Tŷ Newton. Mae'r toiledau anabl a’r cyfleusterau newid yn y ganolfan ymwelwyr yn y maes parcio.

· Gellir gweld prisiau mynediad ar ein tudalen we yma (Gall aelodau'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol gael mynediad am ddim).

· Os ydych chi’n ymweld â ni mewn cadair olwyn neu gyda chadair wthio, mae mynediad gwastad o’r maes parcio i Dŷ Newton. Gellir gweld llwybrau hygyrch, gwastad o flaen Tŷ Newton, ond noder y gallai rhai llwybrau fod yn anaddas ac nid oes lifft y tu mewn i’r tŷ. Os oes angen cymorth arnoch chi, neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, gofynnwch i aelod o’n tîm cyfeillgar.

Hanner tymor mis Mai yn Ninefwr

Ymunwch â ni yn Ninefwr yn ystod hanner tymor mis Mai (dydd Sadwrn 25 Mai - dydd Sul 2 Mehefin) am hwyl ac anturio yn Nhŷ Newton ac o gwmpas yr ystâd.

Cewch gyfle i ailgysylltu â natur wrth grwydro o gwmpas yr ardd a’r parcdir, gweld clychau’r gog wedi blodeuo a’r coed yn fwrlwm o fywyd, mynd i weld y lloeau Parc Gwyn a cherdded i fyny at gastell Dinefwr i gael golygfeydd ysblennydd o’r dyffryn tu hwnt. Cadwch olwg am ein gyr o hyddod brith yn pori yn ymyl y Tŷ wrth i chi fwynhau tamaid i’w fwyta yn ein caffi.

Yn y tŷ, mae digonedd o le i grwydro o gwmpas. Dewch i fwynhau’r gemau yn yr ystafell gyfarch, a’r gwisgoedd hyfryd yr un fath â’r rhai yn y paentiadau portread. Cofiwch roi cynnig ar yr helfa ffigyrau bach LEGO - byddwn wedi symud bob un i le newydd erbyn hanner tymor. Allwch chi ddod o hyd i bob un ohonynt?

Cymerwch ran yn ein digwyddiadau teuluol drwy gydol y flwyddyn. Mae gwybodaeth am y digwyddiadau sydd ar y gweill ar gael yma.

Teithiau Cerdded yn Ninefwr

Ymgollwch ym myd natur a mwynhewch harddwch 800 acer o goetir, coed hynod a pharcdir. Mae adfeilion trawiadol tŵr castell Dinefwr yn sefyll uwchben yr ystâd ac mae llwybr yn arwain at y Castell o'r maes parcio, gyda golygfa gwirioneddol fendigedig o Ddyffryn Tywi cyfan yn wobr. Mae Dinefwr yn llawn o nifer o rywogaethau o adar a bywyd gwyllt a gellir gweld gyr lleol o geirw braenar yn pori gerllaw'r Tŷ yn aml.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

View house Dinefwr Carmarthenshire
Erthygl
Erthygl

Ymweld â Thŷ Newton yn Ninefwr 

Yn swatio ym mharc Dinefwr ger Llandeilo, mae Tŷ Newton yn blasty Cymreig anffurfiol sy’n cynnig cyfuniad o’r hanesyddol a’r cyfoes.

clychau'r gog, Dolaucothi, Sir gaerfyrddin
Erthygl
Erthygl

Crwydrwch y parc yn Ninefwr 

Dewch am dro drwy Barc Dinefwr ger Llandeilo, ystâd 800-erw drawiadol lle gwelwch amrywiaeth o fywyd gwyllt a rhai o’r coed hynaf yng ngwledydd Prydain.

Dog walking on a lead
Erthygl
Erthygl

Ymweld â Dinefwr gyda'ch ci 

Mwynhewch ddiwrnod allan gyda'ch ci yn Ninefwr. Croesawir cŵn drwy gydol y flwyddyn, ac mae digon o leoedd ichi eu harchwilio.