Y prosiect yn dechrau yn swyddogol.
Chwefror 2026

Ein gweledigaeth yw i Glan Faenol fod yn goetir ffyniannus, gwydn ac yn gyfoethog o ran bywyd gwyllt — lle gellir rhywogaethau prin ac endemig ffynnu, a lle mae pobl yn teimlo ymdeimlad dwfn o gysylltiad a stiwardiaeth.
Wedi'i gefnogi gan y Grant Buddsoddi mewn Coetiroedd (TWIG), bydd prosiect #Coed6 Glan Faenol – Ymestyn Gwreiddiau dan arweiniad Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn cyflawni ystod o welliannau i wella mynediad, bioamrywiaeth, ymgysylltiad cymunedol a chadwraeth treftadaeth ar draws y safle.
Beth sydd ar y gweill?
Mae'r gwaith hwn yn yr hydref yn dechrau creu coetir iachach a mwy gwydn yng Nglan Faenol. Mae hyn yn golygu y byddwn yn cael gwared ar gonifferau anfrodorol, sy'n barod i'w cynaeafu, ac yn plannu planhigion newydd a fydd yn cynnwys coed llydanddail brodorol a choed pinwydd yr Alban.
Cau rhannau o Lwybr Arfordir Cymru
Oherwydd y gwaith coetir, bydd y rhan o Lwybr Arfordir Cymru sy'n mynd drwy Glan Faenol ar gau o 28 Medi am thua 6 wythnos. Bydd llwybr amgen ar gael.
Cafodd coed conwydd eu plannu yma rhai degawdau yn ôl, gan greu cynefin sy’n ecolegol wael. Mae nifer wedi cyrraedd aeddfedrwydd ac yn barod i ’w cynaeafu. Pe bai’r coed yn cael eu gadael i bydru, byddai llawer o’r carbon sydd wedi’i storio yn cael ei ryddhau yn ôl i ’r atmosffer.
Bydd cymysgedd amrywiol o goed llydanddail brodorol yn cymryd eu lle, gan gynnwys derw, bedw, criafol, gwern a chyll sydd o lawer mwy o fudd i natur. Bydd coed pinwydd yr Alban yn cael eu plannu hefyd i wella'r cynefin ar gyfer gwiwerod coch.
Bydd y gwaith hwn yn helpu i adfer iechyd a chydnerthedd ecolegol y coetir tra hefyd yn cefnogi uchelgais Glan Faenol i ddod yn rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.

Er ei leoliad prydferth ar lannau'r Afon Menai, mae mynediad gwael neu gyfyngedig yn atal rhai ymwelwyr a chymunedau rhag mwynhau'r safle.
Wedi’i gefnogi gan Grant Buddsoddi mewn Coetiroedd (TWIG), mae gwaith eisoes wedi dechrau i greu a gwella mwy na 1,300 metrau o lwybrau, gan ei gwneud yn haws i ymwelwyr archwilio a mwynhau Glan Faenol.
Bydd yr odyn galch o'r 19eg ganrif, un o nifer o nodweddion hanesyddol ar y safle, yn elwa o well mynediad, gwelededd a dehongliad, gan helpu ymwelwyr i ddarganfod a gwerthfawrogi treftadaeth gyfoethog Glan Faenol.
Byddwn yn uwchraddio ein gofod gweithdy i gynnwys storfa offer, goleuadau ac ystafell ddosbarth awyr agored ar gyfer ysgolion lleol. Bydd y cyfleuster gwell yn ein helpu i recriwtio mwy o wirfoddolwyr ac yn ein galluogi i gynnal mwy o weithgareddau sgiliau coetir, fel gwaith coed, coedlannu a chasglu hadau.

Chwefror 2026
Y prosiect yn dechrau yn swyddogol.
Mae'r prosiect yn cael ei ariannu gan y Grant Buddsoddi mewn Coetir (TWIG), cynllun grant sy'n darparu cyllid i greu, adfer a gwella coetiroedd yng Nghymru, sydd yn cael ei ddarparu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol mewn partneriaeth a Llywodraeth Cymru a'u Rhaglen Coedwig Genedlaethol i Gymru.
Ariennir y prosiect hwn gan gynllun y Grant Buddsoddi mewn Coetiroedd (TWIG). Mae'n cael ei ddarparu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru.