Skip to content

Ymweld â Dinefwr gyda'ch ci

Dog walking on a lead
Dog walking | © National Trust Images

Cewch wybodaeth ynghylch ymweld â Dinefwr gyda'ch ci, lle y cewch ac na chewch fynd â nhw a pha gyfleusterau sydd ar gael. Croesawir cŵn drwy gydol y flwyddyn, ac mae digon o leoedd ichi eu harchwilio. Helpwch i sicrhau bod Dinefwr yn rhywle y gall pawb ei fwynhau drwy gadw eich ci ar dennyn byr, codi baw ci ar ei ôl a dilyn y canllawiau isod.

Ein system pawen

Rydym wedi bod yn gweithio'n galed er mwyn ei gwneud yn haws i chi weld pa mor addas i gŵn fydd eich ymweliad cyn i chi a'ch cyfaill pedair coes gyrraedd.

Er mwyn helpu â hyn, rydym wedi creu system raddio â phawen ac wedi rhoi gradd i'r holl leoedd dan ein gofal. Mae'r wybodaeth hon ar gael yn llawlyfr aelodau'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Mae Dinefwr wedi'i raddio fel lle tair pawen.

Mae tair pawen yn dangos y lleoedd gorau i ymweld â nhw gyda'ch ci. Bydd modd i chi fynd â'ch ci i'r rhan fwyaf o ardaloedd, yn cynnwys y tu fewn am baned o de a thrît. Bydd arwyddion parthau cŵn clir a phrofiadau addas i gŵn. Darllenwch ymlaen i ddysgu ble yn union cewch fynd â'ch ci.

Ble mae fy nghi'n cael mynd yn Ninefwr?

Mae croeso i gŵn ar lawr isaf tŷ Dinefwr, y parc tu allan a'r caffi. Nodwch y dylid cadw cŵn ar dennyn byr yn y parcdir bob amser er mwyn cadw da byw yn ddiogel. Mae caniatâd i gŵn cymorth yn unig ar y llwybr pren ac yn y Parc Ceirw gan fod anifeiliaid yn pori. Mae yna deithiau cerdded hyfryd i'w harchwilio ar draws y parcdir hynafol, ewch i'n gwefan i weld y llwybrau, neu siaradwch ag aelod o'r tîm croesawu ymwelwyr.

Pa gyfleusterau sydd ar gael i gŵn?

Mae sawl powlen o ddŵr i gŵn ar draws y safle, yn cynnwys o flaen y tŷ, wrth y drws ffrynt a'r ardd ffurfiol.

Os fydd angen rhywbeth ar eich ci yn ystod eich ymweliad, byddwn yn falch o helpu lle fo'n bosib.

Beth arall sydd angen i mi fod yn ymwybodol ohono?

Mae gan ystad Dinefwr dda byw yn pori drwy gydol y tymor, felly gofynnwn yn garedig i ymwelwyr gadw eu cŵn ar dennyn byr bob amser er mwyn cadw'r anifeiliaid yn ddiogel.

Cynghorir hefyd ichi beidio â gadael eich anifail anwes yn y car am gyfnodau hir, gan nad yw ein meysydd parcio'n cynnig llawer o gysgod yn ystod y tymhorau cynnes.

Cod Cŵn

Rydym wedi gweithio gyda’n partner Forthglade i lunio’r cod cŵn hwn, sy’n helpu i sicrhau y gall pawb fwynhau eu diwrnod:

  • Tynhewch y tennyn: gallwch helpu i leihau’r siawns y bydd eich ci yn tarfu ar adar sy’n nythu ar y ddaear ac anifeiliaid fferm drwy ei gadw ar dennyn byr. Mae’n hanfodol defnyddio tennyn byr o gwmpas defaid. Ond os bydd gwartheg yn dod atoch chi, y peth gorau i’w wneud yw gadael eich ci oddi ar y tennyn, a’i alw’n ôl atoch chi pan mae’n ddiogel i wneud hynny.
  • Codi’r baw: glanhewch ar ôl eich ci bob tro. Os nad ydych chi’n gallu dod o hyd i fin gerllaw, ewch â’r bagiau baw adref gyda chi.
  • Troediwch yn ofalus: cadwch olwg ar arwyddion a hysbysiadau lleol ble bynnag fyddwch chi’n cerdded. Byddant yn rhoi gwybod i chi os yw cŵn wedi’u gwahardd o draeth, er enghraifft, neu os yw llwybr wedi’i wyro, neu os ydych chi mewn ardal lle gall cŵn redeg yn rhydd.
  • Cadw’ch llygad ar y bêl: cofiwch nad yw pawb yn caru cŵn, ac mae rhai pobl yn eu hofni. Felly gwnewch yn siŵr nad yw eich ci yn rhedeg i fyny at bobl eraill, yn enwedig plant.

