Skip to content

Gwylio bywyd gwyllt yn Stagbwll

Dyfrgi â’i ben uwch yr wyneb ymysg y lilis dŵr
Dyfrgi ymysg y lilis dŵr | © National Trust Images / Jim Bebbington

Gafaelwch yn y binocwlars ‘na – mae Stagbwll dan ei sang â fflora a ffawna drwy gydol y flwyddyn. A welwch chi’r dyfrgwn enwog yn y llynnoedd, yr ystlumod yn clwydo yn y coed a’r pili-palod yn bert ar eu blodau? Yn ein coetir anferth, fe welwch goed hynafol ac arddangosfeydd fflora lliwgar.

Darganfyddwch anifeiliaid anhygoel Stagbwll 

Mae Stagbwll heb ei hail o ran gwylio bywyd gwyllt – ar draws yr ystâd fe welwch greaduriaid mawr a bach. Cadwch olwg am y canlynol ar eich ymweliad.

Dyfrgwn

Mae Llynnoedd Bosherston, sy’n cael eu bwydo gan ddŵr ffynnon, yn gartref i blanhigion dŵr croyw prin, ac mae poblogaeth iach o ddyfrgwn yma hefyd. Maen nhw’n bwydo ar y llysywod, penhwyaid, draenogiaid, cochiaid ac ysgretennod sy’n byw yn y llyn, a nhw yn wir yw sêr Stagbwll.

Ystlumod

Ry’n ni’n gartref i’r nythfa fwyaf yng Nghymru o ystlumod pedol mwyaf, ac un o’r nythfeydd mwyaf yng ngwledydd Prydain. Mae’r ystlumod pedol mwyaf yn un o 12 rhywogaeth o ystlum sy’n byw yma; yn cysgu, bridio a gaeafgysgu mewn llawer o’r hen adeiladau a choed o gwmpas yr ystâd.

Adar

Mae tirwedd amrywiol yr ystâd yn ddelfrydol ar gyfer gwylio adar. Yn y coetir fe welwch bopeth o’r dryw bach, y siff-saff a’r dryw melyn cribog (neu’r eurben) i’r boda, y dylluan frech a’r gwalch (neu gudyll) glas.

Yr olygfa ar draws Pwll Lili Bosherston o’r Bont Welltog yn Stagbwll, Sir Benfro, gydag awyr las uwchben dŵr gweiriog
Yr olygfa ar draws Pwll Lili Bosherston o’r Bont Welltog yn Stagbwll, Sir Benfro | © National Trust Images/Robert Morris

Adar dŵr

Mae Llynnoedd Bosherston yn croesawu heidiau o adar y dŵr yn ystod y gaeaf, mae’r hwyaden ddanheddog a’r gors-hwyaden lwyd yn westeion cyffredin. Fe welwch hefyd doreth o adar bridio, gan gynnwys y crëyr glas, glas y dorlan, yr wyach leiaf a’r gotiar (neu iâr fach y dŵr).

Trowch hi am yr arfordir ac fe allech weld brân goesgoch – mae dau neu dri phâr yn bridio yma mewn ogofau a holltau yn y clogwyni. Maen nhw’n bwydo ar bryfed a lindys yn bennaf, ac yn chwilio amdanynt yng nglaswellt main yr arfordir neu mewn dom da.

Pili-palod

Mae o leiaf 30 o rywogaethau cyffredin yma. Mae llawer ohonynt yn dibynnu ar y borfa fer, sy’n fôr o flodau arfordirol. Cadwch olwg am fflach las y glesyn serennog neu’r glesyn cyffredin o gwmpas y stad.

Blodau arfordirol

Ym mis Mai, mae Trwyn Stagbwll a Phen Cyfrwy’n fôr o las wrth i serennyn y gwanwyn flodeuo. Mae’r traethau a’r twyni’n gartref i blanhigion arbenigol a all oroesi mewn amodau sych a hallt iawn, fel celynnen y môr a’r ysgedd arfor.

