Skip to content
Prosiect

Y Bannau’n Cysylltu Natur: Tirwedd i natur a phobl

Wedi'i ddiweddaru ddiwethaf:
20 Ebrill 2026
An aerial view of a valley of fields, hedgerows and woodlands at Ty Mawr Farm, Bannau Brycheiniog (Brecon Beacons)
Golygfa o'r awyr o Fferm Ty Mawr, Bannau Brycheiniog © Ymddiriedolaeth Genedlaethol / Paul Harris | © National Trust Images/Paul Harris

Prosiect tair blynedd yw Y Bannau'n Cysylltu Natur sydd â'r nod o drawsnewid canol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn dirwedd fywiog a gwydn sy'n gyfoethog o ran natur. Drwy'r prosiect hwn, sydd wedi ei ariannu gan y Rhaglen Rhwydweithiau Natur a'i ddarparu gan y Gronfa Dreftadaeth ar ran Llywodraeth Cymru, byddwn yn adfer bioamrywiaeth ar raddfa enfawr, gan greu dyfodol mwy gwydn i natur a phobl.

Cefndir y prosiect

Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yw un o dirweddau mwyaf gwerthfawr Cymru, ond fel sawl lle yn y DU, mae natur yn y fan hon yn prinhau ar raddfa frawychus. 

Rydym yn bwriadu mynd i'r afael â'r dirywiad hwn drwy adfer 500 hectar (1236 erw) o gynefinoedd sy'n gyfoeth o fywyd gwyllt ar draws 7 safle o fewn y Parc Cenedlaethol. Drwy ailgysylltu ecosystemau darniog a gwella amodau er mwyn i rywogaethau ffynnu, rydym eisiau creu model enghreifftiol ar gyfer adfer byd natur.  

Creu etifeddiaeth gyffredin

Yn ogystal ag adfer natur, rydym yn creu cyfleoedd i bobl gysylltu â hi. Byddwn yn ymgysylltu â phobl ifanc, ffermwyr lleol a chymunedau, yn cynnig cyfleoedd hyfforddi a gwirfoddoli i bobl o bob cefndir ac yn cydweithio â phartneriaid gan gynnwys ysgolion a cholegau lleol, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog (APCBB), Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), Ymddiriedolaeth St Giles, a'r system gyfiawnder. 

Bydd ein hetifeddiaeth gyffredin yn dirwedd sy'n gyfoethog o ran natur ac yn gatalydd ar gyfer adfer byd natur ar draws Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, a gynhelir gan y bobl sy'n byw ynddo, yn gweithio ynddo ac yn gofalu amdano. 

A herd of five Herefordshire cows graze in a field at Ty Mawr Farm near Brecon, Wales. The Brecon Beacons mountain range is in the background.
Pori er lles cadwraeth ar fferm Ty Mawr, Bannau Brycheiniog © Ymddiriedolaeth Genedlaethol / Paul Harris | © National Trust Images/Paul Harris

Yr hyn fyddwn ni'n ei wneud

  • Adfer ac ailgysylltu cynefinoedd darniog, yn cynnwys Safleoedd o ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) a Gwarchodfa Natur Genedlaethol (GNG).

  • Gwella cynefinoedd fel dolydd a phorfeydd brwyn ac ymylon coed pori, rheoli prysgoed a sefydlu gwrychoedd a choed.

  • Creu Hwb Sgiliau pwrpasol yn Nhŷ Mawr ar gyfer hyfforddiant ymarferol mewn sgiliau cefn gwlad a chadwraeth i dros 2500 o unigolion. 

  • Creu meithrinfa goed a meithrinfa mwsogl sffagnwm i gynhyrchu planhigion a hadau â tharddiad lleol.

  • Gwarchod bywyd gwyllt drwy ddiogelu clwyd hysbys ar gyfer ystlumod pedol lleiaf a chyfoethogi cynefinoedd ar gyfer rhywogaethau eraill yn cynnwys bele'r coed, llygoden ddŵr, pathew, ehedydd, a glöyn byw brith y gors.

  • Hyfforddi tîm o wirfoddolwyr i fonitro'r ecoleg ar draws y rhwydwaith o safleoedd fel bod modd i ni weld sut mae natur yn adfer. 

  • Ymgysylltu â chymunedau â thrigolion lleol i gynnig cyfleoedd gwirfoddoli a galluogi cysylltiad â byd natur ar eu carreg drws.

  • Cyflwyno pori cadwraeth gyda gwartheg yn defnyddio coleri GPS.

