Skip to content

Hanes Stagbwll

Golygfa hanesyddol o ddau giper a’u cŵn ar draws y Parc Ceirw, Ystâd Ystagbwll, Sir Benfro.
Golygfa hanesyddol o ddau giper a’u cŵn ar draws y Parc Ceirw, Ystâd Ystagbwll, Sir Benfro. | © The W E Morgan Collection

O feini hirion yr Oes Efydd i batrymau caeau’r Oes Haearn a chaerau pentir arfordirol, mae tirwedd Stagbwll wedi’i chreithio gan weithgarwch dynol, sy’n rhoi cip i ni ar ein gorffennol. Dysgwch fwy am hanes yr ardal hyd at ddirywiad yr ystâd yn dilyn yr Ail Ryfel Byd.

Hanes cynnar Stagbwll

Mae'n anodd dychmygu'r adeiladau di-ri sydd wedi'u codi ar safle Llys Stagbwll dros y canrifoedd. Mae Stad Stagbwll, sydd wedi'i meddiannu ers yr oes Normanaidd, wedi ffynnu a ffaelu droeon dros y canrifoedd.

Yr Oes Efydd: 3000 CC

Yr arwyddion cyntaf o weithgarwch dynol yn Stagbwll. Mae gennym faen hir a siambr gladdu sy’n dyddio’n ôl i’r Oes Efydd. Allwch chi ddod o hyd i Goeten y Diafol yng Nghwningar Stagbwll? Tybiwyd mai safle claddu oedd hwn ers talwm, ond erbyn hyn credwn mai man ymgasglu defodol ydoedd.

Yr Oes Haearn: 3000 CC

Gwnaeth trigolion yr Oes Haearn adeiladu caerau arfordirol i’w diogelu eu hunain rhag ymosodiadau. Mae dwy yn Stagbwll: mae Greenala ar yr arfordir rhwng Cei Stagbwll a Freshwater East ac ers talwm roedd Gwersyll Pwll Pysgod i’w weld yn sefyll ar yr arfordir, ond mae wedi diflannu i’r dyfroedd erbyn hyn.

Yr oes Rufeinig-Brydeinig: 400 OC

Mae’r anheddiad Rhufeinig-Brydeinig yn cynnwys olion llociau anifeiliaid a chylchoedd cutiau. Byddai’r ardal wedi edrych yn wahanol iawn yn yr oes a fu – ni fyddai llynnoedd na choed pinwydd wedi bod ar gyfyl y lle, a byddai llawer o gaeau bach neu lociau gyda waliau cerrig garw.

Oes y Normaniaid: 1188 OC

Perchennog cynharaf Stagbwll, fwy na thebyg, oedd Elidyr de Stackpole, sy’n cael ei grybwyll gan Gerallt Gymro ym 1188. Mae cofeb iddo yn eglwys Elidor, Stagbwll. Y Normaniaid sy’n gyfrifol am batrwm y pentrefi a’r eglwysi cyfagos.

Yr Oesoedd Canol a chyfnod y Tuduriaid: 1300-1600

Pasiodd y stad drwy briodas o’r teulu de Stackpole i ddwylo’r teuluoedd Vernon a Stanley. Roedd cwningod yn cael eu ffermio yng Nghwningar Stagbwll ar ôl iddyn nhw gael eu cyflwyno gan y Normaniaid – ar gyfer chwaraeon neu fwyd, dydyn ni ddim yn siŵr.

Ymwelwyr yn sefyll ar ben clogwyn yn edrych dros Fae Barafundle, Stagbwll
Ymwelwyr yn edmygu’r olygfa o Fae Barafundle, Stagbwll | © National Trust Images/Chris Lacey

Y teulu Lort: Rhyfel cartref 1611-1689

Roedd y teulu Lort yn Frenhinwyr, gan ochri gyda Brenin Siarl I yn Rhyfel Cartref Lloegr. Nhw oedd stiwardiaid y teulu Stanley yn wreiddiol, a gwnaethant brynu’r stad ym 1611.

