
Ble fydd eich ymweliad nesaf?
Darganfyddwch lawer o erddi, tai hanesyddol, diwrnodau allan ar yr arfordir a mwy. (Saesneg yn unig)
Ymwelwch â chestyll tylwyth teg sy’n gyfoeth o hanes, plastai crand a gerddi godidog yng Nghymru. O gopaon geirwon Eryri i draethau euraidd gwyllt, mwynhewch daith fythgofiadwy i diroedd Celtaidd sy’n drysorfa o chwedlau. Croeso i Gymru.
Byddwch yn barod am antur deuluol yn ystod hanner tymor yr hydref.O lwybrau arswydus i grefftau Calan Gaeaf, helfeydd sborion yr hydref a bywyd gwyllt trawiadol, mae rhywbeth i bob oed ar gael hanner tymor yr Hydref yn y lleoedd arbennig rydym yn gofalu amdanynt ledled Cymru.
Ymwelwch â chasgliad arbennig o erddi a pharciau yng Nghymru. O erddi muriog i ystadau cefn gwlad a gerddi coed, mae digon i’w ddarganfod.
Darganfyddwch blastai Cymreig mawreddog a’u casgliadau, o gartrefi teuluol i adeiladau a ddyluniwyd gan benseiri enwog. Darganfyddwch hanes a hanesion o’r oes a fu mewn lleoliadau trawiadol ledled Cymru.
Camwch i mewn i gaer ganoloesol â dwnsiynau yn y Waun neu ymwelwch â chartref tywysogion Cymru yng Nghastell Powis. Darganfyddwch rai o gestyll gwychaf ac enwocaf Cymru.
Darganfyddwch ddyffrynnoedd dramatig a phrydferth, coetiroedd hynafol a llwybrau glan afon, neu anturiwch ar fynyddoedd gwyllt Cymru ac ymweld â rhai o gopaon mwyaf eiconig y wlad.
Darganfyddwch 157 milltir o arfordir Cymru sy’n cael ei ddiogelu gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, o draethau euraidd eang i glogwyni geirwon
Mae enfys o liwiau yn disgwyl i gael ei darganfod yn ein gerddi ledled Cymru, dyma ein ffefrynnau ni:
Dewch i gasglu concyrs a moch coed, ceisio cael cip ar gapiau cŵyr lliwgar sy’n addurno’r lawnt, a mwynhau enfys o liwiau yn sioe harddaf y flwyddyn yr ardd goed.
Dewch i weld ystod lliwiau’r Hydref wrth ichi archwilio’r castanwydd a ffawydd urddasol yn yr Hen Barc, y ceirios addurnol llachar yn y Llannerch Masarn a choed Katusra â’u harogl siwgr yn yr Ardd Gron.
Archwiliwch yr ardd goed Awstralasia persawrus, darganfyddwch liwiau newidiol y tymor wrth ichi edrych allan ar draws Afon Menai tuag at Eryri, a cheisiwch gael cip ar Wiwerod Coch yn prysur baratoi ar gyfer y gaeaf.
Manteisiwch i'r eithaf ar y tymor wrth iddi lapio o amgylch y dirwedd mewn blanced gynnes o liwiau tanllyd. Yn Dinefwr, mae’r parcdir yn fôr o felyn, ambr ac aur, yn fframio’r golygfeydd godidog o Dŷ Newton.
Crwydrwch trwy fyd rhyfeddol o liw, gwead ac aroglau ar daith trwy Ardd y Gaeaf. Taith gylchol hawdd addas i’r teulu cyfan ei mwynhau.
Archwiliwch y gweundir a’r ffridd wyllt ac unig dan yr Aran, llethrau isaf copa uchaf Cymru, yr Wyddfa, rhaeadrau rhyfeddol Afon Cwm Llan a’r Llyn Dinas trawiadol ar y daith gylchol hon.
Wrth i’r aer oeri, daw’r ardd, y coetir a’r terasau yng Nghastell Powis yn fyw o liwiau’r hydref. Mwynhewch y dail yn crensian ac aroglau’r coed afalau ar y daith gerdded hawdd hon.
Mae llwybr Trwyn Ragwen yn daith gerdded ar hyd y clogwyni at fae anghysbell gyda golygfeydd godidog ar hyd y ffordd.
Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.
O’r mynyddoedd a’r traeth, i erddi a pharcdiroedd, gallwch ganfod llwybr cerdded cŵn yng Nghymru y byddwch chi, a’ch cyfaill pedair coes, yn ei wir fwynhau. Dyma eich canllaw ar gyfer rhai o’r lleoliadau gorau yng Nghymru i ymweld â nhw gyda chŵn.
Darganfyddwch y cyfrif Instagram @tindroi_dawdle, sy’n darparu gweledigaeth artistig unigryw a ffres i’r tirweddau hanesyddol a diwylliannol dan ofal Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru.
