Skip to content

Bwyta yn Stagbwll

Ystafell de’r Tŷ Cychod yn edrych dros Gei Stagbwll, Sir Benfro.
Nhŷ te’r Tŷ Cychod yng Nghei Stagbwll | © National Trust images / Sue Jones

Mae Tŷ Te’r Tŷ Cychod yn un o ffefrynnau bwyd Sir Benfro.  Mwynhewch damaid o fwyd neu ddiod tra’n edmygu’r olygfa odidog yng Nghei’r Stagbwll.

Awydd tamaid i fwyta yng Nghei Stagbwll

Bwyd i dwymo’r galon sydd ar gael yma, gan gynnwys ffefrynnau fel tatws drwy’u crwyn, cinio gwas ffarm, cawl cartref a the hufen enwog yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Cadw pethau’n lleol

Rydym yn gwneud ymdrech arbennig i ddefnyddio cynnyrch tymhorol, lleol a ffres, a phan fyddwch yn bwyta gyda ni rydym am i chi gael blas go iawn ar Sir Benfro.

Ystafell de’r Tŷ Cychod yn edrych dros Gei Stagbwll, Sir Benfro.
Mwynhewch ddiod boeth neu damaid o fwyd yn Stagbwll | © National Trust images / John Miller

Gwybodaeth am alergenau

Mae’r rhan fwyaf o’n bwyd a diod yn cael ei baratoi ar y safle yn ein cegin gan ddefnyddio amrywiaeth eang o gynhwysion. O ganlyniad, ni allwn warantu bod ein cynhyrchion bwyd a diod yn hollol rydd o alergenau.

Os oes gennych alergedd neu anoddefgarwch ac yr hoffech weld gwybodaeth am gynhwysion bwyd a diod, gofynnwch i’r staff a fydd yn hapus i helpu.

Cadarnhewch cyn eich ymweliad

Wedi ymweld o’r blaen? Weithiau rydym yn newid ein ryseitiau i wella ansawdd a blas, gan gynnwys y cynhwysion. Ar eich ymweliad, siaradwch ag aelod o’n tîm i wirio’r wybodaeth ddiweddaraf am alergenau ar gyfer eich hoff bryd.

Lleoliad eich breuddwydion

Yn hawdd ei gyrraedd yn y car neu ar droed o unrhyw un o feysydd parcio’r stad, mae Cei Stagbwll yn fan delfrydol i fynd am dro ar hyd llwybr yr arfordir. Mae Tŷ Te’r Tŷ Cychod wedi bod yn hafan i gerddwyr ac ymwelwyr ers tro hefyd.

Mannau eraill i fwyta yn Stagbwll

Mae Gardd Furiog Stagbwll ar y stad, ger Coedwig Parc y Porth. Yn cael ei rhedeg gan Mencap Sir Benfro, galwch draw i ddal eich gwynt a mwynhau’r caffi, yr ardd a’r siop.

Diolch

Mae pob paned neu drît blasus a brynwch yn ein helpu i barhau i ofalu am lefydd i bawb eu mwynhau.

Ymwelwyr yn cerdded i lawr allt at draeth yn Stagbwll

Darganfyddwch fwy yn Stagbwll

Dysgwch sut i gyrraedd Stagbwll, ble i barcio, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Dyn ar feic mynydd yn reidio drwy goetiroedd godidog gwyrdd
Erthygl
Erthygl

Gweithgareddau awyr agored yn Stagbwll 

Mae awyr iach Stagbwll yn siŵr o roi gwynt yn eich hwyliau. Mae angen natur ar bawb, ac mae cyfoeth ar gael yn Stagbwll. Dysgwch ble y gallwch aros yn Stagbwll hefyd.

Golygfa hanesyddol o ddau giper a’u cŵn ar draws y Parc Ceirw, Ystâd Ystagbwll, Sir Benfro.
Erthygl
Erthygl

Hanes Stagbwll 

Camwch yn ôl drwy amser a datgelu canrifoedd o dreftadaeth ar draws Stad Stagbwll, o’r oes efydd hyd heddiw, ac am fywydau ei thrigolion.

Tri ymwelydd ar y traeth yn Stagbwll ar ddiwrnod gwyntog
Erthygl
Erthygl

Hygyrchedd yn Stagbwll 

Darllenwch ganllaw hygyrchedd Stagbwll ar fenthyg cerbydau symudedd, llwybrau addas ac awgrymiadau defnyddiol ar symud o gwmpas, cyfleusterau a phethau i’w gweld a’u gwneud.

Dyfrgi â’i ben uwch yr wyneb ymysg y lilis dŵr
Erthygl
Erthygl

Gwylio bywyd gwyllt yn Stagbwll 

Mae Stagbwll yn gartref i bob math o greaduriaid, o’r dyfrgwn enwog i nythfa fwyaf Cymru o ystlumod pedol mwyaf.