  • Atgyweirio nodweddion treftadaeth, fel waliau cerrig sych a cheuffordd hanesyddol. 

Rhwydwaith o safleoedd

Mae ardaloedd y prosiect, a ddewiswyd am eu potensial i gael eu trawsnewid a'u huno er lles natur, yn cynnwys llethrau ucheldir Cwm Gwdi, dyffrynnoedd coediog Cwm Sere a Chwm Oergwm, glaswelltiroedd corsiog yng Nghoelbren a dolydd Fferm Tŷ Mawr.

Two people tend to saplings in pots at the tree nursey at Ty Mawr Farm, Bannau Brycheiniog (Brecon Beacons)
Gofalu am goed ifanc ar Fferm Ty Mawr, Bannau Brycheiniog © Ymddiriedolaeth Genedlaethol / Paul Harris | © National Trust Images/Paul Harris

Hwb Sgiliau yn Nhŷ Mawr

Wedi'i lleoli nepell o Aberhonddu, mae Fferm Tŷ Mawr wrth wraidd y prosiect trawsnewidiol hwn. Pan ddychwelwyd y fferm i'n gofal yn 2023, roedd yn gyfle i ni roi cynnig ar rywbeth newydd.

A hithau'n swatio yn Nghwm Tarell uchaf islaw Pen y Fan, mae'r fferm yn gyfuniad o gynefinoedd glaswelltir, coetir, gwrychoedd ac afondir. Mae adeiladau cynharaf y fferm yn dyddio'n ôl i'r 17eg ganrif, gyda llwybrau hynafol a waliau cerrig sych traddodiadol i'w cael ar hyd a lled y dyffryn hanesyddol. 

Yma byddwn yn sefydlu Hwb Sgiliau ar gyfer cadwraeth ymarferol ac ymgysylltiad cymunedol. Byddwn yn cynnig hyfforddiant ymarferol mewn sgiliau cefn gwlad i dros 2,500 o bobl, gan greu rhwydwaith o unigolion sy'n gallu helpu i ofalu am y dirwedd hon ymhell i'r dyfodol. 

Cymerwch ran

Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd i gysylltu â natur a helpu i'w hadfer ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog:

  • Bod yn wirfoddolwr cadwraeth a chymryd rhan mewn sesiwn wirfoddoli untro neu reolaidd i helpu'r tîm ceidwaid gyda gwaith ymarferol.

  • Ymweld â'r fferm gyda grŵp ysgol, coleg, addysg neu gymunedol a dysgu mwy am ei hanes, ei bywyd gwyllt a'n gwaith.

  • Mynychu digwyddiad sy'n helpu i fonitro adferiad y fflora a'r ffawna neu fynychu diwrnod hyfforddiant mewn sgiliau cefn gwlad dan arweiniad ceidwad.

  • Trefnu diwrnod adeiladu tîm corfforaethol a threulio'r diwrnod yn yr awyr agored yn helpu i adfer byd natur. 

Os oes gennych ddiddordeb mewn unrhyw rai o'r cyfleoedd uchod neu os ydych yn awyddus i gael gwybod mwy, anfonwch e-bost atom drwy TyMawrBrecon@nationaltrust.org.uk 

Diolch i'n cyllidwyr

#NNF4 Mae prosiect Y Bannau'n Cysylltu Natur / Beacons Connecting Nature yn cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Gyda chyllid o £971,888 drwy'r Gronfa Rhwydweithiau Natur, mae'r prosiect hwn yn rhan o ymdrech ehangach i gyflymu adferiad byd natur ledled Cymru.  

Ein partneriaid

Rhaglen Rhwydweithiau Natur

Ariennir y prosiect yma gan y Rhaglen Rhwydweithiau Natur. Mae'n cael ei ddarparu gan y Gronfa Treftadaeth, ar ran Llywodraeth Cymru.

Bannau Brycheiniog 

Dewch i archwilio tirwedd amrywiol Bannau Brycheiniog

Libanus, Powys

Yn hollol agored heddiw
Pen y Fan in the Brecon Beacons in the summer

Crwydro Pen y Fan a Chorn Du 

Anelwch am yr entrychion wrth i chi ddringo Pen y Fan a Chorn Du, y ddau gopa uchaf yn ne Prydain. Mae ffurf y grib yn un o’r golygfeydd mwyaf adnabyddus yn y DU. Darganfyddwch lwybrau cerdded a golygfeydd gwyllt godidog yng nghrombil anghysbell Bannau Brycheiniog.

Llun tirlun yn edrych ar draws copaon gwyrddion Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Powys.