Prosiect Newydd i wella coetir Glan Faenol er budd bywyd gwyllt a chymunedau
- Cyhoeddwyd:
- 13 Awst 2026

Mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru wedi cyhoeddi bod prosiect newydd ar waith yng Nglan Faenol ger yr Afon Menai i helpu i greu coetir ffyniannus a gwydn, lle gellir bywyd gwyllt ffynnu a lle gellir pobl gael mynediad at natur a threftadaeth.
Wedi’i ariannu’n rhannol gan gynllun Grant Buddsoddi mewn Coetiroedd (TWIG), bydd prosiect #Coed6 Glan Faenol – Ymestyn Gwreiddiau dan arweiniad yr elusen gadwraeth yn cyflawni nifer o welliannau i hybu mynediad, bioamrywiaeth, ymgysylltiad cymunedol a chadwraeth treftadaeth ar draws y safle.
Mae coedwigaeth fasnachol yn ystod yr 20fed ganrif wedi cael effaith sylweddol ar fioamrywiaeth ac iechyd coetiroedd Glan Faenol, gan greu blociau ecolegol tlawd o goed conwydd sy’n tyfu’n gyflym o fewn yr hyn a oedd unwaith yn goetir hynafol, lled-naturiol ac amrywiol.
Fel rhan o ymdrechion i adfer y coetir sy’n dechrau’r hydref yma, bydd ardaloedd o blanhigfeydd conwydd anfrodorol yn cael eu disodli gan gymysgedd amrywiol o goed llydanddail brodorol, gan gynnwys derw, bedw, criafol, gwern a chyll sydd o lawer mwy o fudd i natur. Yn ogystal, bydd pinwydd yr Alban yn cael eu plannu hefyd i wella'r cynefin ar gyfer gwiwerod coch.
Bydd y gwaith rheoli hwn yn helpu i adfer gwydnwch y coetir tra’n cefnogi uchelgais Glan Faenol i ddod yn rhan o’r Goedwig Genedlaethol i Gymru, sef rhwydwaith o goetiroedd a choedwigoedd ledled Cymru.
Bydd dod â’r coetiroedd yn ôl i gyflwr ffafriol yn fuddiol i blanhigion a bywyd gwyllt megis y Cerddin Menai, sydd i’w gweld yn unig ar hyd y darn yma o’r Afon Menai, yn ogystal â phoblogaeth fechan yr ardal o wiwerod cochion a bele’r coed.
Diolch i gyllid TWIG, mae gwaith eisoes wedi dechrau i greu a gwella mwy na 1,300 metrau o lwybrau, gan ei gwneud yn haws i ymwelwyr archwilio’r coetir a mwynhau ei leoliad trawiadol ar lannau’r Menai.
Bydd yr odyn galch o’r 19eg ganrif, un o nifer o nodweddion hanesyddol y safle, yn elwa ar well mynediad, gwelededd a dehongliad, gan helpu ymwelwyr i ddarganfod a deall treftadaeth gyfoethog Glan Faenol.
Bydd y prosiect hefyd yn gweld newidiadau a gwelliannau i gyfleusterau gweithdy Glan Faenol, gan gynnwys storfa offer newydd, gwell goleuo a chreu ystafell ddosbarth awyr agored ar gyfer ysgolion lleol. Bydd y rhain yn cefnogi mwy o gyfleoedd gwirfoddoli a rhaglen ehangach o weithgareddau sgiliau coetir, gan gynnwys gwaith coed, coedlannu a chasglu hadau.

Dywedodd Meirion Edwards, Ceidwad Prosiect gydag Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru: “Bydd y prosiect hwn yn ein helpu i adfer a gwella Glan Faenol er budd pobl a bywyd gwyllt. Drwy wella mynediad, cefnogi rhywogaethau prin ac adfer coetir brodorol, rydym yn helpu i sicrhau dyfodol y safle wrth greu cyfleoedd newydd i gymunedau lleol fwynhau a dysgu o’r lle arbennig hwn.”
Mae’r prosiect yn cael ei gefnogi gan y Grant Buddsoddi mewn Coetiroedd (TWIG), sef cynllun grant sy'n darparu cyllid i greu, adfer a gwella coetiroedd yng Nghymru, sydd yn cael ei ddarparu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol mewn partneriaeth a Llywodraeth Cymru a'u Rhaglen Coedwig Genedlaethol i Gymru.
Am ddiweddariadau am y prosiect, ewch i www.nationaltrust.org.uk a chwiliwch am Glan Faenol. I wirfoddoli gyda’r prosiect, anfonwch e-bost at faenol@nationaltrust.org.uk.