15 diwrnod allan am ddim gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru ym mis Medi
- Cyhoeddwyd:
- 26 Awst 2026

Visitors are invited to discover 15 National Trust Cymru places across Wales for free this September as part of Open Doors, Cadw's annual celebration of Welsh heritage.
Ar ddyddiadau dethol drwy gydol y mis, bydd lleoedd Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn agor eu drysau am ddim, gan gynnig cyfle unigryw i archwilio rhai o dai hanesyddol, gerddi a thirweddau mwyaf arbennig Cymru. O straeon rhyfeddol am hanes a diwylliant Cymru i erddi hardd a chefn gwlad trawiadol, gall ymwelwyr fwynhau diwrnodau cofiadwy wrth ddysgu mwy am y lleoedd sydd wedi siapio Cymru.
Mae hyn i gyd yn rhan o Ddrysau Agored, gŵyl flynyddol sy'n dathlu treftadaeth a diwylliant cyfoethog Cymru. Wedi'i threfnu a'i hariannu gan Cadw, bydd y digwyddiad poblogaidd hwn ledled Cymru yn gweld cannoedd o safleoedd hanesyddol, adeiladau eiconig, tirnodau a lleoliadau anarferol yn cynnig mynediad am ddim, gweithgareddau a digwyddiadau i ymwelwyr drwy gydol mis Medi.
Gogledd Cymru
Tŷ Mawr Wybrnant, Penmachno | 5 a 6 Medi, 12pm - 4pm
Wedi'i leoli yng nghwm Wybrnant, Tŷ Mawr Wybrnant yw man geni'r Esgob William Morgan, y person cyntaf i gyfieithu'r Beibl cyfan i'r Gymraeg, gan helpu i sicrhau goroesiad yr iaith.
I ddathlu Drysau Agored, bydd Tŷ Mawr Wybrnant ar agor ddydd Sadwrn a dydd Sul, 5 a 6 Medi, gyda sgyrsiau am ei hanes, yr ardd a'i harwyddocâd diwylliannol.
www.nationaltrust.org.uk/ty-mawr-wybrnant
Plas Newydd, Ynys Môn | 12 a 13 Medi, 9.30am - 5pm
Mae Plas Newydd yn dŷ a gardd Gradd I ar lan y Fenai yn Ynys Môn. Gyda mynyddoedd Eryri yn gefndir trawiadol, mwynhewch 40 erw o erddi heddychlon a 129 erw o goetir a pharcdir.
Bydd mynediad am ddim ddydd Sadwrn a dydd Sul, 12 a 13 Medi, a bydd gweithgareddau ychwanegol i bawb eu mwynhau. Rhyddhewch eich artist mewnol wrth ddarganfod deunyddiau celf o amgylch yr ardd neu codwch Becyn Artist, sy'n llawn eitemau i'ch ysbrydoli i fod yn greadigol.
www.nationaltrust.org.uk/plas-newydd
Gardd Bodnant, Conwy | 12 a 13 Medi, 9.30am - 5pm
Sefydlwyd yr ardd Restredig Gradd I hon ar gyrion Eryri yn 1874 gan yr entrepreneur Fictoraidd Henry Pochin. Mae'n cynnwys terasau Eidalaidd gyda gwelyau blodau ffurfiol, pyllau a pharterrau, ynghyd â choetiroedd, dolydd a dyffrynnoedd gyda afonydd, rhaeadrau a choed mawreddog.
Mwynhewch ymweliad am ddim â'r ardd odidog hon ddydd Sadwrn neu ddydd Sul, 12 a 13 Medi, a gweld lliwiau diwedd yr haf gyda dahlias, rudbeckias a heleniums bywiog. Yn y Dell ar lan yr afon ceir hydrangeas glas trawiadol yn ymestyn ochr yn ochr â'r afon.
www.nationaltrust.org.uk/bodnant-garden
Castell Penrhyn a'r Ardd, Bangor | 19 a 20 Medi, 10am - 5pm
Mae ystafelloedd Castell Penrhyn, ei bensaernïaeth neo-Normanaidd a'i ddodrefn moethus yn adlewyrchu hanesion trefedigaethol cymhleth. Wedi'i leoli ar Afon Menai gyda chopaon Eryri yn gefndir, mae'r castell yn edrych dros y chwarel ac wedi'i amgylchynu gan barcdir a gardd gaeedig.
Ymwelwch am ddim ddydd Sadwrn a dydd Sul, 19 a 20 Medi. Bydd chwarelwyr o'r Amgueddfa Lechi yn cynnal arddangosiadau hollti llechi drwy gydol y penwythnos, a bydd arddangosiad pobi yng Nghegin Fictoraidd y castell ddydd Sul.
www.nationaltrust.org.uk/penrhyn-castle-and-garden
Neuadd a Gardd Erddig, Wrecsam | 19 Medi, 10am - 5pm
Archwiliwch dŷ, gardd ac ystâd boblogaidd sy'n gyfoethog o straeon y teulu a'r gweision a fu'n byw yno. Darganfyddwch gasgliad rhyfeddol o bortreadau gweision, ystafelloedd wedi'u cadw'n ofalus a gardd o'r 18fed ganrif wedi'i hadfer yn brydferth.