Cadwch eich ci dan reolaeth 

Mae ein diffiniad o reolaeth agos neu effeithiol fel a ganlyn:

  • Y gallu i alw eich ci atoch mewn unrhyw sefyllfa, ar yr alwad gyntaf.
  • Gallu gweld eich ci yn glir bob amser (nid yw gwybod ei fod wedi diflannu i mewn i’r llystyfiant neu dros y bryn yn ddigon). Yn ymarferol, mae hyn yn golygu ei gadw ar lwybr cerdded os yw’r llystyfiant o’ch cwmpas yn rhy drwchus i allu gweld eich ci.
  • Peidio â gadael iddo fynd at ymwelwyr eraill heb eu caniatâd.
  • Cael tennyn i’w ddefnyddio os byddwch yn dod ar draws da byw, bywyd gwyllt neu os gofynnir i chi ddefnyddio un.
Y fynedfa flaen a’r dreif yn Nhŷ Newton, Dinefwr

Darganfyddwch fwy yn Ninefwr

Dysgwch pryd mae Dinefwr ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Ein partneriaid

Forthglade

Rydym wedi ffurfio partneriaeth â’r gwneuthurwr bwyd anifeiliaid anwes naturiol, Forthglade fel y gallwch chi a’ch ci gael mwy fyth allan o’r lleoedd arbennig sydd dan ein gofal.

Ymweld â'r wefan 

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

clychau'r gog, Dolaucothi, Sir gaerfyrddin
Erthygl
Erthygl

Crwydrwch y parc yn Ninefwr 

Dewch am dro drwy Barc Dinefwr ger Llandeilo, ystâd 800-erw drawiadol lle gwelwch amrywiaeth o fywyd gwyllt a rhai o’r coed hynaf yng ngwledydd Prydain.

View house Dinefwr Carmarthenshire
Erthygl
Erthygl

Ymweld â Thŷ Newton yn Ninefwr 

Yn swatio ym mharc Dinefwr ger Llandeilo, mae Tŷ Newton yn blasty Cymreig anffurfiol sy’n cynnig cyfuniad o’r hanesyddol a’r cyfoes.

A loaf cake on a plate with chocolate and orange on top
Erthygl
Erthygl

Bwyta a siopa yn Ninefwr 

Ymlaciwch yn yr caffi a mwynhau dewis o fwydydd poeth ac oer, snacs, bwyd pôb a hufen iâ. A darganfyddwch y siop lyfrau ail-law lle gallwch ddod o hyd i ambell drysor.

Visitors on a walk with their dog in Heddon Valley, Devon
Erthygl
Erthygl

Ymweld â lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda’ch ci 

Os ydych chi’n dod â’ch ci i’r llefydd rydym yn gofalu amdanynt, darllenwch y Cod Cŵn a dysgwch am y System Sgorio Pawennau i’ch helpu i gynllunio eich ymweliad. (Saesneg yn unig)

Plant a chi yn Llyn Bosherston, Stagbwll, Sir Benfro

Llefydd sy’n croesawu cŵn yng Nghymru 

O’r mynyddoedd a’r traeth, i erddi a pharcdiroedd, gallwch ganfod llwybr cerdded cŵn yng Nghymru y byddwch chi, a’ch cyfaill pedair coes, yn ei wir fwynhau. Dyma eich canllaw ar gyfer rhai o’r lleoliadau gorau yng Nghymru i ymweld â nhw gyda chŵn.

Haid o hyddod brith yn sefyll ar laswellt yn y parc yn Ninefwr, Sir Gâr, gyda choed ar lethrau i’r ddwy ochr ac yn y cefndir.
Llwybr
Llwybr

Llwybr bywyd gwyllt Parc Dinefwr 

Mae’r gylchdaith hon drwy barc hanesyddol yn fwrlwm o fywyd gwyllt, gan gynnwys haid o hyddod brith. Cewch hefyd ymweld â chastell canoloesol a phlas o’r 17eg ganrif.

Gweithgareddau
Cerdded
PellterMilltiroedd: 3 (km: 4.8)
Traeth Morfa Bychan ar arfordir Sir Gâr
Llwybr
Llwybr

Llwybr Trwyn Ragwen 

Mae llwybr Trwyn Ragwen yn daith gerdded ar hyd y clogwyni at fae anghysbell gyda golygfeydd godidog ar hyd y ffordd.

Gweithgareddau
Cerdded
PellterMilltiroedd: 2.5 (km: 4)
Ceirw ar laswelltir ym mharc ceirw Dinefwr, gyda’r haul yn disgleirio drwy ganghennau moel coed ar ben bryncyn i’r chwith
Llwybr
Llwybr

Llwybr ‘Capability’ Brown yn Ninefwr 

Cerddwch wrth ymyl coed hynafol hanesyddol ar gylchdaith drwy dirwedd a ddyluniwyd gan Lancelot ‘Capability’ Brown, gyda chyfle i weld yr hyddod brith sy’n byw yma.

Gweithgareddau
Cerdded
PellterMilltiroedd: 1.5 (km: 2.4)