Dysgwch sut y gallwch wneud gwahaniaeth drwy wirfoddoli yn un o’r llefydd rydym yn gofalu amdanynt yng Nghymru, o dai hanesyddol i fynyddoedd ac arfordiroedd.
Ymunwch â grŵp cefnogwyr yng Nghymru i gefnogi ein lleoliadau yn eich ardal chi drwy godi arian a gwirfoddoli, cwrdd â phobl newydd a mwynhau sgyrsiau, teithiau a digwyddiadau arbennig.
Ym mis Gorffennaf fe wnaethom gyhoeddi bod angen i ni wneud arbedion oherwydd oherwydd y pwysau costau parhaus sy’n effeithio ar lawer o elusennau, ac i sicrhau ein bod ni yn y sefyllfa orau i gyflawni ein strategaeth 10 mlynedd newydd.
Mae arddangosfa ‘International Garden Photographer of the Year’, Ffotograffydd Gerddi Rhyngwladol y Flwyddyn, yn cyrraedd Gogledd Cymru am y tro cyntaf.
Mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn falch o lansio ‘Gwerth Mewn Gair’ sef arddangosfa o arwyddocâd cenedlaethol a fydd yn cael ei chynnal yn y Senedd rhwng 5 Medi a 30 Hydref, sy’n dathlu iaith, diwylliant a threftadaeth Cymru.
Derbyniodd Castell-nedd Port Talbot a Thorfaen yng Nghymru hwb ariannol heddiw o £1.1 miliwn i helpu sicrhau bod pobl sy’n byw ar draws Blaenafon, Pont-y-pŵl, Cwmbrân, Castell-nedd a Phort Talbot yn gallu mwynhau byd natur a mannau gwyrdd yn agos at eu cartrefi.
Yn Nhŷ Tredegar yng Nghasnewydd, mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn ffurfio partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Cadwraeth Cacwn i greu noddfa hanfodol ar gyfer rhywogaethau cacwn sy’n dirywio’n gyflym, gan gynnwys un o rywogaethau prinnaf y DU, y Gardwenynen Feinlais (Bombus sylvarum).
Dewch i wybod am Eisteddfod yr Urdd 2027 a fydd yn Tŷ Tredegar yng Nghasnewydd.
National Trust Cymru have showcased exciting new additions at Tŷ Mawr Wybrnant aimed at enhancing the overall visitor experience at the historic site.
Heddiw, mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru wedi cyhoeddi eu bod yn creu Cofrestr Genedlaethol o Isrywogaethau Coed Afal o Gymru sy’n dynodi 29 o wahanol fathau o afalau o Gymru er mwyn helpu i ddiogelu treftadaeth afalau gyfoethog Cymru.
Awydd cinio ysgafn neu ddiod boeth? Chwilio am yr anrheg berffaith? Mae rhywbeth at ddant pawb yn ein caffis, ystafelloedd te a siopau yng Nghymru.
Yn rhai clyd neu'n llawn cymeriad, ar yr arfordir neu yng nghefn gwlad, darganfyddwch y tai gwyliau gorau yng Nghymru.
Rhowch gynnig ar 50 peth i’w gwneud cyn eich bod yn 11 a ¾ wrth inni nesáu at dymor yr Hydref a’r Gaeaf. / Have a go at 50 things before you're 11 and 3/4 as the season moves into Autumn and winter.
Byddwch yn artist yn Ardd Bodnant | Become an artist at Bodnant Garden.
Mwynhewch Arddangosfa Ffotograffydd Gardd Rhyngwladol y Flwyddyn yn Ardd Bodnant | Enjoy the International Garden Photographer of the Year Exhibition at Bodnant Garden
Dathliad 5 mlynedd o ‘Gelf Gogledd Cymru’ gydag arddangosfa o’u gwaith ym mwa’r tresi aur. | A celebration of five years of 'Art North Wales' with an exhibition of their work under the Laburnum Arch.
‘Synwyriwm’; arddangosfa celfyddydau creadigol a llesiant ym Mhlas Newydd | ‘Synwyriwm’; a creative arts and wellbeing exhibition at Plas Newydd
Witness the gardens transition from the lush abundance of summer to the rich rainbow of autumn on a self-led walk with a special autumn map.
Engage with nature and notice it in a different ways by using all your senses to ground yourself in the beautiful season of autumn.
Ymunwch â ni ar antur i ganfod darnau o’r paentiad o’n Gasebo yn yr Ardd Furiog / Join us on an adventure to discover pieces of the painting from our Gazebo in the Walled Garden.
Darganfyddwch lawer o erddi, tai hanesyddol, diwrnodau allan ar yr arfordir a mwy. (Saesneg yn unig)