Mae mynediad am ddim ddydd Sadwrn, 19 Medi. Mwynhewch dro ar hyd y border 220 metr o hyd sy'n amgylchynu'r ardd, gyda choed ffrwythau espalier, bylbiau, llwyni a blodau blynyddol.
www.nationaltrust.org.uk/erddig
Castell y Waun a'r Ardd, Wrecsam | 19 Medi, 10am - 5pm
Castell y Waun yw'r castell Cymreig olaf o gyfnod Edward I sy'n dal i gael ei fyw ynddo heddiw. Archwiliwch ei dyrau a'i garcharorion canoloesol ynghyd ag ystafelloedd gwladol cain o'r 17eg a'r 18fed ganrif.
Dewch â'r teulu a ffrindiau i fwynhau ymweliad am ddim ddydd Sadwrn, 19 Medi. Darganfyddwch y castell canoloesol, mwynhewch rosod olaf yr haf a cherddwch drwy'r ystâd 480 erw wrth i'r tymhorau newid.
www.nationaltrust.org.uk/chirk-castl
Plas yn Rhiw a Sarn y Plas, Pen Llŷn | 26 a 27 Medi, 10.30am - 4.30pm
Yn sefyll ar ochr bryn uwchlaw Bae Ceredigion, mae Plas yn Rhiw yn blasty o'r 17eg ganrif gydag ychwanegiadau Sioraidd, gardd addurnol a golygfeydd bendigedig.
O flaen Plas yn Rhiw mae Sarn y Plas, cyn gartref y bardd R. S. Thomas a'i wraig Elsie Eldridge. Ddydd Sadwrn a dydd Sul, 26 a 27 Medi, bydd gardd Plas yn Rhiw a Sarn y Plas ar agor am ddim.
Am 1.30pm ar y ddau ddiwrnod bydd taith gerdded dywysedig am ddim yn cychwyn o Sarn y Plas ac yn gorffen yn ystafell de Plas yn Rhiw, gan fynd heibio Fron Deg, tyddyn traddodiadol sy'n dyddio o'r 1870au (archebu yn hanfodol).
www.nationaltrust.org.uk/plas-yn-rhiw
Canolbarth Cymru
Castell a Gardd Powis, Y Trallwng | 12 a 13 Medi, 10am - 5pm
Yn uchel uwchben Dyffryn Hafren, mae Castell a Gardd Powis yn gartref i un o erddi hanesyddol enwocaf Prydain ac Amgueddfa Clive, sy'n cynnwys casgliad o arteffactau De Asia o bwys rhyngwladol.
Mwynhewch ogoniant diwedd yr haf yn yr ardd ac archwiliwch Amgueddfa Clive am ddim ddydd Sadwrn neu ddydd Sul, 12 a 13 Medi (ystafelloedd y castell ar gau).
www.nationaltrust.org.uk/powis-castle-and-garden
Llanerchaeron, Ceredigion | 12 a 13 Medi, 10am - 4.30pm
Fila Sioraidd cain a gynlluniwyd gan John Nash ym 1790, gyda gardd gaeedig, llyn, fferm a pharcdir gwyllt, sydd heb newid ers dros 200 mlynedd.
Mwynhewch ddiwrnod allan am ddim yn archwilio ystâd draddodiadol Gymreig ddydd Sadwrn a dydd Sul, 12 a 13 Medi. Archwiliwch y fila, ymwelwch â'r anifeiliaid yn yr adeiladau fferm a chrwydrwch o amgylch yr ardd gaeedig frics coch.
Rhwng 11am a 4pm, mwynhewch arddangosfa ail-greu hanes ar y lawnt flaen, gan fynd yn ôl i 1485 wrth i filwyr baratoi ar gyfer Brwydr Bosworth.
Sylwer bod mynediad i Lanerchaeron am ddim ar 12 a 13 Medi, ond bydd tâl parcio o £4 yn berthnasol i rai nad ydynt yn aelodau o'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
www.nationaltrust.org.uk/llanerchaeron
Bwthyn Pontbrenmydyr, Ceredigion | 12 a 13 Medi, 11am - 2pm
Dyma un o'r clomiau Cymreig olaf sydd wedi goroesi, bwthyn clom o'r 17eg ganrif wedi'i adfer yn ofalus gyda chyffyrddiad modern. Mae'n cynnwys llawer o'i nodweddion gwreiddiol gan gynnwys stondinau gwartheg, lloriau cerrig coblog a thrawstiau derw wedi'u duo gan fwg.
Fel arfer dim ond fel bwthyn gwyliau y mae ar gael, ond fel rhan o Ddrysau Agored bydd yn agor ei ddrysau i ymwelwyr ddydd Sadwrn a dydd Sul, 12 a 13 Medi.
https://cadw.gov.wales/open-doors-pontbrenmydyr-national-trust-cottage-aberaeron
De Cymru
Dinefwr, Sir Gaerfyrddin | 5 a 6 Medi, 10.30am - 4.30pm
Mae Dinefwr yn dirnod eiconig yn hanes Cymru. Wrth galon yr ystâd mae Tŷ Newton, cartref mawreddog a fu'n gartref i ddisgynyddion yr Arglwydd Rhys, Tywysog pwerus teyrnas Deheubarth, am fwy na 300 mlynedd. Mae'r ystâd wedi'i hamgylchynu gan barcdir tirluniedig o'r 18fed ganrif a Gwarchodfa Natur Genedlaethol.