A close up photo of a wildflower meadow at Stackpole, Pembrokeshire featuring tall, purple wild orchids.
Wild orchids flowering in the meadow at Stackpole | © National Trust Images/Chris Lacey

Blodau gwyllt a choed hynafol yn Stagbwll

Tegeirianau

Mae amrywiaeth arbennig o degeirianau yn Stagbwll, o degeirian coch y gwanwyn i droellig yr hydref. Cadwch olwg am y tegeirian gwenynog a’r tegeirian bera yn yr ardaloedd tywodlyd llaith y tu ôl i Dde Aber Llydan a Freshwater West.

Coed hynafol

Mae coetir Stagbwll yn drawiadol. Mae’n gyfuniad gwych o goetiroedd gwlyb wrth ben Llynnoedd Bosherston ac ardaloedd mawr o goetir cymysg. Mae’r rhan fwyaf o’r coed yma yn llai na 200 oed, a phlannwyd llawer ohonynt gan y teulu Cawdor, y teulu a greodd y dirwedd ddyluniedig hon tra’r oedden nhw’n byw yn Llys Stagbwll.

Yn eu mysg mae’r ffawydd a’r castanau pêr a welwch yma heddiw, ond hefyd lwyni a gwrychoedd a gasglwyd o bedwar ban byd. Mae rhai o’r rhain yn achosi problemau mawr i ni heddiw gan eu bod wedi lledaenu ymhell y tu hwnt i le cawsant eu plannu (mae’r rhain yn cynnwys y llawryf, y bachgen llwm a derwen y doldir).

Llanw a thrai

Yn y 1960au, plannwyd ardaloedd mawr â chonifferau, ond mae’r rhain yn cael eu cwympo’n raddol a’u disodli gan goed llydanddail fel yr onnen, y dderwen ac, yn fwyfwy, y sycamorwydden.

Mae’r sycamorwydden yn blaguro’n gynnar ac felly’n wych i’r planhigion hynny sy’n blodeuo’n gynnar, fel clychau’r gog, briallu a garlleg gwyllt, a’n cymunedau o redyn sy’n hoff o’r cysgodion. Y rhain sy’n rhoi eu hedrychiad nodweddiadol i goedwigoedd Stagbwll.

Pedwar cerddwr ar lwybr bywyd gwyllt Stagbwll, Sir Benfro

Gwneud rhodd

Mae pawb angen natur, nawr yn fwy nag erioed. Rhowch heddiw ac fe allech helpu pobl a natur i ffynnu yn y lleoedd dan ein gofal.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Golygfa hanesyddol o ddau giper a’u cŵn ar draws y Parc Ceirw, Ystâd Ystagbwll, Sir Benfro.
Erthygl
Erthygl

Hanes Stagbwll 

Camwch yn ôl drwy amser a datgelu canrifoedd o dreftadaeth ar draws Stad Stagbwll, o’r oes efydd hyd heddiw, ac am fywydau ei thrigolion.

Tri ymwelydd ar y traeth yn Stagbwll ar ddiwrnod gwyntog
Erthygl
Erthygl

Hygyrchedd yn Stagbwll 

Darllenwch ganllaw hygyrchedd Stagbwll ar fenthyg cerbydau symudedd, llwybrau addas ac awgrymiadau defnyddiol ar symud o gwmpas, cyfleusterau a phethau i’w gweld a’u gwneud.

Dyn ar feic mynydd yn reidio drwy goetiroedd godidog gwyrdd
Erthygl
Erthygl

Gweithgareddau awyr agored yn Stagbwll 

Mae awyr iach Stagbwll yn siŵr o roi gwynt yn eich hwyliau. Mae angen natur ar bawb, ac mae cyfoeth ar gael yn Stagbwll. Dysgwch ble y gallwch aros yn Stagbwll hefyd.

Ystafell de’r Tŷ Cychod yn edrych dros Gei Stagbwll, Sir Benfro.
Erthygl
Erthygl

Bwyta yn Stagbwll 

Mwynhewch ffefrynnau ffein yn Nhŷ Te’r Tŷ Cychod a golygfeydd godidog o Gei Stagbwll.