Pan ymosodwyd ar Stagbwll yn ystod y Rhyfel Cartref, cuddiodd Roger Lort mewn ogof ger Bae Barafundle, yn ôl pob sôn, i osgoi cael ei ddal. Ar ôl gwarchae byr, ildiodd y teulu Lort.

Stagbwll yn llewyrchu dan y teulu Cawdor

Elizabeth Lort oedd etifeddes Stad Stagbwll a phriododd hi ag Alexander Campbell o Cawdor ym 1689, a oedd yn gyfaill prifysgol i’w brawd, Gilbert.

Adeiladodd y teulu Campbell blasty Sioraidd cynnar Llys Stagbwll yn yr arddull Baladaidd yn y 1730au ar safle’r tŷ caerog cynharach.

Etifeddodd Syr John Campbell II y stad ym 1777 a dechreuodd waith tirlunio ar raddfa enfawr. Cafodd dyffryn ei foddi'n ddiweddarach i greu Llynnoedd Bosherston fel rhan o dirwedd ddyluniedig, a phlannwyd miloedd o goed.

Tudalen llyfr ymwelwyr yn cofnodi ymweliadau â Llys Stagbwll, Penfro, 18 Ebrill 1938 gyda llofnodion
Tudalen llyfr ymwelwyr yn cofnodi ymweliadau â Llys Stagbwll, Cymru | © National Trust / Charles Thomas

Dirywiad a chwymp stad fawreddog yn Stagbwll

Rhagflaenodd y ddau ryfel byd ganrif o ddirywiad yn Stagbwll. Cafodd hanner y stad, tua 6,000 o erwau, ei hawlio gan y Weinyddiaeth Amddiffyn i ffurfio Maes Castellmartin ym 1938.

Gwnaeth milwyr a gafodd eu lletya yn Llys Stagbwll dynnu plwm o’r to, a arweiniodd at bydredd sych a gwlyb. Yn drist iawn, cafodd y tŷ ei ddymchwel ym 1963.

Dair blynedd ar ddeg yn ddiweddarach, cafodd yr hyn oedd yn weddill o'r stad hanesyddol ei dorri'n ddarnau a chafodd y ffermydd eu gwerthu. Aeth yr arfordir, y coedwigodd a’r llynnoedd i ddwylo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Golygfa dros y Bont Wyth Bwa dros y Llyn Pysgod yn Stagbwll ar ddiwrnod heulog

Casgliadau Stagbwll

Darganfyddwch y gwrthrychau a’r gwaith celf rydym yn gofalu amdanynt yn Stagbwll ar wefan Casgliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Dyfrgi â’i ben uwch yr wyneb ymysg y lilis dŵr
Erthygl
Erthygl

Gwylio bywyd gwyllt yn Stagbwll 

Mae Stagbwll yn gartref i bob math o greaduriaid, o’r dyfrgwn enwog i nythfa fwyaf Cymru o ystlumod pedol mwyaf.

Ystafell de’r Tŷ Cychod yn edrych dros Gei Stagbwll, Sir Benfro.
Erthygl
Erthygl

Bwyta yn Stagbwll 

Mwynhewch ffefrynnau ffein yn Nhŷ Te’r Tŷ Cychod a golygfeydd godidog o Gei Stagbwll.

Tri ymwelydd ar y traeth yn Stagbwll ar ddiwrnod gwyntog
Erthygl
Erthygl

Hygyrchedd yn Stagbwll 

Darllenwch ganllaw hygyrchedd Stagbwll ar fenthyg cerbydau symudedd, llwybrau addas ac awgrymiadau defnyddiol ar symud o gwmpas, cyfleusterau a phethau i’w gweld a’u gwneud.

Dyn ar feic mynydd yn reidio drwy goetiroedd godidog gwyrdd
Erthygl
Erthygl

Gweithgareddau awyr agored yn Stagbwll 

Mae awyr iach Stagbwll yn siŵr o roi gwynt yn eich hwyliau. Mae angen natur ar bawb, ac mae cyfoeth ar gael yn Stagbwll. Dysgwch ble y gallwch aros yn Stagbwll hefyd.