Fel rhan o Ddrysau Agored, bydd mynediad i Ddinfwr am ddim ddydd Sadwrn a dydd Sul, 5 a 6 Medi. Drwy gydol y penwythnos, gall ymwelwyr gymryd rhan yng ngweithdy celf cymunedol ‘Dilyn y Deryn gyda Branwen’ gyda'r artist Ami Marsden a phori'r siop lyfrau ail-law dros dro yn yr Hen Gegin. Ddydd Sadwrn, gallwch hefyd archwilio Eglwys Llandyfeisant, cwrdd â Chyfeillion yr eglwys, ymuno â thaith gerdded dywysedig o Ddinefwr, darganfod y straeon sydd wedi'u cuddio yn ffabrig hanesyddol yr adeilad mewn sgwrs arbennig ‘Sut i Ddarllen Adeilad’, ac archwilio'r Parc Ceirw gyda Chrwydrwyr Dinefwr. Ddydd Sul, gall ymwelwyr hefyd gwrdd ag Orchardeers Dinefwr i hel a gwasgu afalau ym Mherllan Dreftadaeth Dinefwr.
Sylwer bod mynediad am ddim ar y dyddiadau hyn, ond bydd tâl parcio o £6 yn berthnasol i rai nad ydynt yn aelodau o'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
www.nationaltrust.org.uk/dinefwr
Gerddi Dyffryn, Caerdydd | 13 Medi, 10am - 5pm
Gwerddon heddychlon ar gyrion Caerdydd yw Gerddi Dyffryn, gyda'i hystafelloedd gardd, lawntiau ffurfiol eang, gardd rosod wedi'i hadfer ac arboretwm godidog.
Mae mis Medi yn amser gwych i ymweld â'r ardd 55 erw, gyda borderi lliwgar a dahlias bywiog. Mwynhewch ymweliad am ddim ddydd Sul, 13 Medi.
www.nationaltrust.org.uk/dyffryn-gardens
Tŷ Tredegar, Casnewydd | 13 Medi, 10.30am - 5pm
Mae Tŷ Tredegar yn un o ryfeddodau pensaernïol Cymru ac ymhlith tai pwysicaf diwedd y 17eg ganrif yn Ynysoedd Prydain. Wedi'i leoli mewn 90 erw o erddi a pharcdir hardd, mae'n lleoliad perffaith ar gyfer diwrnod allan.
Bydd y tŷ a'r gerddi ar agor am ddim ddydd Sul, 13 Medi. Darganfyddwch hanes y teulu Cymreig a fu'n byw yma am dros 500 mlynedd ac archwiliwch y tair gardd arbennig.
www.nationaltrust.org.uk/tredegar-house
Mwyngloddiau Aur Dolaucothi, Sir Gaerfyrddin | 19 a 20 Medi, 10am - 5pm
Darganfyddwch Ddolaucothi, yr unig fwynglawdd aur Rhufeinig hysbys ym Mhrydain, wedi'i leoli ym mhrydferthwch Dyffryn Cothi.
Mwynhewch fynediad am ddim ddydd Sadwrn a dydd Sul, 19 a 20 Medi. Archwiliwch iard y mwynglawdd, rhowch gynnig ar chwilio am aur, ymweld â'r siediau peiriannau a'r amgueddfa fach cyn mentro o dan y ddaear ar Lwybr Mwynglawdd Rhufeinig hunan-dywys.
(Mae teithiau tywys tanddaearol ar gael am gost ychwanegol. Mae archebu'n hanfodol.)
www.nationaltrust.org.uk/dolaucothi
Tŷ Masnachwr y Tuduriaid, Sir Benfro | 26 Medi, 11am - 4pm
Camwch i fyd masnachwr llwyddiannus a'i deulu yn y flwyddyn 1500, pan oedd y tŷ tri llawr hwn newydd gael ei adeiladu. Darganfyddwch siop y masnachwr a'r gegin weithredol ar y llawr gwaelod, a'r neuadd liwgar ar y llawr cyntaf gyda'i dodrefn Tuduraidd.
Teithiwch yn ôl i Ddinbych-y-pysgod y Tuduriaid a darganfyddwch sut beth oedd bywyd yn nhŷ masnachwr y 15fed ganrif gyda mynediad am ddim ddydd Sadwrn, 26 Medi.
Pethau eraill o ddiddordeb i chi
Cymru
Darganfyddwch gestyll tylwyth teg, gerddi godidog a thirwedd Geltaidd wyllt sy’n drysorfa o chwedlau ar eich ymweliad â Chymru.

Digwyddiadau Drysau Agored Cadw
Dewch o hyd i fwy o ddigwyddiadau Drysau Agored ar wefan Cadw.
