Skip to content

Disgyblion Ysgol Penmachno yn creu gofod i fyd natur

Disgyblion Ysgol Penmachno yn plannu coed ger y pentref
Mae disgyblion Ysgol Penmachno wedi torchi eu llewys i helpu i greu cynefin coetir newydd | © National Trust Images

Mae rhai o ddisgyblion Ysgol Penmachno wedi torchi eu llewys i helpu i greu cynefin coetir newydd ar fferm denant Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru ger Penmachno, fel rhan o Brosiect Uwch Conwy.

Gan weithio gyda cheidwaid yr Ymddiriedolaeth yn fferm Ysgwifrith, plannodd y disgyblion tua 300 o goed brodorol, llydanddail mewn ardal fach o dir corsiog. Roedd y rhywogaethau'n cynnwys bedw arian, helyg a gwern mewn rhannau gwlypach o'r safle, tra bod coed cyll, ceirios yr adar, derw a chriafol wedi'u plannu ar y rhannau eraill.

Dywedodd Louis Roberts, tenant Ysgwifrith: “Roedd hi’n wych gweld y plant yn plannu’r coed a byddan nhw’n gallu eu gweld yn tyfu wrth iddyn nhw fynd yn hŷn a dweud eu bod nhw wedi helpu gyda’r gwaith yma o fewn y gymuned.”

Wrth i'r coed aeddfedu, byddant yn creu cynefin gwerthfawr i fywyd gwyllt, yn helpu i fynd i'r afael â newid hinsawdd trwy storio carbon, yn darparu rheolaeth naturiol ar lifogydd trwy arafu dŵr ffo, creu cysgod a lloches i dda byw ac yn gwella gwydnwch sychder trwy helpu'r pridd i gadw lleithder am hirach.

Disgyblion Ysgol Penmachno yn plannu coed ger y pentref
Roedd y gwaith yn rhan o Prosiect Uwch Conwy | © National Trust Images

Mae'r gwaith wedi bod yn rhan o Brosiect Uwch Conwy, sydd yn bartneriaeth rhwng Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru. Gan ganolbwyntio ar ddalgylch Uwch Conwy, mae'r prosiect hirdymor yma yn anelu at fynd i'r afael â newid hinsawdd a lleihau llifogydd eithafol er budd natur, bywyd gwyllt a phobl.

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae'r prosiect wedi gweithio gydag ysgolion cynradd ac uwchradd ledled Conwy, gan ddarparu cyfres o ddigwyddiadau i bobl ifanc ymgysylltu a dysgu am eu hamgylchedd naturiol lleol.

Roedd y gwaith wedi’i ariannu gan y Rhaglen Rhwydweithiau Natur, wedi'i ddarparu gan y Gronfa Treftadaeth, ar ran Llywodraeth Cymru.

Dysgwch fwy am Prosiect Uwch Conwy

Prosiect dalgylch Uwch Conwy 

Dysgwch sut rydym yn gweithio i fynd i’r afael â newid hinsawdd a lleihau llifogydd yn nalgylch Afon Conwy er budd natur, bywyd gwyllt a phobl.